30.10.01

::glosses.net:: - gweflog gan myfyriwr/wraig ieithoedd. So'r wefan yn llwytho i fi ar hyn o bryd, ond hoffwn i weld mwy o stwff fel hyn am y Mabinogi.
Heno, dw i'n ceisio darllen Gweith Gwen Ystrad gan Taliesin. Bob gair yn gyfrinach i fi, ond bydd y gwaith yn talu.
Gweleis wyr gwychyr yn llyud.
A gwedy boregat briwgic.
Sa i'n cofio os ydw i wedi blogio'r stori hon o'r blaen, ond mae'n debyg bod siarad Cymraeg yn helpu plant gyda mathemateg:
While ‘ten’, ‘twenty’ and ‘thirty’ in English tell us little about their relative value, the Welsh names do. ‘Deg’, ‘Dau Ddeg’ and ‘Tri deg’, indicate ‘ten’, ‘two-ten’ and ‘three-ten’, in the same way that ‘Tri deg dau’ (32) and ‘un deg tri’ (13) explain their values through their names. To learn the names of numbers in Welsh, you have to learn the numbers for one to ten and the rules for combining them.
Posibilrwydd arall, wrth gwrs, yw bod addysg dwyieithog yn helpu plant yn gyffredinol gan ddatblygu eu sgiliau deongliadol. Dw i ddim yn gwybod: beth wyt ti'n feddwl?

29.10.01

Ten New Songs gan Leonard CohenMae albym newydd 'da Leonard Cohen? Does neb yn dweud dim byd wrtha i.
Newydd ychwanegu bwlch chwilio Daypop (lawr ar waelod y dudalen) ar ôl ffindio'r ddau stori isod trwyddo fe.
Newyddion da i'r rhai ohonom sy'n breuddwydio am fynediad cyflym i'r we: £18.5 miliwn i hybu llydanfand yng Nghymru. Dyma'r datganiad i'r wasg o'r Cynulliad.
Erthygl o'r National Geographic am ddysgu Cymraeg yng Nghaerdydd:
Welsh is a guttural language, and for us it meant doing things with our uvulas we had never done before. “You need to drink lots of coffee,” Carole added encouragingly, “to get the spit going in your mouth.”

28.10.01

Darn bach yn Linesandsplines sy'n sôn am orthograffi ieithoedd brodorol America:
If I remember right, many writing systems were imposed on tribes by European missionaries, mostly in the nineteenth century. Bringhurst said that the mid-1800s were the heyday for devising new alphabets (novel sets of symbols, not new fonts) and so the Native American languages provided many opportunities for this sort of stuff.
Y Wennol - straeon ac adnoddau eraill ar gyfer dysgwyr. Diolch i Chris Castle am fy atgoffa am hyn.

26.10.01

Stori diddorol o'r BBC am ymdrechion cwmni teganau Lego i atal trychineb cysylltiadau cyhoeddus. Yn eu gêm uwch-dechnoleg newydd, Bionicle, mae Lego wedi dwyn enwau Polynesaidd (gan gynnwys Tohunga, sy'n golygu iachäwr brodorol) am eu harwyr robotaidd plastig. Maen nhw'n cael eu herio gan Maui Solomon, cyfreithwr sy'n arbenigo mewn hawliau eiddio deallusol ac hawliau a rhwymedigaethau pobl brodorol.
Cyfieithiadau o dermau y Rhwyd - oedd rhywun yn dweud wrtha i ddoe does dim sôn am ”gwefan“ yn y ail-argraffiad Geiriadur Yr Academi. Dyma rhestr gan Dafydd (fydd.org), ac eraill.
Llais Ogwan - Papur Bro Dyffryn Ogwen - ond ddim wedi cael ei ddiweddaru ers mis Hydref 2000. Oes 'na bapur bro ar lein ar hyn o bryd?

25.10.01

Seicedelia yn dy gwrw - daeth y llun 'ma o oriel "cwrw dan y microscop". Anhygoel. Fyddai i byth yn edrych yn fy ngwydr yn yr un ffordd 'to. via swishcottage
Iaith:Ysgolhaig yn tanio'r drafodaeth - stori BBC. Mwy o fanylion yma, yn erthygl Saesneg ei hiaith sy'n ychwanegu pethau fel “Less than 20% of the population in Wales speaks the language”. A beth mae hynny'n golygu yn y cyd-destun 'ma?
Newydd dod ar draws system trafodaeth arall sy'n edrych bach yn well na'r un dw i'n ei ddefnyddio, pan sylweddolais i dyw e ddim yn eich gadael chi rhoi dolenni yn eich sylwadau. Felly, er bod neb wedi defnyddio fe ers mis neu fwy, Reblogger amdani o hyd.
Êîðíñêèé ÿçûê - tudalen (yn Rwsieg) sy'n sôn am Gernyweg.

24.10.01

Dau o'r dysgwyr yn nosbarth Wlpan, Llangrannog yw Lizzie a Mick Shaw, Pant-gwyn, Tanygroes. Maen nhw'n aelodau Cambrian Organics, grwp newydd sy'n cynhyrchu a dosbarthu cig organig o Orllewin Cymru i'r byd a'r bettws.
Newydd ail-ddarganfod archifau MorfaBlog i fisoedd Ebrill, Mai a Mehefin eleni.
Llongyfarchiadau i Dave a Mollie a chroeso i'r byd Mara fach.
Dysgu Ieithoedd Brodorol - gwefan o Brifysgol Gogledd Arizona i'r rhai sy gyda diddordeb mewn ieithoedd brodorol. Llwyth o ddolenni diddorol ac erthyglau fel hyn sy'n sôn am diwylliant a chymuned Hopi:
...language instruction is a community effort; it cannot be left to the formal teachers alone. Hopi must be spoken in the homes, kivas, plazas and all other public places. Children must have a reason to speak it and everyone must be involved.
via rhestr postio ELL
Cyhoeddi gwirydd sillafu Microsoft yn Gymraeg - stori BBC. Dim ond gyda Office XP bydd hyn yn gweithio, mae'n debyg, ond mae'n can yn y cyfeiriad iawn tuag at normaleiddio'r iaith yn y byd gwybodaeth technoleg. Ond mae 'na rywbeth dw i ddim yn ei ddeall: O stori BBC:
"Mae'r gwirydd sillafu a chysylltnodydd yn sicrhau fod defnyddwyr PC ym mhob rhan o'r byd yn gallu gwirio'u Cymraeg yn rhad ac am ddim o hyn ymlaen, diolch i gydweithredu agos rhwng y Bwrdd, Canolfan Bedwyr a chwmni Microsoft," ychwanegodd.
O wefan Microsoft:
The estimated retail price for the Proofing Tools for Office XP CD is $79.95 US.
Ydw i'n colli rhywbeth fan hyn?

23.10.01

Gwefan Christopher Meredith, un o'm hoff nofelydd Eingl-Cymreig, sy'n cynnwys detholiad ac adolygiad o'i nofel Griffri. (A dyma grynodeb Cymraeg ei iaith o'r nofel.)

21.10.01

Apology
Yn anffodus nid oes copi Cymraeg o'r tudalennau hyn ar gael ar hyn o bryd. A fyddech cystal â defnyddio'r botwm English ar y porwr er mwyn mynd nôl i'r dudalen Saesneg.
Mynd nôl? Sa i wedi gweld y tudalen Saesneg a does dim lot o ddiddordeb 'da fi, dweud y gwir. Dych chi erioed wedi gweld tudalen "Apology" fel hyn sy'n ymddirheuro nid yw'r fersiwn Saesneg ar gael?
Cwm Treweryn, Hydref 21, 1965 cofia dreweryn Yr oedd cry’ Gymry ar “guard” Yn fflîd wrth enau’r fflodiard, I droi’n ôl y lladron hwn — Eryrod Cwm Tryweryn, Heb groeso na chinio chwaith, Na glorio’n eu bwnglerwaith. Alun Cilie

20.10.01

Erthygl dda am deipograffiaeth ar y we yn y rhifyn newydd A List Apart. Wrth sgwennu ar y flog ’ma, dw i’n teipio pethau fel “â” (i wneud â) bob dydd ond, fel arfer, dw i’n anghofio am y collnodau a dyfynodau cyrliog sy’n helpu wneud testun ar wefannau yn fwy darllenadwy. Ydyn nhw’n helpu? Ydy “hyn” yn edrych yn well na "hyn"? Ydy hi’n wir taw yn y manylion mae Duw yn byw ? Neu ydw i’n mynd bach yn rhy refrol? Ac yn fwy pwysig byth, fydda i’n cael llawer mwy o ymwelwyr yma trwy gor-ddefnyddio geiriau fel rhefrol a chontiau yn fy sylwadau? Gawn ni weld.
Celfyddyd cysyniadol yn sbwriel - swyddogol!
"I didn't think for a second that it was a work of art - it didn't look much like art to me. So I cleared it all into binbags and dumped it."
Geirdarddiad y Wyddeleg
the irish word for 'jellyfish', 'smugairle rón' [smug-er-le rone] literally translates to 'seal snot'.
Hyfryd. Ond, yn ôl Geiriadur Bruce, un o’r geiriau Cymraeg am jellyfish yw contiau môr. Weithiau, dw i ddim yn edrych ymlaen at fy mreiddwydion beunosol.
Meters a morphin - ddrama fer gan Betsan Wyn Williams.
Rhieni dros Addysg Gymraeg - newydd dod ar draws eu gwefan ac mae 'na llawer o stwff diddorol i'w ddarllen hefyd. Ond rhaid fod y peth gorau yw'r bys bach sy'n ymddangos uwchben y dewislen ar y dudalen flaen. Tro cynta welais i fe, o'n i'n meddwl oedd e'n dafod bach. Neis.

18.10.01

Tro nesa dw i'n mynd i Iwerddon, rhaid i mi ymweld â Tŷ Bwyta Dwyers, yn Waterford. Yn y cyfamser, dw i am ceisio rhai o'u ryseitiau. Ffindes i'r wefan trwy dolen i morfablog gan Caitriona, merch y teulu sy'n rhedeg y tŷ bwyta a cynllunydd gwe chwaethus iawn.

17.10.01

Mae Caterina wedi ail-gynllunio ei safle. Sa i wedi darllen caterina.net am sbel, ond mae ei hadolygiadau llyfrau yn wastad werth eu darllen. Braf i weld y fath brwdfrydedd dros lyfrau. (Ar yr un nod, cer am gip ar lyfrgell ar-lein Mark& - mae Mark yn hala ei lyfrau trwy'r bost at unrhywun sydd eu moyn: falle nid i Gymru, ond ti byth yn gwybod...)
Ces i ganlyniadau cyntaf o'r Brifysgol ddoe. Sgorais 20 allan o 20 ar ymarfer treigladau, a 18 o 20 ar droi brawddegau i'r iaith safonol. Paid â chwerthin yn y cefn; treuliais i lot o amser arnyn nhw - sori, arnynt. Dwedais i wrth fy mam ar y ffôn neithiwr. Gofynodd hi pam na ches i ganlyniadau mor dda tro nes i radd y tro cyntaf (yn Nhreforys, 1987-90). Un reswm posibl: oedd bywyd cymdeithasol 'da fi pan o'n i'n stiwdent ifanc. Nes i ddim ffeindio llyfrgell y Polytechnig tan mis Tachwedd. Ond oedd staff i gyd yn yr undeb yn fy nabod i. Reswm arall: y tro 'ma mae diddordeb go iawn yn y pwnc mod i'n ei astudio. Oedd rhai o'm gysiau yn y Poly yn ddigon diddorol, a rhai o'r athrawon yn arddechog, ond, ar y cyfan, dewisais i gyrsiau achos oedd fy ffrindiau yn eu wneud, neu achos do'n nhw ddim yn swnio yn rhy anodd. Tro 'ma, dw i'n trïal cael gafael ar bobeth sydd ar fy rhestr darllen a stwff ychwanegol hefyd. Swot merchetaidd, neu beth?

14.10.01

Annywyl, Rheinallt, Annwyl! - adolygiad (yn Saesneg) o Bukoski gan Rheinallt H Rowlands.

13.10.01

Rali bach yn Aberystwyth y bore 'ma. Edrych ymlaen at weld lluniau o Angharad Tomos a fi ar yr un protest. *yikes* Dw i ddim yn teimlo cweit yn gartrefol ar brotestiadau Cymdeithas yr Iaith, er mod i'n cytuno â'r galw am Ddeddf Eiddo. Wastad yn gweld pethau o tu mas ydw i, trial darllen gwefusau'r heddweision ("Hei, mae'r boi 'na'n stico posteri ar ffenestri Swyddfa'r Cyngor. Ddylen ni ei arestio neu rywbeth?") yn lle gwrando ar yr areithiau. Wedi'r protest, fe es i lyfrgell y Brifysgol i gael gafael ar erthyglau ambyti barddoniaeth Gerallt Lloyd Owen. Mae 'a cymaint o dwll rhwng y gweledigaeth sy 'da ni oddi wrth ein beirdd (ac ein cantorion, wrth gwrs) a beth sy'n digwydd ar y strydoedd. Nid ar bobl dafod y ddraig mae bai am hynny, wrth reswm - maen nhw'n neud llawer mwy na'r rhan fwya ohonon ni. Ach. Jyst teimlo bach yn isel. Dylwn ni ymweld â'r dysgwyr yn 1142.

12.10.01

Os diddordeb 'da chi mewn bod ar y teledu? Mae Cwmni Hon am wneud rhaglen am y wefan Clwb Malu Cachu ac maen nhw'n moyn dysgwraig (neu ddysgwr, maen nhw'n mynd yn ddesperet!) sy wedi defnyddio'r safle ac sy'n fodlon i ymddangos ar S4C Digidol. Byddan nhw'n ffilmio yn Llambed dydd Iau nesa. Os oes diddordeb, cysylltwch â Catrin Mears.

10.10.01

Papur Dyddiol Cymraeg ? Neges oddi wrth Mercator:
Ers dechrau mis Awst 2001 bu Canolfan Mercator ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth o dan oruchwyliaeth Ned Thomas yn gweithio ar gynllun ymchwil i weld sut orau y gellir sefydlu a chynnal papur newydd dyddiol Cymraeg. Cafwyd nawdd gan y Comisiwn Ewropeaidd, Awdurdod Datblygu Cymru a Phwyllgor Cymru Biwro yr Ieithoedd Llai. Ein bwriad yw paratoi cynllun ymarferol a gweld ei wireddu ond, i sicrhau hynny, mae'n rhaid ymgynghori'n eang a chydweithio tuag at y nod. Os ydych am fynegi barn am yr hyn a fyddech yn hoffu gweld mewn papur o'r fath mae'n bosib cwblhau holiadur y prosiect ar ein safle we.
Gweithiais y bore 'ma, symud coed tân i Rachel. Enillais 7.5 Teifi. Dw i am wneud gwaith ar wefan partner Rachel, sef Ravi. Mae Ravi'n canu'r kora (offeryn telynaidd o'r Affric) a bron pob offeryn arall yn y byd, mae'n debyg. Mae 'na luniau ar ei wefan o'i ymweliad â Brithdir Mawr, "llwyth colledig" y Preseli.

8.10.01

Mae gan Noah Grey gasgliad hyfryd o luniau cefndiroedd.
Mijnkopthee.nl, minstens... - weflog o'r Iseldiroedd. Ddim yn deall gair, ond mae hi'n bert iawn. View, Source.
Neithiwr, ar 1142, fe ddechreuais ddysgu Cymraeg i'r EFTiaid. Braf i weld cymaint o ddiddordeb yn yr hen iaith ymysg ein ffrindiau Americanaidd. (Ac os wyt ti wedi'n cyrraedd o gyfeiriad frykitty: croeso mawr i ti.)

6.10.01

Adolygiad Gorkys o'r New York Press
It’s a link between earthy, backward-looking folk and arty, self-conscious, "futuristic" music that basically owes its existence to the German avant-garde. And to think that it happened in Wales.
Pam mae hynny mor anodd i'w gredu? Ydyn nhw'n meddwl bod ni ddim wedi clywed o Faust a Can yng Nghymru fach?
Linklust - gwefan newydd, tipyn bach fel Metafilter, ond yn Ewrop.

4.10.01

Pam Fi, Duw? Mae John Owen wedi marw.

2.10.01

Claire yn y Cymuned o'r Guardian (12/9/01). diolch i maff, eto, am ei sganio

1.10.01

via maff