29.12.01

27.12.01

Pwyll Pensevyk Dyved
Pwyll Pensevyk Dyved o arluth war seyth keverang Dyved. Hag ef ow tryga yn Arberth, y ben-lys, whans o dhodho mos helghya. An ran a'y dyr a vynna helghya o Glyn Cuch, ha'n nos-na ef eth war y hens a Arberth ha dos bys dhe Llwyn Diarwyd. Hag ena y fu an nos-na. Ha ternos, yn yowynkneth an jeth, sevel a wruk ha dos dhe Lyn Cuch, rak dyllo y gun y'n cos. Y whethas an corn ha dalleth an helva, ha holya y helgun, ha kelly y gescowetha. Hag ef ow colsowes orth lef y vagas-hel, y clewas lef nep bagas aral hag y nyns ens unlef, hag yth esens ow tos erbyn y vagas-ef.

Mwy.

Hel achau ieithoedd
Ieithoedd Ewrop wedi'u trefnu yn ôl eu teuluoedd. Tipyn bach ma's o dêt, falle, ond llawer o stwff diddorol. Dw i'n gweithio trwy'r dolenni Cernyweg.
Peiriant i ffurfdro berfau Cymraeg (ac ieithoedd eraill)
Mae teclyn bach hwn yn neis iawn. Rho ferf Gymraeg yn y blwch, a cheir rhediad cyflawn mewn chwinciad. Dyw hi ddim yn berffaith (dyw 'cael' ddim yn gweithio, er enghreifft) ond fersiwn beta yw hwn. Bydd y geirfa Saesneg i Gymraeg yn ddefnyddiol, hefyd.
Dw i'n wastraffu fy amser
Beth dylwn i wneud yw jyst gyfieithu nutlog a wood s lot.
Ymunwch â'r Tywydd Danddaear
Erbyn hyn, o'n i'n meddwl taw Google oedd yr unig wefan i adnabod gosodiad iaith cy mewn porwr gwe. Ond dw i newydd ymweld â gwefan y Weather Underground a ches i groeso yn Gymraeg, a theganau Cymraeg eu hiaith (gweler isod) i'w hychwanegu i'm gwefan. Dyw hi ddim yn berffaith, mae 'na lawer o bethau sydd heb eu cyfieithu, ond 'sai digon o bobl yn ei defnyddio, ac yn ysgrifennu atyn nhw i ddweud bod nhw'n defnyddio'r iaith Gymraeg, tybed byddan nhw'n gwella y gwasanaeth? Sut i newid y gosodiadau iaith ar eich porwr - mae'n gweithio gyda Internet Explorer 5+, ac Opera - dw i ddim yn gwybod am Netscape.
O'r adran gemau sâl
Cat-a-pult - paid â chleco os wyt ti'n garwr cathod.
Nid ebost yw e, ond 'courriel'
Erthygl am polisïau Québec ynglyn â defnydd Ffrangeg/Saesneg ar wefannau masnachol. via Carol Anne (mae hi'n linkeriffic™), yn y trafodaith Mefi hwn.)

26.12.01

Dolenni ieithyddol cyflym
Saesneg - iaith y byd
Mewn erthygl yn yr Economist dadlir peth cwbl naturiol yw safle Saesneg fel iaith byd-eang. Dw i erioed wedi gweld gwell enghraifft o ffrwynau dall hanesyddol ynglyn â goruchafiaieth ieithyddol. Dengys trafodaeth Metafilter bod llawer o bobl yn cytuno â honiadau'r erthygl, hyd yn oed os ydyn nhw'n meddwl bod hi'n drueni. Fe'm hatgoffwyd o darn gan Fishman:
It is in the very nature of mainstream life to be unknowingly provincial and self-centered (while ascribing such traits only to others, who are outside the mainstream), and, there, to interact primarily with its own members, or with former Xmen1 who have opted to become Ymen2 (or, at best, with self-styled Xmen-via-Yish) and, therefore, to be unfamiliar with or even totally ignorant of the Xmen-via-Xish pro-RLS views of and aspirations3. The first step along the long road to changing the views of Ymen (and of many, many Xmen too) is, therefore, an essentially permanent public information and education campaign...
1. Cymry, yn ein cydestun. 2. 'Prydeinwyr', Saesneg ei hiaith. 3. Ni wnaeth bodoliaeth Cymdeithas yr Iaith unrhyw argraff ar fy rhieni nes imi sôn amdani eleni - maen nhw'n byw yng Nghymru ers hanner canrif.

24.12.01

Lord of the Rings - adolygiad y BBC
Neis i weld adolygiad yn yr hen iaith, ond oedd angen cymaint o gamgymeriadau gyda'r cymeriadau? Yn ôl y BBC, arwr y stori yw Fredo, a'r dewin drwg yn Sauraman the White. Nid yw enwau'r actorion yn sâff, ychwaith, gyda Ian McEllen a Kate Blanchett. Ond dyma'r un gorau:Sean Bean yw Viggo Mortensen. Ydy eu gwragedd yn gwybod?
Cerdded ar liwiau
Pan o'n i'n byw yng Nghaerdydd ac yn cerdded i mewn i ganol y ddinas bob bore, o'n i'n arfer chwarae gêm William Burroughs o esgil dirnadol.

Pythefnos yn ôl, aethon ni i wasanaeth plygain ym Mhenygroes, Preseli. Dyma'r tro cynta i mi glywed y fath gerddoriaeth, a ches i fy swyno. Dyma mwy o enghraifftiau.
Dilyn cwcw'r mêl
Newydd ail-ddarganfod gweflog Raphael Carter: Honeyguide - casgliad cyfareddol o straeon am wyddoniaeth (yn enwedig bioleg a seryddiaeth) gyda llun digidol newydd bob wythnos gan Raphael. Ar hyn o bryd, arddurnir sgrîn fy nghyfrifiadur gan ei lun ‘cylionyn Mai gyda draen’. (Os dydy hi ddim yn rhy hwyr i'w ofyn, hoffwn Nikon Cool Pix 990 i ’Dolig, plîs Siôn Corn. Dw i wedi bod yn dda.) [via sylloge]

23.12.01

Pennawd yr wythnos?
Dw i'n ffan mawr o Newyddion Dyddiol Gwlad yr Iâ, papur newyddion ar-lein, un dudalen, Saesneg ei hiaith. Ddoe, oedd erthygl am yr effaith mae'r canolfannau siopau newydd yn cael ar y strydoedd siopau traddodiadol yn Reykjavík. Enw un o'r prif strydoedd yw Laugavegur, ac mae gyda nhw lun gyda'r capsiwn:
Not the nicest view of Laugavegur but the only picture we have.

Bendigedig.

22.12.01

Sut wyt ti'n ynganu '@'?
Yn ôl yr erthygl hon mae gan y Gymraeg rywbeth yn gyffredin â Ffrangeg, Eidaleg, Corëeg, Indoneseg ac Hebraeg: dyn ni gyd yn galw @ yn falwoden. Neu ydyn ni? Dw i erioed wedi defnyddio nick malwoden maesymorfa dot com wrth rhoi fy nghyfeiriad i rywun. Beth wyt ti'n dweud? A ddylen ni (gan ddilyn cyngor Molly, isod) ddefnyddio termau felly, hyd yn oed pan bydd angen eu hesbonio nhw, neu eu cyfieithu hyd yn oed, wrth siarad a Chymry eraill? [via nutlog, eto]

21.12.01

In cyberspace, everyone can hear you being stupid. Wps.
Mwy o'n hoff weflograig, Mollie Umbrellastand:
Welsh people speak welsh SPECIFICALLY to annoy non-welsh-speakers. You just KNOW that behind closed doors, they switch back to english, and probably even stop with the ludicrous accents (you know, those accents that make people from Gloucestershire sound intellectual). Here's a thought, welsh people: either speak JUST welsh, or speak JUST english. If your moribund language is THAT important to you, use it all the time.

Dw i wedi gadael neges yn ei llyfr gwesteion, ac o'n i'n mynd i ychwanegu ato ar ôl dod ar draws y perl bach uchod, ond wyt ti'n gwybod beth? Mae pwynt da 'da hi. Dylen ni ddefnyddio ein hiaith ein hunain, a dim ond ein hiaith ein hunain wrth delio â dallbleidwyr o'i math.

20.12.01

Epig Genedlaethol y Ffindir.
Neithiwr, ym mharti Nadolig CYD Llangrannog, oedd un o'r dysgwyr yn siarad Ffineg. Mae'n swnio fel iaith hyfryd. Dyma tudalen am y Kalevala, gyda llawer o ddolennau diddorol. [via nutlog]
Britney dan daear
Na, paid poeni, dydy hi ddim wedi marw. Ond falle dyw hi ddim mor boblogaidd yn Efrog Newydd ag oedd hi.

19.12.01

Mae'r bob iaith yr un peth...
Nid yn ôl Omniglot, gwefan am drefnau ysgrifennu, gan gynwys Cree, Byrmaneg a Chelt-Ibereg. [via metafilter]
Gêm bach caethiwus
Adlewyrchiadau. Symud y drychiau a chynnau'r goleuadau. Swnio yn hawdd? Dw i wedi nhrysu ar lefel 10. Pob lwc.

18.12.01

Llais yr Aelodaeth
Heddiw, fe lansiwyd Triban Coch, cylchgrawn newydd i aelodaeth Plaid Cymru. 'Sdim digon o amser 'da fi i'w darllen nawr, mae'r gwichiaid ar y tân. (Nage, nid rhyw fetaffor gwan yw hwwna, dan ni'n wir gael gwichiaid i swper heno.)
Chwerthin ar bennau twristiaid sychedig.
Erthygl doniol ond ysgolheigaidd ar iaith y dafarn:
One of the saddest sights of the British summer (or the funniest, depending on your sense of humour) is the group of thirsty tourists sitting at a table in a pub, patiently waiting for someone to come and take their order. In most cases, a friendly native will put them out of their misery by explaining rule number one, or they will figure it out for themselves, but in a busy pub it can be some time before the correct procedure becomes clear.
Research findings: In observation-studies, we timed first-time tourists to find out exactly how long it would take them to discover the no-waiter-service rule. The fastest time - just under two-and-a-half minutes - was achieved by a sharp-eyed American couple. The slowest – over 45 minutes – involved a group of six young Italians. This group did not, however, seem particularly concerned about the apparent lack of service, being engrossed in a lively debate about football. Sympathy should go to the French couple who marched out of the pub, complaining bitterly to each other about the poor service and British manners in general, after a 24-minute wait.
Fyddai hynny byth yn gweithio!
Peirianau symudiad diddiwedd.

17.12.01

Mewn twll yn y ddaear bu drigo...
Mae gan y New York Times archif Tolkien sy'n cynnwys yr arolygiad hwn o Fellowship gan W.H.Auden.
Dim ond roc a rol
Mae'r War Against Silence yn e-zine cerddoriaeth llawn o adolygiadau hirion. Mae Glenn mor frwdfrydedd am y ffurf mae'n heintus. Dw i newydd ei ffindio, ac mae'n dyddio nôl i Ionawr 1995 (yr oesoedd tywyll yn nhermau'r we), felly mae lot o waith cipio 'da fi i'w wneud. Dyma fe ar lais Cerys Matthews, mewn adolygiad International Velvet:
Cerys seems entirely comfortable, to me, only in passages, like the choruses of "International Velvet" and the distant two-part harmonies on "Don't Need the Sunshine", when it sounds like she's singing from some completely different hill than the one the microphone is on, letting the countryside absorb part of her enthusiasm for it, so that what reaches us is half the sound of her singing, attenuated to our tolerances, and half the feel of the ground, humming its fondness for her company.
Neu hwn, sy'n sôn am hunanladdiadau Richie James a Kurt Cobain mewn adolygiad o Everything Must Go:
The path from disgust with the world to suicide is lined with so many enticing anomalies that to traverse it you'd have to wear blinders so restrictive that it's a wonder you can walk. The mass of evil in the world doesn't cancel out the good. Maybe there are ten evil things for every good one, but the ratio isn't important. Yes, the world is too hideous a place to live in, but nobody lives in the whole world at once. We build walls towards the monsters, and we gather up whatever good we can find and shelter it as best we know how. Universal entropy and local order are not contradictory, they're integral parts of the same system. One friend can make a city of ten million strangers a welcoming place. One song can salvage a day of noise. One album can change a life, or save it. It's a painful irony that sometimes the authors of music with this power can't feel it, that sometimes, even as they cast a spell of destruction, they are unable to detach themselves from its origin long enough to run around to the other side and hear the hope that inheres in the very sound of it.
[via edau Metafilter - rodii fy mhutain coblynaidd]
Fiends [sic] Reunited
Dw i wedi ail-gysylltu â sawl hen ffrind trwy Friends Reunited a dwi'n edrych ymlaen at gwrdd â rhai ohonyn nhw dros yr Wyl. Ond mae'n beth rhyfedd iawn i weld enwau hen fwlïaid o ddyddiau ysgol. Ro'n i'n synny pa mor grac o'n i'n teimlo wrth weld un enw newydd yn enwedig. Tro diwetha welais i'r boi, o'n i'n trïal amddiffyn fy mhen rhag ei Doc Martins. Calonogol iawn i weld fod e wedi llwyddo dod â thri o blant i'r byd. Pob lwc iddynt. Ta beth, dydyn nhw ddim wedi clywed bod gwefan arbennig iddyn nhw, ble fydd neb yn cilchwerthin ar ei sgiliau teipio? (Dw i heb weld un neges o hen fwli sy'n defnyddio priflythrennau a llythrennau bychain, heb sôn am unrhyw atalnodiadau mwy heriol na'r atalnod llawn. Dylen nhw fod wedi dod i'r ysgol yn fwy cyson, falle?) Dw i'n gwybod bod hyn yn fychander, ond 'na ni. Ces i wefr euog wrth weld rhywun naeth fy mwlio i (pan o'n i'n saith neu wyth oed) yn cael ei gosb haeddiannol mewn ffrae tafarn ugain mlynedd yn ddiweddarach. Fyddwn i ddim yn dda fel Cristion, na fyddwn?
Gast yw cariad?
Newydd bennu fy nhraethawd diweddarach sef adolygiad y ffilm Amores Perros gan Alejandro González Iñárritu. Un o sêr y ffilm yw lleiddiad o Rottweiler o'r enw Cofi. Dw i wedi rhoi'r testun ar lein, felly cei di chwerthin ar ben fy Nghymraeg bosh, 'set ti moyn.

15.12.01

Post Metafilter gorau erioed?
Mewn un neges ar dudalen blaen MeFi mae tamin wedi rhoi cyflwyniad cyflawn at ffilmiau India. Bydda i'n brysur am wythnos gyda'r stwff 'ma.
Croesawu penderfyniad am ieithoedd bach Ewrop
Stori o'r BBC. Mae'n swnio fel newyddion da, ond yn anffodus, dw i wedi yfed gormod o J&B i ddeall yr erthygl. Ond beth sy wedi digwydd i Eurig Wyn? Mae'n edrych fel cymeriad mewn ffilm David Cronenberg:
cymeriad mewn ffilm David Cronenberg   Eurig Wyn ASE
Mae e'n edrych yn normal ar ei wefan. Rhaid i mi beidio yfed a blogio. Rhaid i mi beidio yfed a blogio. Rhaid i mi beidio yfed a blogio.
Croeso i'r Canolfan Ymwelwyr
CD newydd yn y post y bore 'ma gan Trawsfynydd Lo-fi Liberation Front. Y mae e, fel mae'n dweud ar y clawr, yn 'arbrofol, diwydianol, swnllyd, swn ffycd up digidol.' Ardderchog. Peth gorau dw i wedi ei glywed ers y fersiwn Cymraeg Kerosene ces i yn y post rhyw fis yn ôl.

14.12.01

Blog ffrwythlon dros ben
Mae gan fruitlog lu o ddolenni diddorol. Llawer o stwff am ieithoedd, pobl brodorol, celfyddydau anarferol a phethau digri. Gormod i'w ddarllen! Gormod i'w ddarllen!
Y rhyngrwyd a myth Babel
Yn ei araith i'r North American Association for the Study of Welsh Culture and History honai Geraint H. Jenkins:
Whenever I think of the Internet, I recall the line by Yeats: "A terrible beauty is born."  Far from being a liberating force, the Internet is an agent of cultural imperialism.  Technology serves its masters and those masters are English-speaking. [..] Cyberspace is synonymous with English and Anglo-Americanism: it's the very antithesis of linguistic diversity.
Wn i ddim faint o amser mae'r Athro wedi treulio yng ngofodseibar, ond tebyg iawn dyw e ddim wedi crwydro yn bell oddi wrth y llwybrau treuliedig rhwng Yahoo, Microsoft ac Amazon. Mae'n wir, wrth gwrs, taw Saesneg yw iaith cyfalafiaith rhwngwladol, ond falle fod e ddim yn gwybod bod 'na fwy i'r rhyngrwyd na gwerthu pethau, ac mae mwy nag un iaith ar gael ar y we:
At a conference on search engine strategies last April, Alta Vista was predicting that by next year less than half of the Web would be in English. English-language author David Graddol has predicted an even lower figure in due course, 40%. In parts of the world the local language is already dominant. According to the Japanese internet author Yoshi Mikami, 90% of Web pages in Japan are now in Japanese. [ffynnon]
Y prif reswm dros diffyg defnydd o'r Gymraeg ar y we, yw nid ydyn ni wedi mynd ati i greu gwe Gymraeg ei hiaith. (Mae gerainthjenkins.com ar gael, gyda llaw. Beth am greu gwefan eich hunain yn y Gymraeg, yn lle cwyno bod Bill Gates yn dinistrio'ch iaith?)
Does dim gair am hangover yn Gymraeg
yn ôl Myrddin ap Dafydd. Drueni bod peth yn gallu bodoli heb gair i’w ddisgrifio. Ond, weithiau, mae cael hangover yn dy atgoffa fod di wedi cael diwrnod/noson arbennig o dda, felly dydyn nhw ddim mor wael â hynny. Un o’r rhain yw hwn. (Ydy hangover yn wrywaidd neu yn fenwaidd? Gwrywaidd, mae’n debyg. Ond weithiau, gall cenedl gair fod yn rhyfedd iawn. Barf, er enghraifft.) Felly, mae hangover hwn (sydd bron wedi clirio erbyn hyn) yn f’atgoffa o’r amseroedd braf ces i ddoe. Dechreuais yfed amser cinio yn y Llew Coch, Aberteifi, gyda criw bach o’m dosbarth Pellach. Dyma tro cynta i fi mynd ma’s gyda grwp o stiwdents sy'n siarad Cymraeg heb cael eu gorfodi. Pan wnaeth un ohonyn nhw anghofio, a throi i Saesneg, oedd y lleill yn ei hatgoffa hi i ddefnyddio ei Chymraeg. Doedd dim byd i mi wneud ond mwynhau fy mheint Parch. Jâms. Gyda’r nos, gartre, a chyrraeddodd Eirlys a Barbara, ein ffrindiau o Awstralia sy’n aros yn Llangrannog dros y gaeaf ac yn dysgu’r iaith. Arhoson nhw i swper a choginiais i rywbeth Eidalegaidd. Gyda gwin addas, wrth gwrs. Aeth cyfarfod misol pwllgor lles Llangrannog yn dda iawn, a gorffenon ni erbyn 8.20, felly oedd digon o amser i fynd i'r Llong a chael tair neu phedair potel o’m hoff cwrw organig, Blodeuwedd cyn i Philippa gyrraedd i roi lifft i fi adre. I bennu’r noson, ces i nostalgia sesh gyda fy nghasgliad o hen singles, a thamaid bach o’r wisgi J&B ces i fel anrheg oddi wrth un o’r dosbarthiadau (yn yr Hitchhikers’ Guide to Learning Cymraeg, mae’n dweud taw’r ffordd gorau i blesio’ch tiwtor yw i siarad Cymraeg a’ch gilydd. Mae hyn yn hyfryd wrth gwrs (gweler uchod) ond mae ’na ffyrdd eraill i doddi calon eich tiwtor...). Erbyn hanner nos, o’n i’n dawnsio o gwmpas y gegin, a chanu fel Dusty Springfield farfog. Roedd y dosbarth y bore ’ma yn... ddiddorol. Gan lwc, pwnc y driliau oedd ‘gwneud coffi’.

12.12.01

Yuri enjoyed being a father. He was gregarious and loving.Bell uwchben y byd...
Yuri Gagarin: ei fywyd mewn lluniau. Hyfryd.
A'r wobr am sheepshagger yr wythnos...
I have to take it [trwydded briodas] to Newport to get it changed. Sounds like a fun day out, doesn't it? Newport, complete with Welsh people. Ugh.
Ydy pobl yn meddwl does neb yng Nghymru yn gallu defnyddio'r we? [via daypop]
Ystrydebau hiliol, unrhywun?
Yn y gêm chwarae rôl ar-lein Dark Age of Avalon mae gen ti ddewis o bedair hil o oes Arthur:
The people of Albion are a mostly homogenous [sic] lot - sturdy Britons, hulking Highlanders, graceful swift Saracens, and tall intelligent Avalonians make up the different races in the Realm.
Ydy sturdy'r un peth â swarthy? Ac ydy Avalonian yr un peth ag Aryan?
Mae'r Frenhines Cwl Cymru yn ôl!
Mae fersiwn cartwn Sali Mali wedi'i ryddhau ar fideo. O, ac mae 'na ryw gysylltiad â rhyw gantores neu'i gilydd. [via globalpopconspiracy]
Dw i ddim yn rif - gweflog rydd ydw i!
Mae blogdex yn edrych yn ddiddorol. Yn ôl y sôn, mae'r safle hwn yn #12513 yn y byd blogio. (Ond, #1 ydyn ni yn y byd blogio Cymraeg, cofia. Mae hyn yn golygu lot mwy i ni yma ym Mhlas y Morfa.)
Ceirog Geiriog
Mae wordfinder yn rhifo bob gair ar dy dudalen we, a'u rhestri yn ôl eu hamlder neu yn ôl yr wyddor (yr wyddor Saesneg, natch). Y geiriau mwya poblogaidd ar Morfablog (heb sôn am y geiriau bach fel ‘yn’ ac ‘i’) yw ‘iaith’, ‘Gymraeg’ a ‘Fishman’. Hmmm. [via Feral Living]

11.12.01

Fin nos, fan hyn...
cara wallia derelicta gan david jones
Cyfarfod da yn Aberaeron heno. Ni ddysgais i lawer am y sefyllfa tai yng Ngheredigion do'n i ddim yn gwybod o'r blaen, ond oedd hi'n braf i weld cymaint o bobl 'na yn erbyn cynlluniau drafft y cyngor sir, sy'n seiliedig ar y lol 'ma:
Mae gan Geredigion boblogaeth o ryw 71,000. Yn ôl tueddiadau’r gorffennol mae’n debyg y bydd gan y Sir boblogaeth rhwng 80,000 a 85,000 erbyn 2016. Oherwydd y cynnydd bydd angen mwy o gartrefi. Yn ôl y rhagamcanion o aelwydydd byddai angen tua 5,000 hyd 6,500 o gartrefi ychwanegol erbyn 2016. Yn ôl y galw a welwyd yn y gorffennol byddai angen darparu rhagor na hanner y cartrefi newydd hyn (2,500 – 3,500) yn ardal Aberystwyth.
A chlywais i newyddion da personol oddi wrth ffrind. Llongyfarchiadau M&P.
Those satisfactions are permanent. Erthygl ar fy hoff ffilm, Two Lane Blacktop, gan snarkout:
It's stiff and the symbolism is hammerlike, but some point the movie just gels; the stripped-down primer-colored '55 Chevy and the loaded '70 canary yellow GTO transcend being heavy-handed symbols for two sides of the American experience and become wholly appropriate heavy-handed symbols.

9.12.01

Dechreuwch bob sgwrs yn Gymraeg. Stori Teifi-Seid:
Lansiwyd prosiect newydd a chyffroes i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg gan Menter Iaith Ceredigion, Cered, yn Llambed.
Nod y prosect yw annog siaradwyr Gymraeg i ddefnyddo’r Gymraeg yn gyntaf yn eu bywyd bob dydd, a thrwy hynny datblygu eu hyder yn eu defnydd o’r iaith.
‘Yn ystod cyfnod y prosiect byddwn yn marchnata’r neges ‘Dechreuwch bob Sgwrs yn Gymraeg’, drwy gyfrwng arwyddion, sticeri ar ffenestri siopau, bathodynnau, bagiau a matiau cwrw,’ meddai swyddog datblygu Cered, Dilwyn Jones, ‘ac mae busnesau Llambed eisioes wedi dangos cefnogaeth eang i’r prosiect drwy gytuno i arddangos y nwyddau marchnata yma.’
Syniad da. Pam nad oes sôn amdano ar eu gwefan, tybed?
Mae pawb yn gyfarwydd â'r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol:
Erthygl 2
Y mae gan bawb hawl i'r holl hawliau a'r rhyddfreintiau a nodir yn y Datganiad hwn, heb unrhyw wahaniaeth o gwbl, yn arbennig unrhyw wahaniaeth hil, lliw, rhyw, iaith, crefydd, barn boliticaidd neu unrhyw farn arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, eiddo, geni neu safle arall.
Ond o't ti'n gwybod bod Datganiad Cyffredinol o Hawliau Ieithyddol i gael, hefyd? Dyma Joshua Fishman, yn 1991:
The relatively recent Universal Declarion of Linguistic Rights may be viewed as a prelimiminary attempt to support RLS [="reversing language shift"] and to reject anti-LS efforts but, thus far, it has only been adopted by a small number of academic bodies [...] Unlike ‘human rights’, which strike the Western and Westerized intellectuals as fostering wider participation in general societal benefits and interactions, ‘language rights’ still are widely interpreted as ‘regressive’ since they would, most probably, prolong the existance of ethnolinguistic differences.
Cofia'r dyfyniad yn Tynged yr Iaith gan y bardd ac arolygydd ysgolion o Saes, Matthew Arnold:
It must always be the desire of a Government to render its dominions, as far as possible, homogenous . . . Sooner or later, the difference of language between Wales and England will probably be effaced . . . an event which is socially and politically so desirable.
Braf i'w weld bod Cymuned am ddilyn awgrymiadau Fishman (yn bennaf yn ei lyfr Reversing Language Shift) - dyma un dadl na fydd yn cael ei ennill gan floeddio'n uwch na'r ochr arall. Mae ’na fwy ohonyn nhw, ond ni yw'r Xmen.
Ym mis Chwfror, cyhoeddir fersiwn ffilm newydd o'r Merchent of Venice - yn yr iaith Maori.

6.12.01

nunatinnit.net Mae nunatinnit.net yn wledd o storiau, lluniau a ffeiliau MP3 o Ynys Baffin. Mae Newyddion Nunatsiaq yn bapur newyddion Inuit. Mwynheais i'r stori bach hon am y fforiwr a ethnolegydd Lucien Turner, yn enwedig ei ddisgrifiad o "dominôs yr Inuit":
"The Inuit who come from the western end of Hudson Strait... have a game which they play with sets of pieces of ivory cut into irregular shapes, and marked on one face with spots arranged in different patterns," Turner wrote
"The number of pieces in a set varies from 60 to 148. The name of a set is Á ma zú a lát, and somewhat resembles our game of dominoes.
"The pieces are designated by pairs, having names such as ka míá tik (sled), kaiak (canoe), kalé sak (navel), á ma zut (many), a taú sik (1), má kok (2), ping a sut (3), si tá mút (4), and tá li mát (5). [...]
"The northern Eskimo stake the last article they possess on the issue of the game. Their wives are disposed of temporarily, and often are totally relinquished to the victor. I have heard of wives so disposed of, often sit down and win themselves back to their former owners."
[via kiplog]

5.12.01

Bron wedi bennu fy nhraethawd ar Gerallt Lloyd Owen. Dyw i ddim yn hapus gyda fe, ond 'sdim amser 'da fi i ail-ddechrau. Fel hyn o'n i'r tro cynta nes i gwrs coleg. Popeth yn funud ola, ddim digon o ddarllen cefndir, traethodau nid cweit mor dda a allen nhw fod. Och. Wrth edrych trwy rhestr ail-gyfeiriadau y weflog, mae'n debyg nid fi yw'r person ola i bennu ei draethawd. (Tip i'r person oedd yn chwilio am "Gerallt Lloyd Owen - Ei Bywyd": mae treiglad meddal ar ôl 'ei'. Croeso. A phob lwc.)
Os wyt ti'n ffan comics byddi di wrth dy modd gyda Bee - Shutterbug Follies gan Jason Little, Efrog Newydd. Yr unig problem yw, dyw y stori ddim wedi bennu eto: darllenais i drwy'r 37 tudalen sydd ar y wefan ac yn awr dw i'n ffaelu aros am rifyn 38. O'n i meddwl oedd yr enw yn gyfarwydd - Jason Lytle yw canwr gyda Grandaddy, un o'r grwpiau gorau i ddod o'r Amerig yn ddiweddar. Dyma cyfweliad gyda nhw a dyma tirwedd Grandaddy.

4.12.01

Pethau od yn strydoedd dinasoedd UDA.

3.12.01

Dolenni ar hap: posteri sgrinsidan o Efrog Newydd (dw i ddim yn nabod y bandiau, ond mae'r posteri yn arbennig) ; hwyl yn y swyddfa; gêm ar hap; cardiau celf i gyfnewid; ac erthygl am T.H.Powys, cyfoesoldeb a chanoloesoldeb (via wood s lot, ffynnon ardderchog am ddolenni i weflogau a chylchgrawnau diddorol). Reit, amser gwely.
Sylwad diddorol am y gair cydymdeithas ar glosses.net (yr unig flog arall yn y byd lle mae'r Gymraeg ar gael...)