31.1.02

praystation

Dylwn i fod yn y gwely, ond dw i newydd ail-ddarganfod praystation a fydda i ddim yn gallu cysgu nes i mi archwilio byd Joshua Davis tipyn bach mwy.
Erthygl a chyfweliad â Evan Williams yn y Guardian heddiw. A dw i'n hoffi'r syniad 'ma: Googlewacking:
The aim of the game is to enter two words into the Google search engine and come up with just one result from Google's archive of more than three billion Web pages.
Byddai'r gêm 'ma yn hawdd iawn yn y Gymraeg, o'n i'n meddwl. Wedi'r cwbl, sech chi'n iachwr rwtsh sy'n canu'r delyn anobeithiol yn eich castell ffeirws, ble fyddech chi'n mynd am eich dolennau zeldman neu'ch trafodaeth fattist ond i'r weflog fwya poblogaid yng Ngheredigion? diolch i maff am y dolenni

30.1.02

Ai Saesneg yw "iaith y we"?

Yn Golwg wythnos diwetha, oedd erthygl yn dweud nad yw Cymraeg yn bodoli ar y we, a Saesneg yw iaith frodorol y cenedlaeth wedi'i wifrennu. Roedd y boi yn yr erthygl rhyw fath o arbenigwr, mae'n debyg, ond ces i'r argraff nad yw'n hala llawer o'i amser defnyddio'r offer mae'n e'n sgwennu amdanyn. Er enghreifft, oedd e'n honi nid oes chatrooms Cymraeg eu hiaith ar gael ar y we, ac mae hyn yn arwydd bod Gymraeg ar fin farw fel iaith fodern, neu rhywbeth. (Ydy unrhywun yn defnyddio chatrooms y dyddiau hyn? Ar wahan i ddynion canoloed sy'n esgus bod nhw yn eu harddegau ac sy'n cael seiba-secs gyda dynion canoloed eraill sy'n esgus bod nhw yn eu harddegau, hefyd. But I digress...) Yr awgrym oedd, dylai'r Doethion yn y Docs wneud rhywbeth i helpu plant y ganrif newydd cymryd eu cyfrifoldebau tuag at yr iaith o ddifri. Eniwei:
...what if this alleged absolute domination by the English language and its cultural implications were simply a transitory phenomenon, in its early stages and therefore reversible?
Mae digon o dystiolaeth o blaid y cred hwnna. A digon yn ei erbyn, chwarae teg. Ond nid ar y llywodraeth bydd y bai 'sen ni ddim yn creu ein diwwylliant ein hunain yn ein hiaithoedd ein hunain.

A fydd Blogger ar gael yn y Gymraeg?

Dw i wedi gofyn i Evan Williams a fydd hi'n bosibl i ddatblygu fersiwn Cymraeg o Blogger Pro. Ei ateb e:
Well, if we find a Java locale class for Welsh (I'm sure there is one), maybe we can integrate it. But I can quite take time to figure out how to write one just yet.
Tebyg bod pethau eraill 'da fe i boeni amdanyn nhw. Felly, cwestiwn cyntaf - oes 'na unrhywun sy'n darllen hwn sy'n gwybod beth yw Java locale class (dw i wedi ffindio cwpl o dudalennau, ond, fel ein ffrind Ifan ap Gwilym, does dim lot o amser sbâr 'da fi) ac os felly, sut i adeiladu un yn y Gymraeg? Unrhywun sy'n gwybod sut mae Google yn handlo pethau fel hyn? Rhowch wybod, da chi.

29.1.02

Reit, wel, mae'n gweithio - er fod gormod o Saesneg yn y negeseuon. Dw i'n rhy flinedig nawr i rhoi bocs tanysgrifio i mewn. 'Set ti am danysgrifio i'r rhestr bostio, hala e-bost at morfa-subscribe@yahoogroups.com.
Dw i wedi sefydlu rhestr bostio - jyst sieco bod hi'n gweithio...

Croeso i MorfaBlog Pro...

Argraffiadau cyntaf:
  • Rhestr o 92 iaith am dyddiadau ac yn y blaen, ond dim Cymraeg hyd yn hyn, er fod nifer o weflogau Cymraeg eu hiaith wedi dwbli dros y mis diwetha!
  • Dim digon o gefnogaeth i'r Mac, o hyd, yn enwedig gyda shortcuts Javascript. Dylwn i ddysgu AppleScript a sgwennu fy shortcuts fy hunan, sbo, ond nawr mod i'n gwsmer sy'n talu, dw i eisiau gwasanaeth cystal â un Windows, damia!
  • Dw i eisiau merlyn, hefyd.
  • Hoffi'r bwlch teitl, ac un neu ddau welliannau yn y rhyngwyneb. Mae amser ymateb wedi gwella, hefyd (tybed mae Pyra yn defnyddio gweinyddion newydd i'r cwsmeriaid newydd.
  • Peth gorau bydd yr opsiwn i hala negeseuon newydd trwy ebost at unrhywun sy'n ddigon dwl i danysgrifio i restr bostio (gwiliwch y lle ar y chwith...)
Ar y cyfan, dw i'n falch mod i wedi talu am y gwasanaeth newydd. Mae Blogger wedi bod yn rhad ac am ddim ers y dechrau, ac dydy $1 yr wythnos ddim yn ormod i ofyn am wasanaeth tipyn bach yn well.
A dyma ni. Blogger Pro. Wel, roedd hynny yn hawdd. Gawn ni weld beth gallwn ni neud gyda'r peth, 'te...
Newydd ail-gynllunio tipyn bach. Dw i wedi rhoi'r gorau i Blogback (y bylchau trafod) - a dw i'n symud i Blogger Pro cyn bo hir. Mwy o newyddion yn fuan.
A all iaith fod yn wampam?
Wampum served to engender further diplomatic contact; its presentation was a gesture that required a repricocal effort on the part of the recipient. Acceptance of the gift of wampum implied the acceptance of its message. In this way, wampum functioned like a certificate. This wampum belt is an abstract representation of an alliance between two peoples, signified by the straight path running between them.
Yma yn Llangrannog, lle mae llai na 30% o bobl y plwyf yn medru'r iaith, mae cynllun yn yr arfaith i droi hen gapel i ganolfan gelfyddydau neu ganolfan ddywylliannol neu ganolfan beth-bynnag-y-gall-pobl-gytuno-arno-fe. A fydd hi'n bosibl i greu rhywbeth Cymraeg a Chymreig ei naws heb godi y fath stwr dyn ni wedi gweld gormod ohono yn ddiweddar? Dw i'n cofio darllen erthygl yn Planet sbel yn ôl oedd yn awgrymu y bydd hi holl bwysig am ddyfodol yr iaith yng Nghymru i ddod â Chymry di-Gymraeg i mewn i'r cylch - a gan Cymry, o'n nhw'n sôn am bobl Cymru i gyd - 'sdim ots o ble wyt ti'n dod, ble wyt ti'n mynd, gyfaill? A all y Gymraeg fod ein wampam ni, 'te?
Cynllunio iaithyddol yn British Columbia. Mwy o'r sgwrs Mefi, isod.
Ieithoedd mewn peryg neu sy wedi diflannu. Daeth y linc 'ma i'r sgwrs Metafilter am y stori hwn. Un o'r rhesymau dw i'n dal yn ymweld â Ffilteruwch yw'r ffaeth bod digon o bobl deallus 'na i achub hyd yn oed sgwrsiau sy'n dechrau yn wael rhag bod yn wastraff o amser llwyr. Dw i ddim wedi dod ar draws unrhyw safle drafod arall gyda chymhareb signal i swn mor dda. <hen_rechwr>Wrth gwrs, oedd pethau llawer gwell ers talwm, cyn i Medi 11.</hen_rechwr>

28.1.02

Darlith Dr Peter Williams - Adfywio ein cymunedau: Ai cwmnïau cymunedol cydfeddiannol yw'r ateb? Dw i'n rhy flinedig i'w ddarllen ar ôl diwrnod hir. Amser gwely i mi.
Gwaith Henry Darger. Ro'n i'n arfer darllen Raw Vision pan o'n i'n gweithio yn Oriel, ond dw i ddim yn cofio gweld unrhywbeth fel hyn o'r blaen. via mefi - mwy o lincs am Darger yno

27.1.02

Dw i newydd lawrlwythio MAME i'r Mac, felly fydda i ddim yn postio 'ma yn aml am sbel.

25.1.02

Ffar owt. Newydd cael ymweliad o'n ffrind Toni Haig, sy wedi fy nhroi fi ymlaen at y band siecadelig, United States of America, un o'i hoff fandiau. Dyn ni wedi archebu eu hunig CD ond hoffwn ffindio mwy o stwff gan ei harweinydd, Joe Byrd.

23.1.02

Gargoyle - traethodau, ffuglen, barddoniaeth ac ati.
Aethon ni i noson i ddysgwyr a drefnwyd gan Men ter Bro Teifi heno. Y prif reswm o'n i am fynd oedd y lleoliad: oedd hi'n cael ei chynnal yn y Llwyndafydd, Saron, tafarn dw i wedi ei phasio canwaith ond erioed wedi bod i mewn. Roedd y tywydd yn ofnadwy, stormus iawn (mae'n debyg bod yr heol o'n ty ni lawr i Langrannog wedi'i gau - sa i'n gwybod pam, ond falle cwypodd coeden ar ei draws?). Felly, doedd bron neb 'na, dim ond rhyw 8 neu 9 o bobl, a'r rhan fwya ohonon ni'n gallu siarad Cymraeg yn barod. Ta beth, oedd hi'n noson reit dda, a sgwennog Alun y Bardd gerdd i Barbara (sy'n dysgu Cymraeg gyda fi yn nosbarth Wlpan, Llangrannog).

21.1.02

Gwefannau Seth. Dylen nhw fod wedi defnyddio seren sebon bach yn fwy, falle. Bydden fito lot mwy o lincs ar gorff Denzil. Cyn i unrhywun yn fy nghyhuddio fi o fod yn fattist, dylen i ychwanegu mod i'n edrych fel Robbie Williams cyn iddo fe symud o'r cacs i'r cocên. Dw i jyst ddim yn lico Denzil. Sori.
"Do languages matter?" Bob blwyddyn, gofynna edge.org gwestiwn i 'feddylwyr' y byd. Eleni, maen nhw wedi gofyn "Pa cwestiwn fyddwch chi ei ofyn?" Dyma rhan o ateb Xeni Jardin i'w chwestiwn ei hunan:
If we measure the value of a language simply by the number of people it allows us to communicate with, bigger would always be better, and the death of an endangered language would be of no consequence to the rest of the world. If 128 million people speak French, and roughly 100 people speak Pomo — a nearly extinct indigenous language in California — then French is exponentially more valuable than Pomo.
But language is not math. Language is embodiment of cultural identity. Language is nuance, context, place, history, ancestry. Language is an animate being; it evolves, it adapts, it grows. Language is the unique, neural fingerprint of a people. Language is a living code that provides structure for human experience. Language is intellectual DNA.
Newyddion diddorol i bob ffan Two Lane Blacktop. Mae tribute album i'r ffilm yn cael ei gynllunio yn yr Eidal, gyda cyfraniadau gan Calexico a Dipstick. Dw i ddim yn gallu ffindio mwy o fanylion eto, ond mae'n swnio yn wych. Yessir.

20.1.02

Gweflog Clwb Malu Cachu - yr ail weflog Gymraeg ei hiaith. Rhaid i mi dynnu fy mys ma's.
Lleisiau Lleol - adran newydd yng ngwefan y BBC, sy'n edrych ar ardaloedd wahanol Cymru a'u papurau bro. Mae'n nhw'n dechrau gyda'r Gogledd Dwyrain.

19.1.02

John Cowper Powys yn America. Wrth lunio fy ngwaith cartref diweddaraf, sef portread o JCP, des i ar ôl y wefan hon, gyda lluniau o'i fwthyn yn nhalaith Efrog Newydd, Phudd Bottom.

16.1.02

Rheolau ieithyddol dwfn wedi'u darganfod. Oedd Chomsky yn iawn, 'te? via nutlog
Rheolau ieithyddol dwfn wedi'u darganfod. Oedd Chomsky yn iawn, 'te? via nutlog

14.1.02

Un problem gyda'r penliniadur yw mod i ddim yn gallu gweld y bocs sgwrsio - mae e wedi diflannu. Os wyt ti wedi gadael neges ar y tudalen 'ma ac dw i heb ateb, dyw e ddim byd personol. Rhaid i mi ffindio cyfundrefn drafod sy'n gweithio gyda Maciaid. Yn y cyfamser, dw i'n dal yn hoffi e-bost.

13.1.02

Nweydd cofrestru gyda SpamCop, er mwyn torri i lawr y domen o sbam dw i'n derbyn ar hyn o bryd. Wrth sôn am sbam, wyt ti wedi clywed y stori bach hyn?

12.1.02

Cyfweliad NUblog â Jukka Korpela, arbenigwr mewn cynllunio amlieithog ar y we.

9.1.02

Mae'r Mac newydd wedi cyrraedd, felly dw i'n cael llawer o hwyl danganfod yr holl wahaniaethau rhwng Windows ac OS X. Mae popeth yn edrych yn iawn, hyd yn hyn. Dw i wedi llosgi CD, chwarae DVD, a dyma fi syrffio'r we. Fel dwedodd Vincent Vega a Dewi Sant, y pethau bychain sy'n bwysig.

7.1.02

Y bore 'ma, yn y dosbarth yn neuadd yr eglwys yn Llangrannog, ro'n ni'n sôn am San Francisco. Roedd pawb yn y dosbarth wedi bod yn S.F., sy'n peth digon od (mae'n ddosbarth bach). Ro'n i'n siarad â Lizzie ac ro'n ni'n trïal cofio enw y sgwar yn S.F. ble oedd y hipis yn casglu. Do'n ni ddim yn gallu cofio. Wrth ddarllen trafodaeth Metafilter am Robert Crumb des i ar draws dolen i stwff am Richard Brautigan, un o'm hoff awdurion o adeg y hipis. Pan o'n i yn America yn 1993, nes i fynnu fynd ma's o'n ffordd i ymweld â thref fach o'r enw Thoreau, New Mexico, achos mod i'n cofio darllen stori Brautigan. So, dyma fi edrych am lyfrau Richard Brautigan, a dyma fi'n agor Trout Fishing in America, a dyma'r geiriau agoriadol:
The cover for Trout Fishing in America is a photograph taken late in the afternoon, a photograph of the Benjamin Franklin statue in San Francisco’s Washington Square.
Wrth gwrs, Washington Square.

5.1.02

Mân betheuach am y Sadwrn
Dw i'n hoffi'r llun 'ma o amlen o'r 60au gyda hen ddigon o stampiau arni.[via machaus] Recordiau gorau 2001 yn ôl Yr Onion. Fersiwn cartwn o NickYmgnawdoliadau cartwn. Dyma fi, heb fola cwrw. Söoleg Rhyfeddol - dehongliad graffigol o Book of Imaginary Beings J.L.Borges [via nutlog]

4.1.02

Digwyddiadau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Ionawr 18 -20
Penwythnos Addysg Wleidyddol

Globaleiddio a'r Iaith Gymraeg
Clwb y Bont Pontypridd ( lleoliad i'w gadarnhau yn bendant)
Adam Price AS a Ben Gregory yn cymryd rhan.
Rhan o baratoadau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar gyfer ysgrifennu Maniffesto 2002.
Dydd Sadwrn Chwefror 9fed
Rali Trefechan 2002

Mae'r Frwydr yn Parhau
Pont Trefechan Aberystwyth 11 o'r gloch
Mawrth 8 - 10 2002
Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas

Canolfan Merched y Wawr, Stryd yr Efail, Aberystwyth
Dydd Sadwrn Ebrill 20fed
Cynhadledd Ceredigion

Oes Dyfodol i'r Gymraeg yng Ngeredigion?
Gwesty'r Plu, Aberaeron
Gyda:Dr Dylan Phillips, Dr Delyth Morris, Hywel Evans (Menter a Busnes), Dilwyn Roberts-Young, Sian Howys
cymdeithas.com
Penwythnos o Gyrsiau Cymraeg - Plas Tan y Bwlch
Mae'r Plas yn cynnig dau gwrs dros y penwythnos Mawrth 8fed - 10fed:
Adar y Gaeaf - Twm Elias
Ar yr adeg hon o'r flwyddyn bydd llawer iawn o'r gwahanol adar fu gyda ni dros y gaeaf yn dal o gwmpas yn yr aberoedd, yn hwyaid, rhydyddion, gwyddau ac elyrch gwylltion. Yn ogystal gallwn ddisgwyl gweld nifer o rywogaethau fydd yn pasio heibio ar eu ffordd i'r gogledd, fydd ond i'w gweld yn y gwanwyn a'r hydref fel arfer, ar eu teithiau ymfudol rhwng eu cynefinoedd gaeafu a nythu. A phwy a wyr? Efallai y cawn groesawu ymfudwyr cynta'r gwanwyn - y siff-saff a thinwen y garn.
O'r Blaenau i'r Traethau - Creigiau, Tirffurfiau a Dyn - Dyfed Elis-Gruffydd
Mae hanes y creigiau a'r tirffurfiau godidog Morfa Harlech, yn ddigon o ryfeddod. Ond nid llai diddorol a rhyfeddol yw'r modd y mae dyn, ar hyd y canrifoedd, wedi manteisio ar gyfoeth creigiau a thirffurfiau'r fro. Roedd meini'r ardal yr un mor bwysig i gymunedau cynhanesyddol ag yr oeddent i berchnogion chwareli llechi Ffestiniog, ac oni bai am rym erydol rhewlif Stwlan fyddai hi ddim wedi bod yn bosib datblygu cynllun trydan-dwr Tanygrisiau!
Manylion
Jaci Thomas
plas@eryri-npa.gov.uk
via'r rhestr WriteWelsh

3.1.02

Damwain a hap.
Lluniau o'r anialwch. Popeth am fwsoglau a llysiau'r afau Cymru. Hwyl gyda cen y cerrig ym mhrifysgol Oregan (ac oriel porteadau cen y cerrig, rhywle arall). Archif Noam Chomsky, stwff gwleidyddol, ar y cyfan. Erthygl hir ar darddiad ystumiol ieithoedd. Cyfrifiad 1901 ar gael, ar-lein (ond yn araf iawn).

2.1.02

Dim a Radio Datblygu
Neu rywbeth.