29.11.01

Des i ar draws y difyniad canlynol mewn adolygiad gan Jan Morris o'r llyfr Letters from Wales:
Machynlleth, wretched town, hardly a person could speak English... Welsh seem a pleasant, intelligent race, but I should think awkward to live with... the language is past description.

Pwy a ddwedodd hynny, tybed, a phryd?

Ateb yn y blwch sgwrsio.

28.11.01

Adolygiad gynnar o Lord of the Rings. Mwy o adolygiadau. Dw i’n edrych ymlaen. Ydy hi’n amlwg?
Reswm arall dros dysgu'r iaith: siaradwyr Cymraeg yn ennill mwy.
A'r casgliad yw bod gweithwyr dwyieithog yn ennill mwy, rhwng 8% a 10% yn fwy ar gyfartaledd.

26.11.01

Mae 'na ffeirws newydd yn mynd o gwmpas, a dw i wedi ei ddal. Mae'n broblem os dych chi'n defnyddio Internet Explorer ac Outlook Express, felly dw i wedi troi yn ôl i Opera. Yr unig broblem nawr yw Blogger. Does dim cefnogaeth i Opera, a dyw rhan fwya o bethau handi sy'n gweithio gyda IE5 ddim yn gweithio gyda'r porydd 'ma. (Ac mae MorfaBlog yn edrych yn warthus - rhyw broblem gyda'r CSS, dw i'n meddwl.)

25.11.01

Rhwydwaith di-wifren i Gaerdydd? - yn ôl yr erthygl hon (o'r New Scientist) bydd ffordd newydd o gysylltu i'r we yn cael ei brofi yng Nghaerdydd yn 2002. Bydd y pobl lwcus yn gallu cysylltu ar 4Mb yr eiliad. Anblydihygoel. via kindall
Wilderness and the Hyperreal - erthygl yn y rhifyn diwethaf o'r Whole Earth Review.
Falle mod i’n dwp, ond pan welais i’r llun ’ma o gerddwyr Cymdeithas Edward Llwyd, y peth cyntaf i ddod i mhen oedd cerddoriath thema i Band of Brothers. Cerddwyr Cymdeithas Ed. Llwyd, Castell Allt-goch, 20 Ionawr 2001 Wedi meddwl, es i ar y taith 'na, ac mae'n bosib mod i yn y llun. Pa un ydw i, tybed?

24.11.01

Dyn ni'n disgwyl ffrindiau am swper heno, ac unwaith eto dw i'n coginio Bolenês Madarch a Chnau o'r llyfr hwn. Ac, unwaith eto, dw i'n blogio pan dylwn i fod yn y gegin.
Sut i wneud uwd perffaith. Ac unwaith wyt ti wedi cael dy frecwast, beth am yr erthygl hon gan yr un awdur yn y rhifyn newydd o'r Rhestr Ar Wahan: Darllen y Cynllun.
Orisinal - gemau bach 'Fflach'. Dw i wedi godro'r fuwch mewn 17 eiliad. Lot o hwyl.
Yr Eidal Fach Cymru - nage, nid Portmeirion, ond Corris.

23.11.01

gemau.com - gwefan newydd sy'n trafod gemau cyfrifiadurol trwy gyfrwng yr hen iaith. Wastad yn neis i weld mwy o gynnwys annibynnol Cymraeg ar y we. Beth yw to frag yn y Gymraeg 'te?
Enwog yn Korea? Sigmund Groven, canwr yr organ geg o Norwy, yn fwy o seren yn Seoul na Mariah Carey. Chwarae teg iddo fe.
"The harmonica has a melancholy sound that I think hits the Koreans in a special way, because of their tragic history of wars and occupation," Groven said.
National Assembly for Wales: Healthplanonline - credwch neu beidio, mae’r ddolen honna yn anelu at dudalen Gymraeg ei hiaith, er fod y llabed <title>, bob llabed <meta>, sawl llabed <alt> a hyd yn oed enw’r ffeil ei hunan yn uniaith Saesneg. Dw i'n hoff iawn o’r linc ‘Saesneg’ gyda’r testun <alt> sy’n dweud ‘Cymraeg’. Darllen heb ddarluniau? Tyff.
Ddoe, fe brynais Tai, Gwaith ac Iaith, argymhellion Cymuned i Arolwg y Cynulliad o'r Iaith Gymraeg. Wedyn, casglais i lyfr o'n i wedi ei archebu misoedd yn ôl o'r llyfrgell, Reversing Language Shift gan Joshua Shipman. Braf i weld, wrth ddarllen y peth gan Simon Brooks (Cymuned), ei fod e wedi darllen y peth gan Shipman.
Honna Fishman yr adferir iaith leifrifol trwy sefydlogi cymunedau ieithyddol; gan eu diffinio fel y cwlwm rhwng aelwyd, teulu a chymdogaeth. Oherwydd bod hyn yn dasg anodd, ceir tuedd weithiau gan ymgyrchwyr iaith i bwyso am fuddugoliaeth sy'n haws eu cyrraedd, megis darpariaeth yn yr iaith leiafrifol mewn llywodraeth, y cyfryngau ac ym maes statws cyhoeddus.
Pwysleisia Fishman na allai'r rhain fyth gymryd lle y gymuned ieithyddol naturiol.
O ymhwyso dadansoddiad Fishman i Gymru, gellir gweld mai hanes y mudiad iaith fu pwyso am fuddugoliaethau corfforaethol neu ‘symbolaidd’ megis arwyddion ffyrdd dwyieithog, S4C a Deddf Iaith Newydd, yn hytrach na gwarchod ac amddiffyn sail tirogaethol cymunedau naturiol Cymraeg.
O hyn ymlaen, bydd eisiau gwneud gwarchod y cymunedau naturiol Cymraeg sy'n weddill yn brif nod ein hymdrechion i adfer y Gymraeg os yw'r iaith i fyw.

A dyma difyniad o wynebddalen llyfr Fishman:

When one significant section of the community burns with the sense of injustice, the rest of the community cannot safely pretend that there is no reason for their discontent.

22.11.01

gof mewn ciltWn i ddim am y Cilt Cymreig, ond mae 'na rywbeth am Utilikilts™ sy'n apelio ataf.

21.11.01

Cartwn Salon, parodi cyfoesol o TinTin. via robot wisdom
Grwpiau pop Americanaidd gyda'r un enw â phentrefi Ceredigion: beula rhif un mewn cyfres...
Just enough Welsh to impress - cylflwyniad at yr hen iaith gan Lewis Malu Cachu:
If your host has accidentally used gravy powder instead of tea and you find yourself gagging in disgust, you might be asked Beth sy’n bod? / What’s the matter? You can always evade answering by saying O, dim byd / Oh, nothing. If you’re feeling cruel, though, try Mae’r te ma’n ofnadwy / This tea is awful.
Neis iawn.

20.11.01

Fersiwn Gymraeg o Harry Potter ar y gweill. Fel arfer fyddwn i ddim yn sôn am HP fan hyn. Dw i heb ddarllen, a heb ddiddordeb, mewn unrhyw iaith. Ond wrth darllen yr erthygl am Tolkien (Tollers, i ni), sylwais i fod 'na mugwumps yn llyfrau Rowlings. Oes cysylltiad i mugwumps Bill Burroughs, tybed?
Gweflogiau: hanes byr. Cyflwyniad da at hanes datblygiad y weflog fodern, oddi wrth un arall o'm hoff cyfranwyr Metafilter.
Diwrnod Heb Brynu - 24ain Tachwedd 2001 - cymryd rhan gan beidio cymryd rhan!
Erthygl ddiddorol (ac yn hir) am Tolkien yn y London Review of Books.
Nid Cawl yw Waeguk - gweflog gan un o'm hoff gyfranwyr Metafilter. Mae Stavros/Bosco yn byw yn Ne Korea, ac mae e'n sgwennu am ei wlad fabwysiedig gyda chymysgedd egnïol o hiwmor, casineb a Jack Daniels. Gwerth ei ddarllen, ond nid i'r gwangalon.

19.11.01

Mae Sir Gâr yn wneud yr un peth ’to.
Nos Sadwrn, adeiladais i dân yn y stafell ffrynt a setlais i lawr i wylio Derwyddion - Byd y Shaman ar S4C. Syndod mawr (not), oedd y rhaglen yn rwtsh arwynebol ar y cyfan, a ddysgais bron ddim byd diddorol ond y ffaith bod Dai the Drop yn gweithio fel rhyw fath o iachwr oes newydd y dyddiau hyn. Am well gyflwyniad at shamanyddion y byd modern, dyma rhestr o erthyglau am entheogens (nawr, dyna gair sy ddim yn ymddangos yng Ngeiriadur Bruce) o'r weflog abuddhas memes.

18.11.01

Ffordd y ffon - paid rhoi clec ar y dolen 'na oni bai bod lot o amser 'da ti i wastraffu. via usr/bin/girl

17.11.01

MorfaBlog: ots del yw’r del beth? Wrth bori trwy'r rhestr atgyfeiriadau, des i ar draws tyst bod rhywun wedi trïal cyfieithu MorfaBlog i'r Eideleg, heb lawer o lwyddiant. Dylen nhw fod wedi trïal cyfieithu y versione inglese, falle.
Faint sydd ynddo fe? Sawl pecyn bach o sos coch allwch chi roi mewn un botel blastic Heinz? Ac yn y blaen. via metafilter
Newydd cyrraedd adre ar ôl trip ardderchog i'r Gogledd. 'Sdim amser 'da fi sgwennu nawr, ond hoffwn ddweud 'helo' wrth Eileen, a diolch iddi hi am ddweud wrth rhestr postio Clwb Malu Cachu am y cwrs undydd.

16.11.01

Dyn ni'n bant i'r gogledd mewn sbel. Aroswn yn Mlaenau Ffestiniog heno (gobeithio bydd amser 'da ni i ymweld â siop lyfrau'r Hen Bost a chartref olaf John Cowper Powys). Dydd Sadwrn awn ni i gwrs un dydd ym Mlas Tan y Bwlch, cwrs Llafar Gwlad.

15.11.01

Dw i newydd ddod ar draws archifau fy hen flog Saesneg ei hiaith. Wedi ychwanegu y pedwar mis - Ionawr - Ebrill 2001 - i'r archif ar eich chwith (fy ne innau). Dechreuais i flogio ar Nos Galan 2000 - does dim bywyd 'da fi, nag oes?
Lluniau cefndiroedd i'ch cyfrifiadur. Dw i'n defnyddio hwn ar hyn o bryd.
Dyn ni gyd wedi adeiladu cestyll tywod. Mae rhai pobl yn gallu breuddwydio mewn tywod. via kindall
Ydyn ni’n cael hwyl eto? - dw i heb weld Zippy ers talwm. Wrth meddwl am Zippy, ro’n i’n tybio a oedd cysylltiad Cymreig rhywle ym myd afreal Bill Griffith (ar wahan â’i enw, wrth reswm). Wedyn, welais i strip heddiw yn y SF Gate - (’sdim paraddolen - copi fan hyn).
What's Welsh For Zen - lluniau gan Dave McKean i lyfr John Cale. Os dych chi'n lico stwff McKean, triwch onetwentyeight hefyd. via metafilter

14.11.01

Tynged yr Iaith - testun cyflawn i ddarlith hanesyddol Saunders Lewis. (Fformat pdf - angen darllenydd Acrobat. Neu mae fersiwn HTML hefyd)
Nid dim llai na chwyldroad yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru heddiw. Trwy ddulliau chwyldro yn unig mae llwyddo...
Diolch i Gareth Catchphrase am ddweud doedd fy nghyfeiriad e-bost (fan 'na ar eich chwith chi, fy ne innau) ddim yn gweithio. Ro'n i wedi camsillafu. Y twpsin. Mae'n iawn nawr, gobeithio. Dw i'n lico ebost, hint hint.
Neithiwr, ces i e-bost oddi wrth y ferch dlysaf yn yr ysgol; dwedodd hi I wish I was you. Doedd dim syniad ’da fi am beth oedd hi'n sôn. Neithiwr, yfais hanner potel o Jack Daniels a threuliais chwech awr gan chwarae NetHack, gêm Dungeons & Dragons o Oesoedd Tywyll y rhyngrwyd. Yn fuan, bydda i’n dri deg pump oed. Es i’r gwely, ac yn oriau man y bore darllenais i:
The world is charged with the grandeur of God.
It will flame out, like shining from shook foil;
It gathers to a greatness, like the ooze of oil
Crushed. Why do men then now not reck his rod?
Generations have trod, have trod, have trod;
And all is seared with trade; bleared, smeared with toil;
And wears man’s smudge and shares man’s smell: the soil
Is bare now, nor can foot feel, being shod. And for all this, nature is never spent;
There lives the dearest freshness deep down things;
And though the last lights off the black West went
Oh, morning, at the brown brink eastward, springs —
Because the Holy Ghost over the bent
World broods with warm breast and with ah! bright wings.
Gerald Manley Hopkins
Mae fy llygaid yn sych, bleared, smeared gan y sgrîn anobeithiol bach ’ma. Rhaid gweithio yn yr ardd y bore ’ma.

13.11.01

Does neb yn berffaith.

11.11.01

Fe welais i Croupier (1998) heno. Ffilm fendigedig. Dw i'n meddwl. Un o'r ffilmiau sy'n aros gyda chi am sbel. Beth yw'r ffilm orau wyt ti wedi'i gweld yn ddiweddar?
Gwersi mewn teipograffi - stwff ardderchog oddi wrth WebMonkey. via haddock
Mae Ken Kesey wedi mynd ar ei drip olaf. Pellach.
Dw i newydd brynu textad Metafilter. Dylwn i ddechrau ar y fersiwn Saesneg o'r wefan fach hon. (Ýpdêt: dw i wedi wneud ‘y fersiwn Saesneg’: MorfaBlog: Who Cares?. Amlieithrwydd ahoy!)
Hwn yw y Gododdin. Aneirin ae cant. Mae Gododdin wedi mynd nôl i’r Hen Ogledd. Ac mae Russell Goodway yn dangos bod ei grap e ar hanes cynnar Ynys Prydain yn dipyn bach yn gryfach na’r un Jack Straw*, ond nid llawer:
“Since the Gododdin were a tribe of South Scotland, I understand why Scotland should claim that Arthur was Scottish,” he said. “But I am bound to say that the case for a Welsh Arthur is stronger.”
Wel, Cymry oedd y Gododdin, Russ, felly wyt ti yn llygad dy le. ’Sdim angen ymddiheuro dros y ffaith. Yr oedd llythyr ddoe yn y Western Mail gan Lyn Jenkins, Gwbert, oedd yn wneud pwynt da iawn am duedd o gyfeirio at y Cymry fel y Celtiaid:
That land may now be called Scotland, but those people [Owain ab Urien et al] were indisputably Welsh — they could hardly be anything else with those names! Strathclyde or Ystrad Clud was Welsh speaking until about 1250 at least. The Welsh have a continuous history of [sic] this island since at least 600 BC. Why do so many historians attempt to write us out of the history of England and Scotland by changing our identity?
* Mewn erthygl yn Yr Observer yn diweddar, dwedodd Straw taw’r Eingl-Sacsoniaid oedd y first people in Britain. Sa i’n gallu ffindio’r erthygl ar wefan y Guardian, yn anffodus.

10.11.01

Mae ffidilwraig Siân Phillips yn neud gig yn Aberaeron ar 22ain mis Tachwedd, Gwesty'r Castell, dechrau am 7.30, mynediad £4.00. Yr unig stwff ganddi dw i wedi clywed hyd yn hyn yw'r trac ar y CD ffidil yng nghyfres FflachTRADD. Mae'r CD yn arddechog, fel bob un arall yn y cyfres.
Wrth edrych ar y dyddiad palindromig heddi, o'n i'n trïal meddwl o balindrom Cymraeg. Dw i'n anobeithiol am feddwl o bethau fel hyn, dim ond pethau twp fel Mae fy enw ydy W.N.Eyfeam ydw i'n gallu neud. Beth amdani?
Llawer o ymwelwyr, yn sydyn iawn. Fel arfer, daw ryw hanner dwsin o bobl y dydd. Roedd 45 ddoe. Rhywbeth i neud â Catchphrase, tybed? Wn i ddim, does neb wedi gadael neges. Paid bod yn swil, dweud dy ddweud. Wrth sôn am Catchphrase, braf i'w weld eu ‘hidiom y dydd’ i fy mhenblwydd:
February 19th
hel straeon.
- to gossip. (lit.) to collect stories.

9.11.01

Gwefan newydd Cass Meurig, sy'n canu'r ffidl a'r crwth gyda Fernhill a Pigyn Clust.
Dw i wedi newid y system trafod i blogback ar ôl cael problemmau gyda Reblogger. Ro’n i’n trïal rhoi ymateb i rywbeth oedd rhywun wedi sgwennu (helo Gareth, a diolch am dy sylwadau - sori bod nhw wedi cael eu dileu!) ond oedd y system yn crasho bob tro. Mae blogback yn edrych yn well, hefyd, ac yn fwy customizable. Gallwch ddweud eich dweud gan roi clec ar unrhyw linc gadael neges (i ddechrau trafodiaeth newydd) neu neges(euon) (i ymuno â sgwrs). Sa i'n credu bod hi’n bosib i roi dolenni HTML yn eich sylwadau ar hyn o bryd.
Ar fy ffordd yn ôl o’r Llong, gyda llond bola o Flodeuwedd, fe ddysgais fy ngherdd Cymraeg cyntaf o’r cof, ‘Cilmeri’ (o Gerddi’r Cylwilydd) gan Gerallt Lloyd Owen. Ie, yr un sy’n dechrau Fin nos, fan hyn, Lladwyd Llewelyn. Byth nid anghofiaf hyn. Erbyn i mi gyrraedd top bryn Morfa, oedd pob gair gyda fi ac o’n i mor hwylus a’r brân goesgoch, screchian y geiriau trwy’r coed. Byth nid anghofiaf hyn. Tybed, oes ’na berson arall yn y byd sy wedi yfed cymaint o Flodeuwedd â fi?
Rhwydwaith Genedlaethol Seiclio Sustrans - prosiect i ddod â gweithiau celf i Lon Las Cymru, rhwydwaith genedlaethol llwybrau beiciau Sustrans.
Dyma’r Newyddion - cyfres o fwletinau newyddion a chwestiynau ar y cynnwys oddi wrth Catchphrase. Perffaith i ddysgwyr sy newydd wneud y ferf amhersonol cryno (fel fy ngrwp dydd Iau sy'n cwrdd yn y Tabernacl).

7.11.01

Dydd Llun, bu farw Ken Hale, ieithydd a gweithredwr dros ieithoedd lleiafrifol.
"The loss of local languages and of the cultural systems which they express, has meant irretrievable loss of diverse and interesting intellectual wealth. Only with diversity can it be guaranteed that all avenues of human intellectual progress will be traveled."
"The Human Value of Local Languages" - Ken Hale
Prosiect Rosetta - cronfa data o 1000 o ieithoedd, gan gynwys y Gymraeg. Gall unrhyw lan-lwytho testunau i’r archif. Bant â chi, ’te.

6.11.01

Nawr 'te, mae hwn yn lot o hwyl.
A weloch cynhyrchiad newydd o ddrama Gwenlyn Parry, Y Twr, noson o'r blaen. Bendigedig.
Amser maith yn ôl, oedd rhyw sôn rhywle am greu Amgueddfa Ar-Lein Arwyddion ‘Cymraeg’, h.y. lluniau o arwyddion heol, neu arwyddion masnachu neu, hyd yn oed, arwyddion Eisteddfodol sy wedi cam-sillafu. Am wn i, ni ymddangosodd y fath peth felly fe af i ati i'w greu. Oes engreifftiau 'da chi? Cysylltwch â fi, os felly. Diolch i Harry Campbell am y ddau ola, uchod.

5.11.01

Wikipedia: Welsh language - gall unrhywun ychwanegu neu newid tudalennau Wikipedia - bydda i'n chwarae gyda'r dudalan hon nes ymlaen.
Cymraeg y Fynwent - geirfa i helpu helwyr achau. via rhestr postio clwbmalucachu

1.11.01

Croeso arbennig i bwy bynnag sy wedi'n ffeindio ni o Siapan.