31.8.01

30.8.01

ILoggers - rhestr o wefannau personol a gweflogiau o Iwerddon. Hoff teitl: Nobody knows I'm Elvis - gyda Sartre's Cookbook:
I have realized that the traditional omelette form (eggs and cheese) is bourgeois. Today I tried making one out of cigarette, some coffee, and four tiny stones.
Drueni fues i ddim yn "Star Trek" - mae pawb yn hoffi'r blogwr newydd ar y bloc, y boi oedd yn chwarae Wesley Crusher. Mae e'n cwyno bod un neu ddau berson ar Metafilter wedi dweud pethau cas: os ydy e am fywyd tawel, heb ymwelwyr, heb sylwadau yn y fforwm trafod, heb unrhyw ymateb ond 'ere, you wrote about my website in your funny language - what'dja say?, dylai fe drïal gweflogio yn y Gymraeg. Chwerw, finnau? hei, falle bydd e'n dod ar draws hyn yn ei referrer logs a chwyno bod 'na bobl yn siarad amdano mewn ieithoedd dieithr, hefyd
Rhodri Glyn Thomas: 'Dim ateb gan fudiadau iaith' - ond mae'n Cynulliad ni yn gwneud job da iawn o sicrhau dyfodol i'r Gymraeg? Hmmn.
Geiriau Twm - mae gan Radio Cymru cyfres newydd, Mewn Gair, ac mae gan Twm Morus ei gornel fach sgwarnogaidd i drafod ei hoff geiriau. ar amserlen y BBC mae pwnc y rhaglen yn "Music; Pop"
Dau neges fer oddi wrth Cymuned: CYFARFOD CRYMYCH. 2 o’r gloch pnawn Sadwrn, 8 Medi 2001 yn Theatr y Gromlech. Siaradwyr: Tecwyn Ifan, Glyn Powell, Moelwen Gwyndaf, Simon Brooks. Lluniaeth yn y neuadd a’r Crymych Arms; adloniant yn hwyrach yn London House. DEWCH i gefnogi ac i dynnu sylw at broblem y mewnlifiad yn ardaloedd deheuol Cymru. SWYDDOG GWEINYDDOL. Lleoliad – Aberystwyth; 15-20 awr yr wythnos; cyflog @ £14,000 pro rata; rhaid wrth brofiad o Word, Access a’r We; i ddechrau 1 Hydref. Manylion/ceisiadau (ar ffurf llythyr + CV) erbyn 17 Medi i swyddfa Cymuned. (Ffôn dydd am y tro: 01970 – 832 304). A wyddoch chi am rywun da?

29.8.01

Newydd cofrestru dysgu.com - rhywle i roi manylion dosbarthiadau yn Ne Ceredigion ac yn y blaen. Dweud y gwir, sdim syniad 'da fi beth i wneud gyda fe. Unrhyw syniadau 'da ti?

28.8.01

Wythnosau yn ôl, ymddangoswyd erthygl gan Beca Brown (yn y Gymraeg) yn y cylchgrawn Barn. Nawr bod un o'r papurau newydd Saesnig wedi cyfieithu ei sylwadau, mae ymateb knee-jerk o'r Torïaid. Dyma'r blaid nad yw'n gwybod bod un o'i haelodau yn dad i Gadeirydd y BNP.
Mae Philippa wedi mynd i Lanelli i ymddangos ar raglen S4C digidol Prynhawn Da. Ro'n i'n mynd i fynd gyda hi ond ro'n i'n ddigon lwcus i ennill yr wobr gyntaf mewn raffl neithiwr - coes enfawr cig oen. Felly, mae rhaid i fi aros gartre a'i choginio. Dw i erioed wedi coginio darn o gig mor fawr. Prynais i'r tocyn ar ôl treilio pump awr rhedeg stondin bric-a-brac yn y pentre, codi arian i Gronfa'r Milflwyddiant. Fel arfer, dw i ddim yn treulio lot o amser edrych ar ymwelwyr yn Llangrannog. Dyw hi ddim yn brofiad dymunol, ar y cyfan. Y bore 'ma, gyrrais i Aberteifi i fynd â'r gweddillion y stondin i siop Oxfam. Gwrando ar Libertino yn y car - fy hoff tâp ar hyn o bryd.

24.8.01

Collodd mabolgampwr Cwebecaidd ei fedel aur efydd yng Ngemau Canada am ddangos ei din i'r torfa. Rhoiodd bai ar wahaniaethau diwylliannol. Cwestiwn: beth yw to moon yn Gymraeg?

21.8.01

Dyddiadur Steddfod (yn Saesneg, y rhan fwya) gan Lewis Malu Cachu.
I also talk to Padi from CYD, who insists on talking Welsh (a good thing - I resort to English far too easily for my own good), and I have my first extended conversation in my second language. I feel very proud of myself as I leave the pabell - not only have I actually spoken to a stranger in Welsh, but I’ve also coped easily with two surprise attacks of Welsh already. As Eifion points out, though, this is the Eisteddfod and to have people talk to me in Welsh is hardly a ‘surprise’ per se, but that’s not the point. The point is that people said stuff to me in Welsh that I wasn’t expecting, and not only did I understand, I responded intelligibly. Ish.

20.8.01

Gyda caniatád Rhobat Bryn, dw i wedi rhoi testun ei erthygl ddiweddar yn y Western Mail ar dudalen we:
Language is not a racist issue
Rhobat oedd fy nhiwtor Cymraeg yng Nghaerdydd - do'n i ddim yn gwybod fod e'n gallu siarad Saesneg, hefyd.

14.8.01

Mandalas gan blant ysgol Pocantico, Efrog Newydd. Rwy'n y we.

9.8.01

Erthygl ar y Gymraeg (yn Saesneg) ar wefan porn meddal. (Rhybudd: noethni. Hei, ble mae pawb wedi mynd?) A paid â gofyn i mi sut ffeindies i'r safle. Fel wedodd Zeldman, dw i'n gwybod ble mae popeth ar y we.

Paid â hawlio'r trysorau — na honni

Fod, fan hyn, hen leisiau

Na thai, nac iaith, na tho iau:

Hiliaith yw sôn am hawliau.

Myrddin ap Dafydd

8.8.01

Llongyfarchiadau i Michelle ac Alun ar enidigaeth Tirion. Ces i dipyn o sioc pan siarades â fy mam y bore 'ma:
Your cousin's had a baby. They're calling it Tiffany
Grêt, meddylies, babi Cymraeg cynta yn ein teulu ers cenedloedd, ac maen nhw wedi ei henwi ar ôl cymeriad Eastenders. Ffonodd nhad heno i ddweud taw ar fy nain oedd y bai; oedd hi mor falch cael ei gor-wyres cyntaf doedd hi ddim wedi clywed yr enw yn iawn, a ddim wedi gofyn cwestiynau. Ta beth, da iawn Michelle, a chroeso i'r byd, Tirion fach.
Un arall o'r logiau cyfeiriadau. Rhyfedd iawn beth mae pobl yn chwilio amdando, ond dyw hi? O, dw i newydd sylweddoli o ble daeth y person 'ma i'm mlog fach ddinwewid (edrych ar y ddolen...)
Dolen arall oddi wrth rhywun nad yw'n medru'r Gymraeg. Ond, y tro 'ma, mae'n hi'n Gothes fampiraidd yn gwisgo rwber du, felly mae pethau yn gwella.

7.8.01

Am rhyw reswm, dw i'n hoff iawn o luniau hapgael. Dw i'n cael gwefr bach bob tro mod i'n dod ar draws llun mewn llyfr ail-law. Rhaid i mi brynu sganwr. (Mwy o luniau hapgael fan hyn, fan hyn a fan hyn.)
Wrth ychwanegu sgript archifau Blogger i neud rhestr archifau cwympo-i-lawr, fe syweddolais bod y rhan fwya o'r archifau wedi diflannu! Sdim byd ar ôl cyn mis Gorffennaf. Wedes i ddim byd werth ei gadw, ta beth.

6.8.01

Wel, sdim byd yn digwydd ar y we. Mae Metafilter wedi mynd oddi-ar-lein, tra bod Matt ar ei wyliau; mae Negesfwrdd y Cymry Cwl wedi mynd i gysgu tra bod pawb yn y Steddfodd neu rywbeth. Man a man i mi drïal ddarllen Y Pla.
Newydd dod ar draws Reblogger, meddalwedd rhad ac am ddim sy'n cynnig fforwm trafod i'r weflog. Dw i wedi defnyddio Blog Voices o'r blaen, ond maen nhw'n cael problemau gyda'u server. Mae hwn yn edrych yn dda. Felly, dweud 'helo' gan roi glec ar y botwm 'trafod, isod.
Look, dw i'n gwybod bod hi'n blentynaidd, ond dw i erioed wedi bod Rhif 1 mewn unrhyw rhestr o'r blaen. A chyn i ti sgwennu mewn i ddweud bod 'na dau wall iaith yn y disgrifiad (o leia), dw i'n gwybod, océ? Ond sdim ots 'da fi, achos Rhif 1 ydw i. Tipyn bach fel côr Rhuthun.
'Dylid ymateb i argyfwng yr iaith fel y gwnaed efo'r clwy' meddai John Elfed Jones, Cadeirydd Grwp Ymgynghori'r Cynulliad (stori BBC am ei erthygl yn Barn mis Awst).

4.8.01

Bydd cyfarfod nesa Cymdeithas D.J. wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Gwener, 10 Awst, am 11.30 y.b. yng Nghlwb Plas Pigot, Heol Rhuthin, Dinbych (01745) 812248. Mae 'na map ar eu gwefan, hefyd.
Independent on Sunday (21/1/01) - cân gan Twm Morys, mwy neu lai. Llawer iawn mwy o stwff y Cynganeddwyr yn yr Oriel.
Fe brynais CD newydd Pigyn Clust ddoe. Mae'r cerddoriaeth yn arddechog, fel arfer, ac mae'n braf gweld Idris Morris Jones yn gwenu fel ei alter ego ar y clawr (os dych ddim yn gwybod beth yw alter ego Idris, nid fy lle i yw e i'w ddweud). Ond tu mewn y clawr mae 'na lluniau mwya pornograffig welais erioed ar glawr CD cerddoriaeth gwerin Cymreig. Falle rhywfath o brawf meddyleg yw e, a fi sy ar fai am fod meddwl brwnt, plentynaidd 'da fi, ond so nhw edrych fel ffrwth i mi. Falle mod i'n treulio gormod o'm hamser ar y rhyngrwd.

2.8.01

Newydd sgwennu llythyr i'r Teifi Seid, sôn am yr hen dadl flinedig: unrhyw un sy'n siarad am fewnlifiad yn otomatig yn cael ei alw 'hilgi'.

1.8.01

Stwff newydd ar wefan Clwb Malu Cachu, yn cynnwys cyfweliad â Sandi Thomas, awdur y llyfr You Don't Speak Welsh! ac adolygiad dau lyfr newydd gan arwr bob dysgwr, Bob Eynon.
Noson da gyda grŵp CYD Llangrannog yn y Pentre Arms heno. Ro'n i wrth fy modd achos oedd casgen o gwrw Brian ar gael - Cwrw Gŵyl. Rwy'n hawdd i blesio.
Datganiad Cymdeithas yr Iaith Arestio Pedwar Aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn yr ymgyrch Deddf Eiddo. Yn oriau mân bore heddiw am 1.30am arestiwyd pedwar aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, tu allan i'r brif swyddfa yn Aberystwyth, am fod ym meddiant pentwr o arwyddion 'Ar Werth'. Roedd yr aelodau wedi eu casglu fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Eiddo ac wedi bwriadu eu defnyddio mewn protestiadau ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Cawsant eu cadw yn y ddalfa dros nos cyn cael eu rhyddhau gyda rhybydd. Myfyrwyr oedd y pedwar ohonynt, sef Ffion Mai, Aled ap Iwan, Heledd Gwyndaf a Huw Lewis oll o Geredigion. Daw'r gweithredu hwn ychydig ddyddau cyn cychwyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych lle bydd gan Gymdeithas yr Iaith raglen lawn o weithgareddau. Ar y dydd Gwener cynhelir protrest ar faes yr Eisteddfod yn galw am Ddeddf Iaith a Deddf Eiddo. Ym mis Medi bydd y Gymdeithas yn cynnal Rali Glyndwr tu allan i'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd yn galw ar y sefydliad i withredu dros y Gymraeg a chymunedau Cymru. Am wythnos cyn y rali bydd Ffred Ffransis yn ymprydio tu allan 'r Cynulliad er mwyn pwysleisio difrifoldeb y sefyllfa bresennol. Mwy o wybodaeth: Swyddfa Cymdeithas yr Iaith - (01970) 624501 cymdeithas.com