7.5.02

Fydd dim byd 'ma am sbel, dw i'n datblygu fersiwn newydd o'r safle, gan ddefnyddio Teip Symudol. Bydd rhaid i mi weithio mas sut i symud popeth o fan hyn i fan 'na, a gobeithio bydd y weflog newydd yn hwylio'r tonnau digidol cyn diwedd yr wythnos.

6.5.02

5.5.02

O Lechryd i'r Eidal

Heddiw, dw i'n sganio lluniau newydd ar gyfer gwefan Robin Holtom. Bydda i'n ail-wneud y wefan cyn bo hir, felly dyma'ch cyfle ola i weld y lluniau sydd arni ar hyn o bryd.

Mynydd Arberth gan Robin Holtom

4.5.02

Technoleg, yr X Files ac ieithoedd bychain

Language Learning and Technology: rhifyn arbennig am dechnoleg ac ieithoedd brodorol. Llawer o erthyglau diddorol, megis yr un ar y rhyngrwyd ac ieithoedd brodorol yr Amerig. Ar diwedd yr erthygl honno, mae 'na ddolen i wefan ysgol gynradd Tulalip, sy'n llawn dop o bethau diddorol a difri.

Pam mae tywydd yn fenywaidd?

Dyma llyfr newydd sy'n gofyn pob math o gwestiynau diddorol am iaith, cenedl ieithyddol ac anghydraddoldeb rhywiol, gan gynnwys penod(au) ar y Gymraeg:
Among the issues discussed for each language are the following: What are the structural properties of the language that have an impact on the relations between language and gender? What are the consequences for areas such as agreement, pronominalisation and word-formation? How is specification of and abstraction from (referential) gender achieved in language? Is empirical evidence available for the assumption that masculine/male expressions are interpreted as generics? Can tendencies of variation and change be observed, and have alternatives been proposed for a more equal linguistic treatment of women and men?
[rhagor]

Y teulu mwya dyfeisgar yn y byd?

Beth yw'r brenhiniaeth? Do'n i ddim yn gwybod fod cymaint o'r rigmarôl 'traddodiadol' ynglyn â'r teulu Windsoraid wedi'i ddyfeisio mor ddiweddar:
"Jubilees," the periodic celebrations of a monarch’s survival in office that are now a tiresome feature of life, are also took on their present importance in the last century [h.y. yr ugeinfed ganrif]. The jubilee to mark 25 years of office for George 5 had "no exact precedent" writes Cannadine. But suddenly the church service on jubilee day was "something very much like a Holy Communion" according to an admiring Ramsay Macdonald.
[rhagor]

Dw i'n gwybod bod y fath dyfeisio yn ddigon cyffredin ond mae'r syfrdanol faint o'r celwydd mawr Prydeinig dyn ni wedi'i fewnoli. Yn erthygl yn y Barn newydd, mae Dafydd Morgan Lewis yn dweud "a minnau tua'r tair ar ddeg oed cofiaf ysgrifennu ar gefn copi o Lyfr Mawr y Plant y geiriau 'I believe in the Royal Family.'" Amser i roi'r pethau plentynaidd heibio? Ar y llaw arall, gall giamocs Phil Battenburg godi gwên o hyd. [dolennau oddi wrth plep]

1.5.02

"Isn't it good, Bulgarian wood?"

Mae Coedwig yr Ysbrydion yn llyfr/gêm/comic o Fwlgaria, gyda changen ffabaf y tylwyth teg y gwelwch chi erioed. Mae 'na reswm da am y gwên ar wyneb Goran. [oddi wrth glosses]

29.4.02

Dwyieithog? Neu iaith a hanner?

Codir cwestiynau cyfarwydd gan erthygl Crawford Kilian:
One interesting aspect of the White House site is that it's now bilingual. You can read all the site text in Spanish if you prefer. But as Nielsen notes, when you switch to Spanish, all the navigation guides remain in English! Spanish speakers may enjoy the convenience, but they'll also get the nonverbal message: You don't matter enough for us to take any real trouble to make this site navigable for you.
[rhagor]

Mae'r canol ar y ffin

Ai iaith yw technoleg gwybodaeth?

Mae 'na rywbeth cyfarwydd iawn ynglyn â'r stori hon, eto o gylchgrawn Wired. Pan o'n i yn yr ysgol, nôl yn yr oesoedd canol (h.y. cyn y cwricwlwm cenedlaethol a Chymraeg orfodol) roedd rhaid i mi ddewis rhwng astudiaethau cyfrifiadurol (fel y'u gelwid amser 'ny) a Chymraeg. Er fy mod yn agos at top fy nosbarth Cymraeg ail iaith, ces i fy nghyngori gan bawb i neud compiwters achos dyna ble oedd y dyfodol (ac, i fod yn onest, dyna ble oedd fy niddordeb - dw i wedi bod yn dweeb erioed). Felly, yn lle meistroli hen iaith y nefoedd bondigrybwyll, ces i fy nhrwytho yn ieithoedd llawer mwy defnyddiol, megis BASIC a LOGO, medrau sy wedi bod heb unrhyw les i mi o gwbl yn fy 'ngyrfa'.
Sensing widespread opposition, the state government set up a review team called Vijay Bhatkar committee to examine its own proposal. Dr. Vijay Bhatkar, a decorated scientist in India said, "We recommended that IT not be made an optional (second language) along with other languages, as Marathi will suffer. I believe not 60, but 80 percent of the students choose Marathi. But the government has retained its decision ignoring our recommendations. The education minister is very firm about his position."
[rhagor]

Gorchestiaeth Ieithyddol, rhan 2,382

Byddai rhai o'r ystrydebau yn yr erthygl hon yn chwerthinllyd, tasen nhw ddim yn dod o ysgolhaig y cyfraith mewn prifysgol Canada. Gall plentyn weld y gwallau yn y dadl 'ma:
A commission study released this week showed French is absent from 62 percent of 42 foreign embassy websites surveyed, while English is missing from 5 percent.

"The idea that there is a divide being created along language lines -- it just doesn't work," he says. "English is clearly the dominant language on the Internet. I don't know that there's a divide being created between English and French. English is the language of choice for so many."
[rhagor]

Felly, os ydw i'n deall hyn yn iawn, y dewis yw Saesneg neu dim byd. Y ffaith bod pobl ddwyieithog yn dewis Saesneg yn hytrach na dim byd yn profi bod hi'n well 'da nhw Saesneg na Ffrangeg. Felly, does dim pwynt darparu gwefannau yn Ffrangeg achos bydd pobl yn darllen y fersiwn Saesneg, fel maen nhw nawr. Why Professor Geist, you're a genius!

28.4.02

Yoshitomo Nara

yrchildhood gan Yoshitomo Nara

dy blentyndod

Termau Ymchilio yr Wythnos

Croeso i'r person oedd yn chwilio am ateb i'r cwestiwn tra phwysig "What does siarad Cymraeg mean?".

26.4.02

Gwallt pinc a'r iaith uffernol

Profiadau wrth geisio dysgu Basgeg. Erthygl Salon.
So I e-mailed my dad, "How's the Basque going?" Reply from the MIT professor emeritus of linguistics: "F---ing language from hell. This is a waste of my time."

We gave up. Our running joke was: "Well, we'll be fine as long as we learn to say, 'I support your cause. Please do not shoot.'" Really, it's just a joke -- I have no idea how to say that. And I'm thankful it didn't come up.
[rhagor]

Dôl ffrwythlon dolennau

Syllwyddor Tsieroci, ieithoedd a llenyddiaeth y byd hynafol a hen Saesneg. Dim ond tri dolen, bron ar hap, ffeindiais i ar weflog fabulousness. Diolchiadau hefyd i'r môr-forwyn enigmatig, am fy rhoi ar lwybr trwy goedwig y gweflogau ieithyddol. Mae mwy ohonyn nhw nag o'n i'n dychmygu.

"Why we write in English."

Cyfweliad â dau awdur o Affrica sy'n sôn am eu rhesymau dros dewis Saesneg yn lle eu hieithoedd brodorol.
Whatever their choices, African poets know that they are excluding part of their intended audience and limiting their own creative mode of expression, since most are, because of colonization, quite literally multi-lingual people. Within these choices of language, such multi-lingual African poets find limitations to overcome and freedoms to enjoy. Use of the English language, which carries the baggage of the oppressor's culture, usually becomes a mode of stimulating mental exercise. On the other hand, the Shona and Ndebele languages, which are most Zimbabwean poets' more natural forms of communication and expression of feelings, unfortunately limit the global exposure of their work.
[rhagor]

"Open the pod bay doors, HAL"

Dw wedi bod yn darllen Blodyn Tatws gan Eirug Wyn, ac un o'r pethau oedd yn fy mhoeni oedd y ffaith bod y cyfrifiadur, NESTA, yn gallu deall Cymraeg lafar ac ateb yn yr hen iaith hefyd. Mae'n jyst yn bosib y bydd cyfrifiaduron wedi'u datblygu sy'n deall Saesneg erbyn canol y ganrif hon, ond anhebyg iawn bydden nhw'n gallu defnyddio'r Cymraeg. Mae Microsoft yn arllwys miliynau i mewn i ymchwilio'r posibiliadau, gan ganolbwyntio ar saith iaith - dydy'r Gymraeg ddim ar eu rhestr. Ta beth, dyma gweflog am brosesu ieithoedd naturiol, tarddle da am fwy o wybodaeth am y maes hynod o bwysig hwn. [oddi wrth 'sglaig o gyfieithydd]
Exit Here: chwilio am yr Amerig go iawn. Yn 1993, teithiais i ar draws yr Unol Daleithiau gyda'm cariad. Dyma un o'r motels arhoson ni ynddo.
arwydd gwesty'r 'sbardun ariannol'

25.4.02

Cipolwg gwahanol ar ddiwylliant Cymru

Os dych chi'n gallu anwybyddu'r tudalen cynta hyll a'r baneri porn ar bob tudalen arall mae'n werth ymweld â dyn y blaidd, yn enwedig y Essential Guide to Welsh Pop Culture. Nid jyst y criw arferol sydd yma, ac mae gan y boi ffordd gyda'i eiriau, rhaid cyfaddau:
R.S.Thomas: The Joy Division of Welsh poetry.

Augustus John: the Hello magazine of his day.

Murray the Hump: A band that manages to sound louche and naive at the same time.

24.4.02

Grandad Jack

Dw i'n sganio hen luniau heno. Dyma fy nhaid, tad fy nhad, fel bachgen.
John Christmas Davies

John Christmas Davies

"He must be on something."

Dechreuais i drafodaeth Metafilter am weflogau arbenigol. Braidd yn brin oedd yr atebion, ond dw i'n hoffi fuckcorporategroceries (<homer> mmm, bwyd </homer>), ac mae 'na lu o ddolenau diddorol ar cioran63 (sydd yn Almaeneg, ond gyda llawer o luniau).

22.4.02

Un iaith i'w rheolau nhw?

Un byd, un iaith. Erthygl gan Vincent Buck (o'r glossblog) am rôl y cyfieithydd yn y Ewrop (a'r byd) newydd.

21.4.02

Wedi marw a mynd i nef y blogwyr...

Newydd ddod ar draws glossblog, gweflog am ieithoedd. Mae 'na gormod o ddolennau 'na i mi eu dwyn heno, ond tebyg iawn bydda i'n ailgylchu storiau Vincent yn yr wythnosau i ddod. Dyma dau i ddechrau: Rhyfelau ieithyddol erthygl yng nghylchgrawn Harvard. Holiadur ar ddwyieithogrwydd ac emosiynau

Ydych chi'n cofio Treweryn, Lerpwl?

Drueni collais i hyn ar y pryd, ond mae'n debyg yr oedd arddangosfa am Dreweryn yn Lerpwl yn gynt eleni. Wrth darllen fersiwn BBC hanes boddi Capel Celyn des i ar draws hyn:
In 1936 Penyberth in Caernarvonshire was drowned...

Meddwl am rywbeth arall, tybed?

llyn celyn
Llyn Celyn gan Richard Page
Mwy am waith Richard Page yn Nhreweryn.

Rhedeg am y trên

Stori gyffrous. Mae bywyd yn gyffrous, weithiau, ondyfe?

Hapus/trist? Bechgyn/merched? Gweflog/Gymraeg?

Meddyliwch am ddau air o'r un hyd a'u rhoi nhw yn yr Ambigram.Matic i gael un gair plith-draphlith. Mae rhai'n gweithio yn well nag eraill. Cofiwch dod yn ôl a rhoi gwybod am unrhyw canlyniadau diddorol a gewch chi. [oddi wrth iconomy]

19.4.02

Eiconau i'r twristiaid

Pwy sy'n penderfynu beth yw beth yw sothach a beth yw celfyddydau? Cwestiynau diddorol mewn safle o Dde-Orllewin yr Amerig.

Herio twr Babel

Cyfieithu a'r ieithoedd bychain:
The question of translation has a unique relevance in Ireland, where for centuries language usage has been inextricable from social and political issues. Other European countries may be moderately concerned about maintaining the purity and integrity of their well-established native languages. In Ireland, however, the supremacy of a second language is unquestionable, while the national language often struggles to keep its position from being all but eroded
[rhagor]
[oddi wrth wood s lot]

"Can't you talk any louder?"

Ydy hi'n rhy hwyr i achub yr unig iaith fenwod yn y byd?
In a bid to save a special language used exclusively by women of an ethnic group in central-south China, a protection zone will be set up in Hunan Province.

The language, on the verge of disappearing, is believed to be the world's only women's language. It is used among women of the Yao ethnic group in Jiangyong County of Hunan.

The language was usually written on silks, paper fans or embroidery items. So far, more than 1,200 characters have been identified. Less than 700 characters are in common use.
[rhagor]

(Daw'r difyniad yn y teitl o'r gân Girls Talk, gyda llaw. Mae rhywun wedi fy ngalw yn hilgi heddiw, sa i mo'yn bod yn rywiaethwr hefyd.) [oddi wrth meistr yr orsaf]

Estheteg Warcheidiol

Cyfoeth y byd: nodiadau maes ar gyfer ail-ddyfeisio. Erthygl hir gan Iwan Bala. Dim amser i'w darllen nawr, ond mae'n edrych yn ddiddorol. [english version]

17.4.02

Alawon cadwynog

Mae'r Prosiect Cloriau yn ymdrech i olrhain cysylltiadau rhwng grwpiau pop gan ddilyn olau ail fersiynau. Dw i wedi bod ati gan ychwanegu rhai o'm ffefryns i'r cronfa gwybodaeth, ond mae angen lot mwy o gysylltiadau i grwpiau Cymraeg eu hiaith.

11.4.02

Llais dadeni

Cyfweliad â Meredid Hopwood o'r rhaglen Women's Hour. Mae brwdfrydedd y Prifardd yn heintus iawn. Rhaid i mi ddysgu rheolau cynghanedd yn syth. Pam dylai'r menywod gael yr hwyl i gyd? [diolch i Theo Brueton]

9.4.02

Wrth baratoi am draethawd nesa yn fy nghwrs coleg, dw i'n wrthi'n darllen hunangofiant Angharad Tomos, sy'n llawn chwedlau diddorol, fel hon:
Yn y diwedd, yr oedd slogan ar y pedair ochr [o golofn Nelson], yr ymwelwyr Japaneaidd yn fflachio eu camerâu fel pethau gwirion, a Sali Wyn a minnau'n eistedd ar y grisiau yn meddwl am ba hyd y byddai'n rhaid inni aros yno. Ymhen hir a hwyr, daeth y glas a'n cymryd i'r ddalfa. Yn Swyddfa'r Heddlu Bow Street, roedd yr arolygydd yn wallgo.

'How dare you?' bloeddiodd yn fy wyneb. 'How would you like it if I came to your place and destroyed the most precious thing you have?

'You already have,' atebais.

'Shut up, you little bitch.'

Yr adeg honno y sylweddolais fod colofn Nelson yn golygu tipyn mwy i'r Saeson nag y mae i ni.

8.4.02

"OK! I moon the Balrog!"

Geiriau olaf enwog - doniol i bobl drist a gamdreulio eu hieuenctid chwarae gemau fel Dungeons & Dragons. Ie, pobl fel fi. [oddi wrth haul yn y pellter]

Pam nad ydw i ddim yn ysgrifennu yn y Gymraeg?

Newydd ychwanegu y difyniad gan Bobi Jones o'i draethawd Planet o 1970 i ochr dde y dudalen, ac wrth edrych arno ar y weflog, wneud yn siwr mod i ddim wedi wneud traed moch ohono fe, sylwais bod y rhan fwya o'r safle 'ma yn Saesneg, ddim yn y Gymraeg o gwbl. Adlewyrchiad yw hwn o'r ffaith mod i'n treulio gormod o amser syrffio'r we, a dim digon meddwl am bethau call i ddweud am y pethau dw i'n eu darganfod, ac hefyd y ffaith mod i'n ddiog dros ben.
DU Amlieithog:
  Contrary to popular belief, the UK has always been multilingual. Gaelic, Irish and Welsh have been gradually displaced by English, itself the product of many different influences, but today are fighting back. These 'older mother tongues' have been joined by an astonishing variety of more recently arrived languages from all parts of the world.
[rhagor]
[via y boncyff cneuog]
Rhestr dolennau Iolo Morganwg. Lot o 404au, ond llawer o stwff diddorol hefyd.

6.4.02

Yr Angel Clwyfedig

Casgliad Hugo Simburg yn oriel genedlaethol y Ffindir. Braf i weld sganiau o safon eitha da. Dyma'r llun sydd ar glawr llyfr Angharad Tomos, Wele'n Gwawrio.

Yr Angel Clwyfedig gan Hugo Simburg

4.4.02

Cyflwyniad da i syniadau paramaeth (permaculture) mewn cyfweliad â Bill Mollison. [via Bifurcated Rivets]
Gyda FindSounds, gallwch chi chwilio'r we am effeithiau sain mewn sawl fformat. Dw i wedi ffeindo swn fy hoff deryn, fy hoff gi ac hyd yn oed fy hoff ragenw - llawer gwell 'da fi ni na nhw. Os wyt ti'n ffeindio rhywbeth diddorol, rho wybod yn y blwch sylwadau.

3.4.02

Ffeindiais i'r dyfyniad hwn ar wefan Bill Poser; mae'n dod o'r llyfr hwn:
Like cholera or leprosy, monolingualism at both societal/state and individual level is a dangerous illness, which should be eradicated as soon as possible. Its promotion is dangerous for peace in the world. The center of the contaminated area is Europe and the Europeanised countries. This center does its best to spread the disease to other parts of the world...
Tove Skutnabb-Kangas

2.4.02

Hen luniau o Siapan yng nghasgliad llyfrgell Nagasaki. [via gordon.coale]
Penblwydd hapus Raidió na Gaeltachta, 30 oed heddiw. Tri deg mlynedd heb chwarae un record Saesneg ei hiaith. Dydy Radio Cymru ddim yn gallu goroesi tri deg munud heb wneud hynny.

1.4.02

Ddim wedi cael lot o amser i sgwennu dim byd 'ma ers wythnos. Gyda'r tywydd mor braf, a dim dosbarthiadau i'w dysgu, dyn ni wedi bod yn gweithio yn yr ardd a chlós y tyddyn. Ddoe oedd ras hwyiaid cyntaf y tymor yn y pentre, a'r tro cyntaf i fi gollwng y 500 o adar bach plastig i Nant Hawen. Cyffrous iawn. Neithiwr, aethon ni i weld A Hard Day's Night yn Theatr Mwldan; noson gynt welon ni Gosford Park, ffilm newyd Robert Altman. Heno, bydd Cymanfa Ganu yng Nghapel y Wig.

30.3.02

Dyma desten daflen Cymuned sy'n cael ei dosbarthu ym Mhorthmadog ar hyn o bryd. Beth dych chi'n meddwl amdani?

27.3.02

Hela Hen Eiriau

Ddoe, wrth ymchwilio Daypop, des i ar draws hyn:
"I once heard a Welsh sermon in which the word 'truth' was repeatedly uttered in English. Apparently there is no exact equivalent in Welsh"
Geoffrey Madan
[rhagor]

Mae hynny yn lol, wrth gwrs (dw i'n hoff iawn o'r ffaith taw 'falsehood' yw ystyr Saesneg y gair Cymraeg 'truth', ond stori arall yw honna). Heddi, wrth edrych am ddiffiniad Plant Alis ffeindais i hwn:

Noda Stephens, o Ferthyr, fod yn y Gymraeg naw o wahanol eiriau am frwydr, ac efe a gasgla o weithiau yr hen feirdd bedwar ugain a phymtheg o eiriau cyfansawdd wedi tyfu allan o un o'r naw hynny, sef aer, megys aerawd, aerawg, aereswr, &c. Ond nid oes Gymro heddyw a fedr ddefnyddio ond pur ychydig o’r pedwar ugain a phymtheg hynny mewn unrhyw frawddegau trefnus. Prawf hyn ddau beth: cyfoeth y Gymraeg, ac anfedrusrwydd Cymry yr oes hon i drin eu hiaith eu hunain.
[rhagor]

26.3.02

Lluniau o frodorion America, llyfr gan Brifysgol Pennsylvania, gyda traethodau gan Gerald Vizenor ac eraill:
[Quanah] Parker was Comanche, a wise crossblood leader at the turn of the last century who defended the use of peyote as a religious freedom. The narratives of his religious inspiration, his crossblood uncertainties, are not obvious in either of the photographs. His hair is braided in both pictures but the poses seem to be the causal representations of then and now, tradition and transition, or variations on the nostalgic themes of savagism of civilization. His eyes, not the costumes, are the narrratives...
[rhagor]

Mwy am Quanah.

Erthygl arall, gan yr un awdur yn yr un cylchgrawn:
The success of British imperialism could never be accounted for by military force alone. It needed accompanying myths of cultural accomplishment, uplift and efficiency. For a worldwide set of elites, English served as an entrance to that cultural mythography, as it continues to do today. When the forces of neo-colonialism assemble themselves, whether as an IMF economic assessment team or as a multinational Anglophone gendarmerie, ELT classes will have provided both language and ideology.
[rhagor]

Ôl-wladychiaeth, gwrthod ieithyddol a seiber-Saesneg

Hen erthygl (o 1996) sy'n cnoi'r cil am ddefnydd ieithoedd bychain ar y we. Llawer o edefion diddorol i'w dilyn:
The anglophone world favors understanding English rejection as a measure of technological backwardness, as national socioeconomic suicide in the face of anglophone-based international market competition. The degree of English-speaking in a non-anglophone country's population serves as a rough measure of its integration into the global capitalist economy, as well as its preparedness for further integration.
[rhagor]
Dych chi wedi darllen Alasdair Gray?
Alasdair Gray's was a voice that offered me something freeing. It wasn't distant or assumptive. It knew words, syntax, and places I also knew, yet used them without any tang of apology: it took its own experience and culture as valid and central, not ancient or rural, tourist-trade quaint or rude mechanical humorous.
[rhagor]

Hunaniaeth a chwant o waed

Erthygl ddiddorol ar hunaniaeth genedlaethol a gwleidyddol. Dw i ddim yn cytuno â holl swm a sylwedd yr awdur, ond mae'n wneud llawer o bwyntiau pwysig am beryglon cenedlaetholdeb diwylliannol arwynebol.
There is more at stake in Northern Ireland than "identity." If it were only about identity, the conflict really would be insoluble, for if the republicans should be true to their Irish roots, why should the Loyalists not be equally true to their British roots? Or is Hayden suggesting that they go back to the land of their ancestors, which for many of them would be Scotland? In fact, the conflict is as much about social discrimination as it is about religion or political rights. How to find a political solution which safeguards the interests of the Catholic minority as well as the Protestants is extremely difficult. To see it as a colonial war, as Hayden does, which would be solved as soon as the hated enemy goes home, is naive at best, and dangerous at worst. But one doesn't have to be a Sinn Fein sympathizer to regard the treatment of their battles as a form of personal therapy for American visitors as an insult.
[rhagor]
Neithiwr, es i weld Mulholland Drive, ffilm newydd David Lynch. Wrth adael y sinema, yr oedd yr un golwg ar bawb, golwg sy'n cael ei ddisgrifio yn Saesneg fel hyn: WTF?

24.3.02

Dim byd ond cariad, beib

Peiriant ffrwythau'r Beatles, caethiwus dros ben. Casglais i 143 o gredydau cyn i mi ennill y jacpot. Fyddet ti ddim mor dwp, na fyddet?

23.3.02

Ces i fargen yn car bwt Abertawe y bore 'ma: record gan Jo'Burg Hawk.

22.3.02

Oriel Applets. Dw i ddim yn deall y mathemateg tu ôl iddyn nhw, ond mae'n hwyl i'w gwylio. Dw i'n credu taw hwn yw fy hoff un. Mae'r caleidosgop yn neis, hefyd. A'r prismau.

Dinasoedd dan y croen

Gad i fi gymryd dy law a'th arwein ar hyd strydoedd Efrog Newydd anghofiedig. Neu, os nag wyt ti am deithio mor bell, beth am fynd am dro yn y Gaerdydd go iawn.
Y Beibl, ar-lein. Testamant newydd yn unig, i ddechrau.
Themau teledu o'r 70au ac 80au.
Disgwyl glaw? Gwefan Dylan fendigedig, llawn dolennau.

21.3.02

Erthygl Chicago Times ar Wyddeleg yn Iwerddon.

Wales Visitation

Recordiad o Allen Ginsberg darllen ei gerdd am ei ymweliad cyntaf i Gymru. Gwelais i fe ar ei ymweliad olaf, yn Abertawe, blwyddyn neu ddwy cyn iddo farw. Perfformiad trydanol.

20.3.02

Calling all Anglophiles! [sic]

Mae Washington Post yn un o’r papruau mawr yr Unol Daleithiau. All the President’s Men ac hynny i gyd. Beth yw’r esgus felly am yr ystrydebau blinedig yn eu hadolygiad o CD gan y Super Furries:
By most accounts, Wales is one of the sleepiest regions of the United Kingdom, an isolated rural enclave still steeped in stodgy Old World traditionalism. How, then, to explain the rise of Super Furry Animals, currently the focus of an adventurous pop scene that has sprung up from the countryside like a patch of mushrooms?
[rhagor]

15.3.02

Tudalen o hiwmor ieithyddol, gan gynnwys y canlynol:
We don't just borrow words; on occasion, English has pursued other languages down alleyways to beat them unconscious and rifle their pockets for new vocabulary.
Booker T. Washington
[rhagor]

Hidlenni uwchiaeth

Erthygl yn Nature am y ffordd mae pobl dwyieithog yn hildo geiriau:
Bilingual people switch off one language to avoid speaking double Dutch. By first sounding out words in their brain's dictionary, they may stop one tongue from interfering with another.

Those fluent in two languages rarely mix them up. They switch between language filters that oust foreign words, Thomas Munte of Otto von Guericke University in Magdeburg, Germany, and his team suggest.
[rhagor]

Cawl ieithyddol

Llyfr cogionio i ieithyddwyr. Hmm, amser swper, dw i’n meddwl.

Ieithoedd mewn perygl

Ar raglen NPR Science Friday dydd Gwener diwetha oedd trafodaeth ar ieithoedd mewn perygl. Gall wrando ar yr holl raglen ar lein (mae angen RealPlayer). Llawer o ddolennau diddorol, hefyd.

12.3.02

Erthygl Guardian am y ‘gwahaniad digidol’:
The so-called digital divide is in danger of widening into a chasm after a new report revealed that twice as many Londoners as Welsh people access the internet on a regular basis. [...]

Around 56% of people living in the south-east [of England] regularly use the internet, compared to only 23% in Wales, and a similar pattern is evident with email usage.
[rhagor]

11.3.02

Breuddwyd Descartes

Hanes gorffennol a’r dyfodol cyfieithu awtomatig gan beiriannau.

O, Jesu, are you come from Wales?

Cwestiwn: Sawl gwaith crybwyllwyd Cymru gan Shakespeare? Ateb: Tri deg pedwar. Cwestiwn arall ’te: Beth am y Cymry a’u hiaith? Ateb: Tri deg dau, rhyngddynt.

Dau artist o’r Amerig

Mae’r artist Eban Hieronymous Johnson yn haeddu ei enw canol. Llawer o enghreifftiau o’i waith unigriw a llawer o ddolennau i’w dilyn unwaith dych chi wedi bennu. Ro’n i’n mwynhau delweddau calendrau Jesus Helguera, hefyd:
Helguera’s calendars gave Mexican Americans something to be proud of, a rich Mexican culture and history. They reminded us that we are not the foreigners, but descendants of natives. Jesus Helguera’s art has for decades been adopted as Chicano art. It is prevalent and yet not intrusive. It is powerful yet blends into the background. His images were imitated and copied. These cultural calendars can still be found in countless tienditas, bakeries, liquor stores, mercados and Mexican homes.
[rhagor]

[via American Samizdat]

Siapiau o Gymru

Ffeindiais i’r gerdd hon gan Menna Elfyn ar wefan Web of Words - yn anffodus, diolch i’r ffordd maen nhw wedi cynllunio eu gwefan, dw i ddim yn gallu rhoi dolen syth iddi. Bydd rhaid i chi ddilyn y dolenni o’r dudalen ffrynt i’w ffeindio. Mae fersiwn clywedol o’r gerdd yn gysylltiadwy, fodd bynnag.
Siapiau o Gymru

Ei diffinio rown
ar fwrdd glân
rhoi ffurf i’w ffiniau
ei gyrru i’w gororau
mewn inc coch;
ac meddai myfyrwyr o bant,
‘It’s like a pig running away’;
wedi bennu chwerthin,
Rwy’n ei chredu;
y swch gogleddol
yn heglu’n gynt
na’r swrn deheuol
ar ffo rhag y lladdwyr.
[rhagor]

Ffilm Gernyweg ei hiaith i gael perfformiad cyntaf yn San Steffan

Mae’r erthygl yn ddwyieithog, Saesneg a Chernyweg. Faint o’r Gernyweg dych chi’n gallu ei deall?
“An fylm a ober war lies nivel. Hwedhel da yw, yntertaynmont gwir mes yma marthys moy ena mar mynnir down lowr. Prag y hwrussyn ni y fylmya yn Kernewek? Mar ny vynnyn ni gweles an bys avel park kerri McDonalds-po-Kentucky Fried Chicken, y tal dhyn ni keslowena rychter ha dyfrans.”
[rhagor]

Peiriant dawnsio ydw i...

ac allwch chi ymuno â fi gyda’r teclyn hwn. Lot o hwyl. (Mae hi’n safle Almaeneg ei hiaith: rhowch glec ar y gair “Selbermachen” yn y cornel gwaelod de a bant â chi.)

10.3.02

Hei! Dw i’n gallu gweld fy mhentre o fan hyn!

Casgliad wych o hen gardiau post O’r Waun, y pentre lle ges i fy magu. Dyma llun o goffeb rhyfel gan Eric Gill sydd yng nghanol y pentre. Yr oedd fy mam yn byw yn y stryd hwn fel geneth, a phriododd hi fy nhad yn y capel hwn. Ro’n i’n arfer delifro’r Evening Leader i’r ty hwn. Gwych.

A’r alawon hen yn fyw

Gwaith Ceiriog ym mhrosiect Guttenburg:
Llongau Madog

Wele’n cychwyn dair ar ddeg,
O longau bach ar fore teg;
Wele Madog ddewr ei fron,
Yn gapten ar y llynges hon.
Mynd y mae i roi ei droed,
Ar le na welodd dyn erioed:
Antur enbyd ydyw hon,
Ond Duw a'i dal o don i don.

Ser y nos a haul y dydd,
O gwmpas oll yn gwmpawd sydd;
Codai corwynt yn y De,
A chodai’r tonnau hyd y ne;
Aeth y llongau ar eu hynt,
I grwydro’r mor ym mraich y gwynt;
Dodwyd hwy ar dramor draeth,
I fyw a bod er gwell er gwaeth.

Wele’n glanio dair ar ddeg,
O longau bach ar fore teg:
Llais y morwyr glywn yn glir,
’R ol blwydd o daith yn bloeddio “Tir!”
Canent newydd gan ynghyd,
Ar newydd draeth y newydd fyd -
Wele heddwch i bob dyn,
A phawb yn frenin arno’i hun.
[rhagor]

Ble mae’r ieithyddion Cymraeg?

Nid, ar y cyfan, yng Nghymru, fel esbonir yn yr erthygl hon:
In this situation one might suppose that Welsh would be increasingly prominent as an object of academic study in Wales. Sadly, this is not the case. A great deal of energy is devoted to teaching Welsh, and to promoting its use, and also to studying how it is and has been used, but there is little research on the language itself, its sound system and its grammatical structure, how they are acquired by children, how they have changed over time, and how they vary from place to place. Increasingly, such research is carried out outside Wales and by non-Welsh linguists. [...]

Someone might also argue that the priority for those who are interested in Welsh must be to teach it or to promote its use in various ways and that studying the language itself is a luxury the country can’t at present afford. The trouble with this argument is that promoting a language and studying it are not independent matters. In the long run the possibilities of promoting the language will be significantly reduced if the language is not an object of study.[...]

There are a number of comparisons that are relevant here. Wales is not the only small country with an interesting language. Another is Iceland. In 1998 Iceland had a population of under 300,000, while Wales had a population of nearly 3 million. More importantly, according to the 1991 census, the number of Welsh speakers in Wales was 500,000. Thus, there are considerably more Welsh speakers than Icelandic speakers. In the circumstances, one might think that there would be at least as much work on Welsh in Wales as there is on Icelandic in Iceland. In fact, there is far more work on Icelandic in Iceland. Over the last 20 years Icelandic linguists have produced a large body of sophisticated work on their language and as a result Icelandic has had a major impact on linguistic theory.
[rhagor]

Gweler manylion Seminarau Cystrawen y Gymraeg am enghreifftiau o’r gwaith sy’n cael ei wneud.

9.3.02

Mewn rhifyn arall o’r un cylchgrawn mae erthygl am numismateg a hunaniaeth frodorol:
In a document detailing Governor Philip’s expedition in 1791, it was recorded that “...Men’s beards were kept at reasonable length by singeing. This must have been an unpleasant operation because, after European contact, they were happy to accept the offer of a shave” (Turbet, 1989). Thus, rather than being an acknowledgement of the adorable bodies of Aboriginal Australians, the Aboriginal silhouette comes across as ‘natural’, in the pejorative sense of the word, in contrast with Queen Elizabeth’s silhouette, on the same coin, which was depicted as ‘civilized’.
[rhagor]

Mae civilized yn air diddorol, ondyfe?

Mwy o farfau...

mewn rhifyn arall o’r un cylchgrawn ffeindes i erthygl ar numismateg a hunaniaeth frodorol:
In a document detailing Governor Philip’s expedition in 1791, it was recorded that “...Men’s beards were kept at reasonable length by singeing. This must have been an unpleasant operation because, after European contact, they were happy to accept the offer of a shave” (Turbet , 1989). Thus, rather than being an acknowledgement of the adorable bodies of Aboriginal Australians, the Aboriginal silhouette comes across as ‘natural’, in the pejorative sense of the word, in contrast with Queen Elizabeth’s silhouette, on the same coin, which was depicted as ‘civilized’.
[rhagor]

Mae civilized yn air diddorol, ondyfe?

Arwyddocâd barfog

Wrth ddilyn dolen mewn trafodaeth Metafilter des i ar draws y Journal of Mundane Behavior, lle ffeindes i'r erthygl hon am farfau a'u harwyddocâd:
Abstract: This paper analyses the cultural significance of male facial grooming, the arts of shaving, clipping and trimming, and the meanings of full beard growth. It draws upon a semiotic interpretation, and reconfigures the overlooked and personalised ritual of daily facial preparation and presentation. The analysis sees facial hair as a signifier of masculinity, but one which does not remain fixedly within the masculine realm. The radical politicisation of facial hair has been effected through both the gay and the feminist movements, so that the figures of the "bearded fairy", the "goateed club bunny", and the "drag king" are not restricted to their assigned subcultures, but bleed via the mass media into dominant culture.
[rhagor]

Jyst rhag ofn mae hynny yn swnio tipyn bach yn rhy drwm, dyma berspectif y Brunching Shuttlecocks ar yr un pwnc:

And even now there are pockets of us stubbornly clinging to our goatees both in the literal and metaphorical sense, those who insist that it was never about the money and the parties and being interviewed by news-magazines as if our opinions mattered. It was, and still is, about hiding our chins.
[rhagor]

Mae Blogger newydd fwyta dwy neges. Prawf yw hwn.

7.3.02

Cipolwg ar Golwg

Mae gwefan newydd Golwg wedi cyrraedd. Braf i weld archif o erthyglau ar lein (ond do’n i ddim yn gallu dod ar hyd yr un am David Crystal o fis neu ddau yn ôl), a fforwm sgwrsio i ddarllenwyr. Bydd yn ddiddorol i weld sut bydd y safle yn datblygu ac a fydd darllenwyr Golwg yn ei defnyddio. [diolch i Dafydd]

6.3.02

Galar cystadleuol

Mae hyn yn greulon, ond fyddai Spike wedi’i fwynhau, dw’n siwr:
Politicians also expressed their sorrow at Spike’s passing. “I think we met, a few years ago,” Prime Minister Tony Blair told reporters. “I remember he called me an arrogant bastard! He was so very good at irony, we all laughed.”

Ian Duncan Smith, however, laid the blame for Spike’s death squarely at the door of beleagured Transport minister, Stephen Byers. “Spike might have been alive today if the transport links between his home and London were better. I call on Mr Byers to reconsider his position.” Mr Byers made no comment but during the media interest surrounding Spike’s death announced the privatisation of pavements.
[rhagor]

Gwaith Maes

Mae Gwaith Maes yn gylchgrawn Cymraeg ei iaith sy’n cyhoeddi adnoddau i athrawon. Ar y wefan wnaeth yr erthyglau ar blant Castell y Waun a’r frân goesgoch yn tynnu fy sylw. Braf i weld gwefan Cymraeg gyda chynllun mor dda. [diolch i Robina]

Have you haved some tea?

Adolygiad NYRB o lyfr newydd Steven Pinker, Words and Rules:
The pleasures of Pinker’s book are in his accounts of the results of detailed scholarship and theories about particular words and forms. I, for one, did not know that medieval English had the regular past tense for have and make, haved and maked, but that the sheer frequency of the occurrence of these verbs led to our current shorter had and made.
[rhagor]

Cad-ddadpar defnyddiol i’r tro nesa cwyna rhyw ddysgwr pedantaidd am ffurfiau ar lafar i ferfau Cymraeg fel gâth am cafodd. Mae ieithoedd fel dwr, ceisio ffeindio ei lefel.

5.3.02

Mae bob dydd yn arbennig

Ar 5ed Mawrth, 1954, a phedwar mis wedi marwolaeth ei hawdur mewn dinas ochr draw y sloe black sea, cyhoeddwyd drama ar gyfer lleisiau yn Llundain:
Listen. It is night moving in the streets, the processional salt slow musical wind in Coronation Street and Cockle Row, it is the grass growing on Llareggub Hill, dewfall, starfall, the sleep of birds in Milk Wood.
[rhagor]

Llwyau serch y cewri swrrealaidd?

Efallai mod i ar gyffuriau, ond mae ’na rhywbeth yng ngwaith cerlyn o gerfiwr William Kent sy’n f’atgoffa o lwyau serch. Yn enwedig yr un ’ma a’r un ’ma. Ydw i ar gyffuriau? Os dydw i ddim, falle bydd hi’n bosibl i annog rhyw Gymro-Americanaidd celfyddydlyd i brynu ei waith. Mae digon ar gael.
Like buried treasures, hundreds of Kent’s carvings—most standing taller than he—are stored under tarpaulins in his barn. They are everyday objects he re-creates in wood: giant shoehorns, pipes, ladles, vises, calipers, razors, safety pins, plugs, eyeglasses, corkscrews, shoes, lightbulbs, shell beans, bell peppers (one fashioned into a “Self Portrait With Erection”), octopods, reptiles, dental plates. This is not whittling on a grand scale but is, instead, a complicated artistic process that produces all of five or six complete works per year. Defying belief, most of his sculptures are carved from single pieces of wood purchased from sawmills.
[rhagor]

4.3.02

Lluniau Teuluol o Montana

Casgliad anhygoel o luniau un teulu yng Ngorllewin yr Unol Daleithiau, rhwng 1866 a 1969. Mae’r lluniau i gyd yn fawr, o safon uchel, ac yn cymryd sbel i lwthio. Mae’n werth aros amdanyn, ond mae ’na cymaint ohonyn nhw. Dim ond crafu'r wyneb dw i wedi wneud. Anhygoel.
Jack Ellis Haynes (1884-1962) is the subject of these photographs. They represent almost his entire life, missing only a combined period of three years between his birth and his death. He is seen in studio portraits and snapshots and in a variety of settings. The locations include the University of Minnesota and YNP, with many photographs concerning the Mammoth area of the park and the Haynes home and studio there. Additional photographs include snapshots of JEH receiving an Honorary Doctorate from Montana State University, working indoors and outdoors, and JEH performing an activity which was very much his own - smoking a cigar in a pipe.
[via consumptive]
Stori arall am brofiad dysgu Siapanaeg, o weflog gan rywun sy’n dysgu yn Siapan:
it was an excruciating hour an half, as we both sat their looking puzzled and scrunching up our eyebrows, knowing full well that all those words issuing forth from sensei's mouth should be within easy grasp. and to make it all worse, during some polite chit chat (in english) before class started, sensei learned that my wife is japanese. apparently, i should be fluent by now. i may have to cut my tongue out.
[rhagor]
Dw i am gasglu storïau fel hyn, i'w rhannu gyda fy myfyrwyr. Hefyd, dw i’n meddwl dylen nhw fy ngalw i sensei. [via prosiect pepys a plep]

3.3.02

Is-deitlo Tolkien

Trafferthion wrth is-deitlo Tolkien, yn Siapanaeg:
Gollum, the cave-dwelling creature drawn by the ring’s call, goes by a katakana rendering of his name in the movie, but was known as “gokuri” (the sound made when swallowing) in the book.

Likewise, Aragorn’s nickname of Strider was rendered in katakana, whereas the original translation referred to him as the more poetic “haseyo” (a person who runs fast). Toda worried that while die-hard fans of the book would feel more comfortable with haseyo, the general public would not understand its meaning, let alone be able to read the characters.

“There were many people who wanted to stick to the original Japanese translation,” said Toda, “but some things look really strange on screen. Subtitling isn’t a literal translation and you cannot translate word-for-word.”
[rhagor]

Owen Glendower

Adolygiad arddechog o Owen Glendower John Cowper Powys, gan Margaret Drabble, yn y Guardian ddoe:
This is in one sense a book of stirring Welsh patriotism. “The Welsh,” thinks our young hero, Glendower’s cousin Rhisiart ab Owen, “are certainly the most civilised people in the world.” Powys’s Wales is not parochial, and its people are not barbarians. They are Oxford-educated, they know Rome and Avignon and Constantinople, they read French and Latin, they debate theology and aesthetics, they ponder the future of the commonwealth and the universities and the coming rule of international law.
[rhagor]
Mae’r llyfr ar gael o Amazon.

Llyfrau gadawedig

Stori newydd gan Renee draw yn Berkeley am ei hamser gweithio yn llyfrgell Prifysgol Caersalem. Bydd y stori yn boenus i unrhywun sy'n caru llyfrau, yn enwedig unrhywun sy wedi gweld llyfrau yn cael eu dinistrio, am unrhyw reswm.

1.3.02

“EU courts Welsh [Tory] fury with leek rules”

Yn ôl y sôn yn y wasg Seisnig mae Cymry yn grac iawn am y ‘sarhad’ o Frwsel ynglyn â’n annwyl gennin ni. Diddorol bod yr unig Cymro sy’n grac am hyn yw Nigel Evans, AS i Gwm Riddle yn... Lancashire. Ydy’r Torïaid yn meddwl bod llysiau Cymreig yn fwy pwysig na democratiaeth Gymreig?

Naw balwn coch ar ddeg ar bedwar hugain...

Un peth sy’n taro bob dysgwr Cymraeg yw’r ffaith bod rhifau yn yr hen iaith yn anodd iawn, ac mae rhan fwya o Gymry yn eu hosgoi, gan ddefnyddio’r Saesneg. Yn ôl yr erthygl hon mewn cylchgrawn o Siapan, mae ’na reswm dda am wneud hyn:
Psychologist Alan Baddeley of Bristol University, England, uses the term “phonological loop” (PL) to describe what I call the mind’s ear. Baddeley and his colleagues measured the length of people’s phonological loops by measuring how many words they could keep in active memory. It turns out that PLs are limited by time, not by the number of words. For example, native speakers of Welsh who are bilingual in Welsh and English can keep more English numbers in mind than Welsh numbers. The reason is that it takes longer to say numbers in Welsh than in English. Some people’s PLs are longer than others, but generally people can remember as much as they can say in 1-1/2 or two seconds in languages in which they are fluent.

“No one will burn down houses...”

...meddai’r erthygl hon am ymgyrch Cymuned, yn y Guardian heddiw. Felly, pam dilynwyd yr erthygl gan restr o ddigwyddiadau dan y teitl Bombing Campaigns, gan gynnwys difyniad gan ‘Meibion Glyndyr’ [sic] am ‘white settlers’?

Oedd Elvis yn Gymro?

Mae’r dadl yn parhau, gyda tystiolaeth newydd yn cyrraedd bob dydd.

28.2.02

Ieithoedd Brodorol ar draws y Gymuned

Llyfr newyddd, golygwyd gan Barbara Burnaby a Jon Reyhner, ac ar gael mewn ffurf PDF (bydd fersiwn cigfyd yn cael ei gyhoeddu cyn bo hir). Llawer o stwff sy’n edrych yn diddorddol, ond mae rhaid i mi gysgu nawr. Rhywbeth i’r fory.

Steven Wright: in parentheses

Newydd ffeindio tudalen o ddyfyniadau Steven Wright:
If toast always lands butter-side down, and cats always land on their feet, what happen if you strap toast on the back of a cat and drop it?

Dw i ddim yn gwybod lot am Steven Wright, ond fe oedd llais y DJ yn Resorvoir Dogs. Gwelais i fe ar y teledu unwaith. Yr unig jôc dw i’n cofio yw’r un ble mae’n codi stand y meicroffôn, ei ddal fel ysgrifbin anferth ac yn ddweud, mewn llais bach pitw, “Dear Mom, still shrinking...”

Iaith a meddwl

Language and Thinking. Rhan o raglen radio Quirks & Quarks sy’n trafod y syniad bod iaith yn effeithio’r ffordd dyn ni’n meddwl. Gallwch lawrlwthio MP3 o’r rhaglen:
Does the language we speak really affect the way we think? Well, that’s been a hotly debated topic among scientists for almost a century – and it was one of the panel discussions at last week’s meeting of the American Association for the Advancement of Science. Among those who support the idea is Dr. John Lucy, a professor of human development and psychology at the University of Chicago. Dr. Lucy has studied the Yucatec Maya people of Mexico for the past 3 decades. And he believes their language – which does not use any form of the plural for its nouns – actually causes them to think about the world in a completely different way from English speakers.
[via kottke]

Culture != Diwylliant

Mae Ralph yn gwybod.

27.2.02

Cynllun newydd, eto.

Mae rhai pobl byth yn fodlon. Dweud y gwir, ro’n i wedi sylwi problemmau gyda hen gynllun ond ro’n i’n rhy ddiog i’w ail-gynllunio. Felly dw i wedi defnyddio un o batrymluniau Blogger. Ydy hyn yn haws i’w darllen?

Wyt ti wedi Fowlero?

Dw i wedi blogio’r hon o’r blaen, ond mae Fowlerism yn werth ail-drafod. Pete Fowler yw’r boi sy’n wneud clawrcelf SFA ac mae gwefan wych ’da fe, gyda llawer o bethau bach rhyngweithiol. Mae ’na gyfweliad gyda fe ar wefan Clwb Malu Cachu, ’fyd.
Bu farw Spike Milligan y bore 'ma. What are we going to do now?

26.2.02

Welsh for Zen

Erthygl ar John Cale, Super Furry Animals a Gorkys yn y cylchgawn Americanaidd In These Times:
Yet both bands have found a way to incorporate their national heritage into their music; both have recorded in Welsh, and often return to the language as a badge of pride as well as willful display of stubborn eccentricity and obscurantism. In a sense, the music they make is as much a part of their particular location as the Velvet Underground were to their own. The isolation of Wales mirrors the isolation of New York’s outsider scene of the late ’60s, enabling artists to gleefully make music free from the constraints of expectation.

23.2.02

Un i Maff: Death Metal Karaoke. [via blort]

22.2.02

21.2.02

Tro nesa bydd un o’m myfyrwyr yn cwyno bod y Gymraeg yn rhy anodd, bydd ateb parod ’da fi. Dyw hi ddim mor anodd a Siapanaeg:
Japanese grammer is not for the faint of heart or weak of mind. What’s more, the Japanese also do not have any words for “me”, “them”, “him, or “her” that anyone could use without being incredibly insulting (the Japanese word for “you”, for example, when written in kanji, translates to“I hope a monkey scratches your face off”). Because of this, the sentence “He just killed her!” and “I just killed her!” sound exactly the same, meaning that most people in Japan have no idea what is going on around them at any given moment. You are supposed to figure these things out from the “context”, which is a German word meaning “you’re screwed”.
Ooooh, we're on the march with Arfon's Army
We're going to Division Two...
Newydd ymuno â SportsFilter. Dw i ddim yn lico chwaraeon, ar y cyfan, ond ro’n i am rannu y clip bach ’ma gyda’r byd.
Llun o’r byd gan loeren newydd.

Clawback? Spread technology?

Mae hwn yn swnio fel swydd i Action Item!

Chwilio am rywbeth arbennig, syr?

Dw i wedi dwyn (a drysu) cannoedd o ymwelwyr i'r weflog gyda fy sillafiad unigryw o'r meme diweddaraf, Googlewacking [sic]. Mae'n debyg bod ni'n arbennig, wedi'r cwbl.
Fflintcentral. Elvis, yn Gymro?. Save the Welsh. Syniad da. Map Cymru, gyda swn. Blog gan ddysgwr sy'n cynllunio gemau cyfrifiadur.

20.2.02

Mae rhifyn newydd Y Triban Coch wedi'i gyhoeddi.

19.2.02

Dydy pawb ddim yn siarad Saesneg, wedi’r cwbl

Erthygl arall sy’n gwrthwyneb i honiadau David Crystal yn Golwg wythnos o’r blaen* am farwolaeth anochel ieithoedd lleiafrifol ar y we:
“The monopoly of the English language in the Internet world will soon be over,” says Elisabeth den Os, who led the EURESCOM project BabelWeb, which was finished last year. Researchers from the Netherlands, France, UK, Italy and Portugal co-operated in this project. The work was based on the assumption that small businesses as well as large corporations have to be able to provide multilingual Web-based services. Research has shown that customers stay twice as long on Web sites in their native languages and buy three times as much. The demand for multilingual Web sites is therefore high, but designing them is difficult.
* Hoffwn i gysyslltu â’r erthygl wreiddiol, ond wrth gwrs, does dim byd ar wefan Golwg. Aros am y grantiau angenrheidiol, falle?

Actio dros bontydd ieithyddol

Syniad gan actor o Montreal i helpu pobl sy’n byw mewn gwlad ddwyieithog weithio trwy gyfrwng eu hail iaith:
He came up with the idea when he realized he was having a tough time breaking into the French side of the business. Dunlevy speaks a fluent but accented French. On top of that, nobody in the French milieu knew who he was. “I spoke with some of my (French-speaking) actor friends and realized they were experiencing the same thing in English,” Dunlevy said. “(In the majority of cases) as soon as you have an accent, you don't get the role.”
Yn anaml iawn (am wn i) dych chi’n gweld actor sy wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn yn chwarae unrhyw rôl mewn drama Gymraeg ei hiaith heblaw am rôl “Y Dysgwr”. Wrth gwrs, mae hwn yn adlewyrchiad o broblem llawer mwy na phrynder gwaith ymysg actorion sy'n ddysgwyr. Cwrddais i â dyn ddoe a’m gofynnodd “Cymro dych chi?” cyn iddo siarad Cymraeg â fi. Wel, Cymro ydw i, ie, ond Cymro yw fy nhad hefyd - fyddai ynteu ddim wedi deall y cwestiwn. Dw i'n nabod digon o Saeson a fyddai wedi'i ddeall - beth fyddai eu hymateb nhw? Yn yr un grwp o bobl, oedd Saesnes sy’n dysgu’r iaith ar hyn o bryd - roedd bron pawb yn defnyddio Saesneg â hi, er bod hi’n gwneud ymdrech enbyd i feistroli’r Gymraeg.

Llenyddiaeth mewn cymdeithasau marwaidd

Yn ôl awdur V.S.Naipaul nid oes angen llenyddiaeth ar gymdeithasau ‘marwaidd’:
Seeking to disagree with the Prime Minister on the plight of Indian writing in non-English languages, Naipaul said if the language authors had written great works, they would have become popular themselves.

Hanes y Gogleddwyr go iawn

Yr Inuit a'r Saeson, hanes y perthynas rhwng y ddau bobl. Lluniau gwych, ac adroddiadau cyfoesol yn y Saesneg wreidddiol:
And being ashore, vpon the toppe of a hill, he perceiued a number of small things fleeting in the Sea a farre off, whyche hee supposed to be Porposes, or Ceales, or some kinde of strange fishe: but comming nearer, he discouered them to be men, in small boates made of leather.

[via nutlog]

O, dyna garedig...

Ces i anrheg oddi wrth Yr Wniwn, sef copi tudalen ffrynt papur fy nyddiad geni.

18.2.02

Datgloi iaith: yr allwedd hon neu’r agoriad hwnna?

Erthygl diddorol am effaith iaith ar feddwl y siaradwr:
Outside of English, many languages give nouns a gender, a grammatical distinction that linguists have long considered to be without any real meaning. But in 2000 Boroditsky found that the system subtly changes a speaker’s experience of everyday objects. The word “key”, for example, is masculine in German and feminine in Spanish. Boroditsky recruited two groups of volunteers, native German speakers and native Spanish speakers, who spoke English well. She then asked them to name three adjectives to describe objects. She found a consistent pattern of German speakers using more masculine terms to describe the key - such as “hard, heavy, jagged” - while Spanish speakers favored more feminine descriptions, such as “golden, intricate, lovely.” Boroditsky said she is now considering studying how the design of bridges - a masculine word in Spanish, but a feminine word in German - differs between the two cultures.

[via kindall]

Geiriau o’r byd newydd

Wedi bod yn pori trwy archifau cylchgronau Americanaidd ar-lein am erthyglau diddorol. Dyma un: erthygl am ddatganoli gan Pamela Petro, awdur Travels in an Old Tongue:
Are the Welsh afraid of freedom? When James Callaghan's Labour government put the issue of limited self-rule to Wales, in 1979, voters trounced it by a ratio of four to one. Even the Welsh cited as reasons a historical strain of national timidity and a lack of self-confidence bred into the country through centuries of subservience. A visiting African journalist told a local reporter in 1997, “The colonial mentality is more firmly entrenched in your country than in any other I have been to.”
Un arall o’r un cylchgrawn: Should English be the Law?:
We have known race riots, draft riots, labor violence, secession, anti-war protests, and a whiskey rebellion, but one kind of trouble we've never had: a language riot. Language riot? It sounds like a joke. The very idea of language as a political force -- as something that might threaten to split a country wide apart -- is alien to our way of thinking and to our cultural traditions.
A dyma cyflwyniad at waith a bywyd John Cowper Powys:
To some readers, John Cowper Powys is a long-winded, bombastic bore and an almost pathological celebrant of oddball sex and chthonic realms. To most, he is an unknown quantity. His name seldom comes up in discussions of that dreary academic figment known as The Novel, and a number of well-read people of my acquaintance have never heard of him.
Beth am erthygl am ddwyieithrwydd, sy’n sôn am broblemau dysgwyr ail-iaith:
However determined their study of an adoptive language, however thorough their immersion in it, they eventually reach a plateau. At a dinner party conducted in the nonnative tongue, for instance, they may contribute to the table talk, but the best they can aspire to be is a bore. In such situations, as Evelyn Waugh observed, “there is no platitude so trite that a highly educated foreigner will not bring it out with pride.”
Rhywbeth bach yn wahanol, ac o ddiddordeb i fi achos daeth fy nghyn-wraig o’r dre yn y stori yw hanes arwyddion tafarndai yn Dedham, Massachusetts:
Tavern signs advertised the availability of food, drink, and lodging, but they were also meant to entertain and, sometimes, to broadcast the tavern owner's political sympathies. The use of tavern signs to display political alliances accelerated during and after the Revolution. But in Dedham, Massachusetts, in the late 1740s, tavern owner, almanac writer, physician, and common lawyer Nathaniel Ames used his sign to skewer five of the province's most powerful politicians: the justices sitting on the Superior Court of Judicature, Massachusetts’ highest court of law.
A dyma un sy'n f’atgoffa o’m dyddiau coleg (nid mod i’n hen hipi, ond wnes i sgwennu fy nhraetawd terfynol ar y Yippies), hanes Abbie Hoffman:
If you wanted to change society, you weren’t going to do it by lecturing people -— you would do it by employing the artillery of pop culture itself to puncture the lumbering, humorless establishment, by using anarchic, prankish, lysergic humor to radicalize the hippies and humanize the radicals.

“I can't close my eyes and make it go away...”

Mae ffilm Granada am ddigwyddiadau Sul y Gwaed wedi enill gwobr yn Berlin. Mae gan dudalen Y Guardian dolenni i sawl stori am y dydd, gan gynnwys eu hadroddiad gwreiddiol o fis Ionawr 1972.

17.2.02

Bydd Cyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol yn Aberystwyth rhwng 24ain a'r 30ain o Awst 2003. Digon o amser i chi baratoi, felly. [via'r Digital Medievalist]

Ydy hynny’n angenrheidiol?

Does dim sgiliau Photoshop gwallgo ’da fi, ond ’swn i’n gallu wneud pethau fel hyn, fyddwn i ddim. Achos mod i’n berson da.

Gartre gyda tywysog y tywyllwch

Ymunwch â teulu Ozzy Osbourne yn eu bywyd bob dydd. Dw i’n ffaelu aros.

13.2.02

Ecoleg a’r iaith

Ces i lythyr y bore ’ma gan Gymdeithas Adeiladu yr Ecoleg:
Dear Mr Davies, I note that your last cheque for £2.00 was written in Welsh. Our bank has agreed to accept it on this occassion, however I would point out that this could cause problemss if future cheques are sent in Welsh, especially if they are for larger amounts. I hope this does not cause you too much inconvenience.
Dw i wedi hala e-bost atyn nhw, heb dderbyn ymateb hyd yn hyn. [16/2/02] Maen nhw wedi ymddirheuro. Popeth yn iawn.

12.2.02

Mae’r byd yn fach, gyfeillion

A dyma fi, yn meddwl taw fi yw’r unig dyn barfog, sy’n byw yng Ngheredigion, cadw gweflog, hoffi Cardiacs. Sy’n aelod criw Metafilter. Sy’n hoffi Mervyn Peake. Sy’n 35 eleni. Ond nage.

Iaith y cwningod

Lapine yw iaith y cwningod yn nofel enwog Richard Adams, Watership Down, ac mae’n un o’r ieithoedd ffug sy’n cael eu rhestru gan langmaker.com. [via nutlog]

Mae’r trafodrefn yn ôl!

Dw i wedi dod ar draws trafodrefn sy’n cynnig fersiwn “yn eich iaith eich hunan”, YACCS. Bydd rhaid i mi gyfieithu yr interface, dw i’n aros iddyn nhw anfon y cyfeiriadau ataf. Bydd y rhai ohonoch â llygaid barcud wedi sylwi newidiadau bach yn ffurf y nodiadau ’ma. Yr holl “Postwyd gan...” ac yn y blaen. Y cynllun yw i gael mwy o bobl sy’n gallu postio i'r weflog, ac i symud tuag at greu gweflog gymunedol. Beth dych chi’n ei feddwl? Ydy’r byd yn barod am Metafilter Gymraeg? (Gall adael neges yn y blwch isod, neu fy ebostio gyda’ch sylwadau.)

11.2.02

Tynged yr Iaith - 40 mlynedd wedyn

Oedd Saunders yn llygad ei le? Ydy’r iaith ar ei ffordd i’w bedd neu beidio? Ymunwch â’r trafodiaeth ar wefan BBC Cymru a’r Byd.

Byw mewn byd Saesneg

Erkidjuk, an Iqaluit resident, speaks and reads Inuktitut. He’s picked up tidbits of English words during his 72 years. But he can’t read it.

The English words on food labels, business signs and household appliances are just letters to him: he doesn’t know what they mean.

In the bright, open kitchen in his Iqaluit apartment, caribou meat sits in a pot on the stove and there are pieces of bannock on the counter. Next to the bannock, there’s a white microwave.

Erkidjuk gestures to the appliance, focusing on the English words: "defrost," "entrees," "popcorn," he points out. "In some ways, it’s difficult not to read English. There are some items that don’t have Inuktitut words on them," he says.

O'r Nunatsiaq News - mwy o erthyglau am "Wythnos yr Ieithoedd" ar eu tudalen flaen ac yn yr adroddiad radio hwn.

Siaradwyr brodorol yn helpu achub ieithoedd brodorol

SIMNASHO - Michael and Cecelia Collins watch closely as Suzie Slockish writes on a marker board the words - kusi, kusi kusi, lakas, pinaq'inut'awas. Horse, dog, mouse, window.

The Sahaptin words are the gateway to a language of their ancestors - a language that could die out in a generation if young people don't begin speaking it in their everyday lives.

``It was our children who got us motivated to trying the classes,'' said Michael Collins, an accountant who lives with his wife and family on the sprawling sage and juniper-dotted Warm Springs Reservation. ``Our little daughter at 2 1/2 knew more of the language than we did.''

O'r Register Guard, Oregon, UDA.

Olrhain yr iaith fain yn Ynys y Crwban

Cymdeithas Tafodiaethoedd America - astudio'r iaith Saesneg yng Ngogledd America, ac ieithoedd eraill sy'n dylanwad arni, neu sy'n cael eu dylanwadu ganddi.

8.2.02

Diolch yn fawr, nawr cerwch nôl i'ch reservation, da chi.

Bydd rôl i bobl brodorol Utah yn seromoni agoriadol y Gemau Gaeafol Olympaidd. Fel yn Sydney 2000, bydd rôl yr indiaid i roi bach o liw amlddiwylliannol ar gyfer gwylwyr teledu ac ymwelwyr yn Salt Lake City, ond i beidio codi stwr am dir ac iaith a phethau felly. Hmm, pryd daw'r cystadleuaeth golff mawr i Gymru, eto?

6.2.02

Rhaglenni gwasgu ffeiliau yn gallu dod i adnabod ieithoedd gwahanol. [boingboing]

Googlewhack yw e, gyda H!

Ers i mi sgwennu am Googlewacking [sic], dw i wedi cael ugainau o ymwelwyr sy ddim, fel fi, yn gallu sillafu yn Saesneg. O leia mae esgus 'da fi. Dw i'n falch, sbo, bod pobl yn barod i roi glec ar ddolen i wefan sydd mor amlwg yn ddi-Saesneg. Roedd rhywun arall a daeth 'ma o Google yn edrych am storiau ysbyty i'w darllen ar y we. Pa fath o storiau, tybed?

4.2.02

Lluniau o'r awyr

Mae hyn yn wych, lluniau o'ch ty o'r awyr. Dyma Maesymorfa - jyst uwchben ac i'r chwith o'r cylch coch. diolch Chris

Arian Cymreig

Dyma fi'n mynd ati i wneud cyfrifau Grwp CYFLE pan ffindais i erthygl ar arian Cymreig.

2.2.02

Gweflogau ar hap

Ro'n i wedi cael gwared o'r hysbyseb bach 'ma, ond wedi meddwl, rhoiais fe nôl. Dw i'n cael eitha lot o ymwelwyr trwy hysbysebion Blogsnob (eitha lot = mwy nag un y dydd) ac er bod nhw y rhan fwya ohonyn nhw ddim yn deall gair o'r hen iaith, dydy hi ddim yn peth drwg chwaith i atgoffa pobl bod ieithoedd lleiafrifol yn bodoli yn y byd blogio, nadife?

1.2.02

Camu'n ysgafn at y dyfodol

Braf i weld gwefan newydd Tony a Jane sy'n byw yn y ty crwn, rhan o gymuned Brithdir Mawr. Mae Parc Genedlaethol Arfordir Penfro am dynnu eu ty i lawr, er fod neb yn gallu ei weld o'r heol, dyn nhw wedi ei adeiladu gan ddefnyddio nwyddau lleol (costodd yr holl peth llai 'na £3,000), ac maen nhw'n dangos bod hi'n bosib i fyw bywyd ystyriol ac yn gyflawn heb dinistrio'r byd. Mae llyfr Tony yn werth ei ddarllen, hefyd.

Closer I am to fiiii-i-i-i-ne!

I unrhyw un sy wedi rhannu fflat gyda ffan cerddoriaeth gwerin/indie Americanaidd: Your Roommate Plays The Indigo Girls.

31.1.02

praystation

Dylwn i fod yn y gwely, ond dw i newydd ail-ddarganfod praystation a fydda i ddim yn gallu cysgu nes i mi archwilio byd Joshua Davis tipyn bach mwy.
Erthygl a chyfweliad â Evan Williams yn y Guardian heddiw. A dw i'n hoffi'r syniad 'ma: Googlewacking:
The aim of the game is to enter two words into the Google search engine and come up with just one result from Google's archive of more than three billion Web pages.
Byddai'r gêm 'ma yn hawdd iawn yn y Gymraeg, o'n i'n meddwl. Wedi'r cwbl, sech chi'n iachwr rwtsh sy'n canu'r delyn anobeithiol yn eich castell ffeirws, ble fyddech chi'n mynd am eich dolennau zeldman neu'ch trafodaeth fattist ond i'r weflog fwya poblogaid yng Ngheredigion? diolch i maff am y dolenni

30.1.02

Ai Saesneg yw "iaith y we"?

Yn Golwg wythnos diwetha, oedd erthygl yn dweud nad yw Cymraeg yn bodoli ar y we, a Saesneg yw iaith frodorol y cenedlaeth wedi'i wifrennu. Roedd y boi yn yr erthygl rhyw fath o arbenigwr, mae'n debyg, ond ces i'r argraff nad yw'n hala llawer o'i amser defnyddio'r offer mae'n e'n sgwennu amdanyn. Er enghreifft, oedd e'n honi nid oes chatrooms Cymraeg eu hiaith ar gael ar y we, ac mae hyn yn arwydd bod Gymraeg ar fin farw fel iaith fodern, neu rhywbeth. (Ydy unrhywun yn defnyddio chatrooms y dyddiau hyn? Ar wahan i ddynion canoloed sy'n esgus bod nhw yn eu harddegau ac sy'n cael seiba-secs gyda dynion canoloed eraill sy'n esgus bod nhw yn eu harddegau, hefyd. But I digress...) Yr awgrym oedd, dylai'r Doethion yn y Docs wneud rhywbeth i helpu plant y ganrif newydd cymryd eu cyfrifoldebau tuag at yr iaith o ddifri. Eniwei:
...what if this alleged absolute domination by the English language and its cultural implications were simply a transitory phenomenon, in its early stages and therefore reversible?
Mae digon o dystiolaeth o blaid y cred hwnna. A digon yn ei erbyn, chwarae teg. Ond nid ar y llywodraeth bydd y bai 'sen ni ddim yn creu ein diwwylliant ein hunain yn ein hiaithoedd ein hunain.

A fydd Blogger ar gael yn y Gymraeg?

Dw i wedi gofyn i Evan Williams a fydd hi'n bosibl i ddatblygu fersiwn Cymraeg o Blogger Pro. Ei ateb e:
Well, if we find a Java locale class for Welsh (I'm sure there is one), maybe we can integrate it. But I can quite take time to figure out how to write one just yet.
Tebyg bod pethau eraill 'da fe i boeni amdanyn nhw. Felly, cwestiwn cyntaf - oes 'na unrhywun sy'n darllen hwn sy'n gwybod beth yw Java locale class (dw i wedi ffindio cwpl o dudalennau, ond, fel ein ffrind Ifan ap Gwilym, does dim lot o amser sbâr 'da fi) ac os felly, sut i adeiladu un yn y Gymraeg? Unrhywun sy'n gwybod sut mae Google yn handlo pethau fel hyn? Rhowch wybod, da chi.

29.1.02

Reit, wel, mae'n gweithio - er fod gormod o Saesneg yn y negeseuon. Dw i'n rhy flinedig nawr i rhoi bocs tanysgrifio i mewn. 'Set ti am danysgrifio i'r rhestr bostio, hala e-bost at morfa-subscribe@yahoogroups.com.
Dw i wedi sefydlu rhestr bostio - jyst sieco bod hi'n gweithio...

Croeso i MorfaBlog Pro...

Argraffiadau cyntaf:
  • Rhestr o 92 iaith am dyddiadau ac yn y blaen, ond dim Cymraeg hyd yn hyn, er fod nifer o weflogau Cymraeg eu hiaith wedi dwbli dros y mis diwetha!
  • Dim digon o gefnogaeth i'r Mac, o hyd, yn enwedig gyda shortcuts Javascript. Dylwn i ddysgu AppleScript a sgwennu fy shortcuts fy hunan, sbo, ond nawr mod i'n gwsmer sy'n talu, dw i eisiau gwasanaeth cystal â un Windows, damia!
  • Dw i eisiau merlyn, hefyd.
  • Hoffi'r bwlch teitl, ac un neu ddau welliannau yn y rhyngwyneb. Mae amser ymateb wedi gwella, hefyd (tybed mae Pyra yn defnyddio gweinyddion newydd i'r cwsmeriaid newydd.
  • Peth gorau bydd yr opsiwn i hala negeseuon newydd trwy ebost at unrhywun sy'n ddigon dwl i danysgrifio i restr bostio (gwiliwch y lle ar y chwith...)
Ar y cyfan, dw i'n falch mod i wedi talu am y gwasanaeth newydd. Mae Blogger wedi bod yn rhad ac am ddim ers y dechrau, ac dydy $1 yr wythnos ddim yn ormod i ofyn am wasanaeth tipyn bach yn well.
A dyma ni. Blogger Pro. Wel, roedd hynny yn hawdd. Gawn ni weld beth gallwn ni neud gyda'r peth, 'te...
Newydd ail-gynllunio tipyn bach. Dw i wedi rhoi'r gorau i Blogback (y bylchau trafod) - a dw i'n symud i Blogger Pro cyn bo hir. Mwy o newyddion yn fuan.
A all iaith fod yn wampam?
Wampum served to engender further diplomatic contact; its presentation was a gesture that required a repricocal effort on the part of the recipient. Acceptance of the gift of wampum implied the acceptance of its message. In this way, wampum functioned like a certificate. This wampum belt is an abstract representation of an alliance between two peoples, signified by the straight path running between them.
Yma yn Llangrannog, lle mae llai na 30% o bobl y plwyf yn medru'r iaith, mae cynllun yn yr arfaith i droi hen gapel i ganolfan gelfyddydau neu ganolfan ddywylliannol neu ganolfan beth-bynnag-y-gall-pobl-gytuno-arno-fe. A fydd hi'n bosibl i greu rhywbeth Cymraeg a Chymreig ei naws heb godi y fath stwr dyn ni wedi gweld gormod ohono yn ddiweddar? Dw i'n cofio darllen erthygl yn Planet sbel yn ôl oedd yn awgrymu y bydd hi holl bwysig am ddyfodol yr iaith yng Nghymru i ddod â Chymry di-Gymraeg i mewn i'r cylch - a gan Cymry, o'n nhw'n sôn am bobl Cymru i gyd - 'sdim ots o ble wyt ti'n dod, ble wyt ti'n mynd, gyfaill? A all y Gymraeg fod ein wampam ni, 'te?
Cynllunio iaithyddol yn British Columbia. Mwy o'r sgwrs Mefi, isod.
Ieithoedd mewn peryg neu sy wedi diflannu. Daeth y linc 'ma i'r sgwrs Metafilter am y stori hwn. Un o'r rhesymau dw i'n dal yn ymweld â Ffilteruwch yw'r ffaeth bod digon o bobl deallus 'na i achub hyd yn oed sgwrsiau sy'n dechrau yn wael rhag bod yn wastraff o amser llwyr. Dw i ddim wedi dod ar draws unrhyw safle drafod arall gyda chymhareb signal i swn mor dda. <hen_rechwr>Wrth gwrs, oedd pethau llawer gwell ers talwm, cyn i Medi 11.</hen_rechwr>

28.1.02

Darlith Dr Peter Williams - Adfywio ein cymunedau: Ai cwmnïau cymunedol cydfeddiannol yw'r ateb? Dw i'n rhy flinedig i'w ddarllen ar ôl diwrnod hir. Amser gwely i mi.
Gwaith Henry Darger. Ro'n i'n arfer darllen Raw Vision pan o'n i'n gweithio yn Oriel, ond dw i ddim yn cofio gweld unrhywbeth fel hyn o'r blaen. via mefi - mwy o lincs am Darger yno

27.1.02

Dw i newydd lawrlwythio MAME i'r Mac, felly fydda i ddim yn postio 'ma yn aml am sbel.

25.1.02

Ffar owt. Newydd cael ymweliad o'n ffrind Toni Haig, sy wedi fy nhroi fi ymlaen at y band siecadelig, United States of America, un o'i hoff fandiau. Dyn ni wedi archebu eu hunig CD ond hoffwn ffindio mwy o stwff gan ei harweinydd, Joe Byrd.

23.1.02

Gargoyle - traethodau, ffuglen, barddoniaeth ac ati.
Aethon ni i noson i ddysgwyr a drefnwyd gan Men ter Bro Teifi heno. Y prif reswm o'n i am fynd oedd y lleoliad: oedd hi'n cael ei chynnal yn y Llwyndafydd, Saron, tafarn dw i wedi ei phasio canwaith ond erioed wedi bod i mewn. Roedd y tywydd yn ofnadwy, stormus iawn (mae'n debyg bod yr heol o'n ty ni lawr i Langrannog wedi'i gau - sa i'n gwybod pam, ond falle cwypodd coeden ar ei draws?). Felly, doedd bron neb 'na, dim ond rhyw 8 neu 9 o bobl, a'r rhan fwya ohonon ni'n gallu siarad Cymraeg yn barod. Ta beth, oedd hi'n noson reit dda, a sgwennog Alun y Bardd gerdd i Barbara (sy'n dysgu Cymraeg gyda fi yn nosbarth Wlpan, Llangrannog).

21.1.02

Gwefannau Seth. Dylen nhw fod wedi defnyddio seren sebon bach yn fwy, falle. Bydden fito lot mwy o lincs ar gorff Denzil. Cyn i unrhywun yn fy nghyhuddio fi o fod yn fattist, dylen i ychwanegu mod i'n edrych fel Robbie Williams cyn iddo fe symud o'r cacs i'r cocên. Dw i jyst ddim yn lico Denzil. Sori.
"Do languages matter?" Bob blwyddyn, gofynna edge.org gwestiwn i 'feddylwyr' y byd. Eleni, maen nhw wedi gofyn "Pa cwestiwn fyddwch chi ei ofyn?" Dyma rhan o ateb Xeni Jardin i'w chwestiwn ei hunan:
If we measure the value of a language simply by the number of people it allows us to communicate with, bigger would always be better, and the death of an endangered language would be of no consequence to the rest of the world. If 128 million people speak French, and roughly 100 people speak Pomo — a nearly extinct indigenous language in California — then French is exponentially more valuable than Pomo.
But language is not math. Language is embodiment of cultural identity. Language is nuance, context, place, history, ancestry. Language is an animate being; it evolves, it adapts, it grows. Language is the unique, neural fingerprint of a people. Language is a living code that provides structure for human experience. Language is intellectual DNA.
Newyddion diddorol i bob ffan Two Lane Blacktop. Mae tribute album i'r ffilm yn cael ei gynllunio yn yr Eidal, gyda cyfraniadau gan Calexico a Dipstick. Dw i ddim yn gallu ffindio mwy o fanylion eto, ond mae'n swnio yn wych. Yessir.

20.1.02

Gweflog Clwb Malu Cachu - yr ail weflog Gymraeg ei hiaith. Rhaid i mi dynnu fy mys ma's.
Lleisiau Lleol - adran newydd yng ngwefan y BBC, sy'n edrych ar ardaloedd wahanol Cymru a'u papurau bro. Mae'n nhw'n dechrau gyda'r Gogledd Dwyrain.

19.1.02

John Cowper Powys yn America. Wrth lunio fy ngwaith cartref diweddaraf, sef portread o JCP, des i ar ôl y wefan hon, gyda lluniau o'i fwthyn yn nhalaith Efrog Newydd, Phudd Bottom.

16.1.02

Rheolau ieithyddol dwfn wedi'u darganfod. Oedd Chomsky yn iawn, 'te? via nutlog
Rheolau ieithyddol dwfn wedi'u darganfod. Oedd Chomsky yn iawn, 'te? via nutlog

14.1.02

Un problem gyda'r penliniadur yw mod i ddim yn gallu gweld y bocs sgwrsio - mae e wedi diflannu. Os wyt ti wedi gadael neges ar y tudalen 'ma ac dw i heb ateb, dyw e ddim byd personol. Rhaid i mi ffindio cyfundrefn drafod sy'n gweithio gyda Maciaid. Yn y cyfamser, dw i'n dal yn hoffi e-bost.

13.1.02

Nweydd cofrestru gyda SpamCop, er mwyn torri i lawr y domen o sbam dw i'n derbyn ar hyn o bryd. Wrth sôn am sbam, wyt ti wedi clywed y stori bach hyn?

12.1.02

Cyfweliad NUblog â Jukka Korpela, arbenigwr mewn cynllunio amlieithog ar y we.

9.1.02

Mae'r Mac newydd wedi cyrraedd, felly dw i'n cael llawer o hwyl danganfod yr holl wahaniaethau rhwng Windows ac OS X. Mae popeth yn edrych yn iawn, hyd yn hyn. Dw i wedi llosgi CD, chwarae DVD, a dyma fi syrffio'r we. Fel dwedodd Vincent Vega a Dewi Sant, y pethau bychain sy'n bwysig.

7.1.02

Y bore 'ma, yn y dosbarth yn neuadd yr eglwys yn Llangrannog, ro'n ni'n sôn am San Francisco. Roedd pawb yn y dosbarth wedi bod yn S.F., sy'n peth digon od (mae'n ddosbarth bach). Ro'n i'n siarad â Lizzie ac ro'n ni'n trïal cofio enw y sgwar yn S.F. ble oedd y hipis yn casglu. Do'n ni ddim yn gallu cofio. Wrth ddarllen trafodaeth Metafilter am Robert Crumb des i ar draws dolen i stwff am Richard Brautigan, un o'm hoff awdurion o adeg y hipis. Pan o'n i yn America yn 1993, nes i fynnu fynd ma's o'n ffordd i ymweld â thref fach o'r enw Thoreau, New Mexico, achos mod i'n cofio darllen stori Brautigan. So, dyma fi edrych am lyfrau Richard Brautigan, a dyma fi'n agor Trout Fishing in America, a dyma'r geiriau agoriadol:
The cover for Trout Fishing in America is a photograph taken late in the afternoon, a photograph of the Benjamin Franklin statue in San Francisco’s Washington Square.
Wrth gwrs, Washington Square.

5.1.02

Mân betheuach am y Sadwrn
Dw i'n hoffi'r llun 'ma o amlen o'r 60au gyda hen ddigon o stampiau arni.[via machaus] Recordiau gorau 2001 yn ôl Yr Onion. Fersiwn cartwn o NickYmgnawdoliadau cartwn. Dyma fi, heb fola cwrw. Söoleg Rhyfeddol - dehongliad graffigol o Book of Imaginary Beings J.L.Borges [via nutlog]

4.1.02

Digwyddiadau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Ionawr 18 -20
Penwythnos Addysg Wleidyddol

Globaleiddio a'r Iaith Gymraeg
Clwb y Bont Pontypridd ( lleoliad i'w gadarnhau yn bendant)
Adam Price AS a Ben Gregory yn cymryd rhan.
Rhan o baratoadau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar gyfer ysgrifennu Maniffesto 2002.
Dydd Sadwrn Chwefror 9fed
Rali Trefechan 2002

Mae'r Frwydr yn Parhau
Pont Trefechan Aberystwyth 11 o'r gloch
Mawrth 8 - 10 2002
Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas

Canolfan Merched y Wawr, Stryd yr Efail, Aberystwyth
Dydd Sadwrn Ebrill 20fed
Cynhadledd Ceredigion

Oes Dyfodol i'r Gymraeg yng Ngeredigion?
Gwesty'r Plu, Aberaeron
Gyda:Dr Dylan Phillips, Dr Delyth Morris, Hywel Evans (Menter a Busnes), Dilwyn Roberts-Young, Sian Howys
cymdeithas.com
Penwythnos o Gyrsiau Cymraeg - Plas Tan y Bwlch
Mae'r Plas yn cynnig dau gwrs dros y penwythnos Mawrth 8fed - 10fed:
Adar y Gaeaf - Twm Elias
Ar yr adeg hon o'r flwyddyn bydd llawer iawn o'r gwahanol adar fu gyda ni dros y gaeaf yn dal o gwmpas yn yr aberoedd, yn hwyaid, rhydyddion, gwyddau ac elyrch gwylltion. Yn ogystal gallwn ddisgwyl gweld nifer o rywogaethau fydd yn pasio heibio ar eu ffordd i'r gogledd, fydd ond i'w gweld yn y gwanwyn a'r hydref fel arfer, ar eu teithiau ymfudol rhwng eu cynefinoedd gaeafu a nythu. A phwy a wyr? Efallai y cawn groesawu ymfudwyr cynta'r gwanwyn - y siff-saff a thinwen y garn.
O'r Blaenau i'r Traethau - Creigiau, Tirffurfiau a Dyn - Dyfed Elis-Gruffydd
Mae hanes y creigiau a'r tirffurfiau godidog Morfa Harlech, yn ddigon o ryfeddod. Ond nid llai diddorol a rhyfeddol yw'r modd y mae dyn, ar hyd y canrifoedd, wedi manteisio ar gyfoeth creigiau a thirffurfiau'r fro. Roedd meini'r ardal yr un mor bwysig i gymunedau cynhanesyddol ag yr oeddent i berchnogion chwareli llechi Ffestiniog, ac oni bai am rym erydol rhewlif Stwlan fyddai hi ddim wedi bod yn bosib datblygu cynllun trydan-dwr Tanygrisiau!
Manylion
Jaci Thomas
plas@eryri-npa.gov.uk
via'r rhestr WriteWelsh

3.1.02

Damwain a hap.
Lluniau o'r anialwch. Popeth am fwsoglau a llysiau'r afau Cymru. Hwyl gyda cen y cerrig ym mhrifysgol Oregan (ac oriel porteadau cen y cerrig, rhywle arall). Archif Noam Chomsky, stwff gwleidyddol, ar y cyfan. Erthygl hir ar darddiad ystumiol ieithoedd. Cyfrifiad 1901 ar gael, ar-lein (ond yn araf iawn).

2.1.02

Dim a Radio Datblygu
Neu rywbeth.

29.12.01

27.12.01

Pwyll Pensevyk Dyved
Pwyll Pensevyk Dyved o arluth war seyth keverang Dyved. Hag ef ow tryga yn Arberth, y ben-lys, whans o dhodho mos helghya. An ran a'y dyr a vynna helghya o Glyn Cuch, ha'n nos-na ef eth war y hens a Arberth ha dos bys dhe Llwyn Diarwyd. Hag ena y fu an nos-na. Ha ternos, yn yowynkneth an jeth, sevel a wruk ha dos dhe Lyn Cuch, rak dyllo y gun y'n cos. Y whethas an corn ha dalleth an helva, ha holya y helgun, ha kelly y gescowetha. Hag ef ow colsowes orth lef y vagas-hel, y clewas lef nep bagas aral hag y nyns ens unlef, hag yth esens ow tos erbyn y vagas-ef.

Mwy.

Hel achau ieithoedd
Ieithoedd Ewrop wedi'u trefnu yn ôl eu teuluoedd. Tipyn bach ma's o dêt, falle, ond llawer o stwff diddorol. Dw i'n gweithio trwy'r dolenni Cernyweg.
Peiriant i ffurfdro berfau Cymraeg (ac ieithoedd eraill)
Mae teclyn bach hwn yn neis iawn. Rho ferf Gymraeg yn y blwch, a cheir rhediad cyflawn mewn chwinciad. Dyw hi ddim yn berffaith (dyw 'cael' ddim yn gweithio, er enghreifft) ond fersiwn beta yw hwn. Bydd y geirfa Saesneg i Gymraeg yn ddefnyddiol, hefyd.
Dw i'n wastraffu fy amser
Beth dylwn i wneud yw jyst gyfieithu nutlog a wood s lot.
Ymunwch â'r Tywydd Danddaear
Erbyn hyn, o'n i'n meddwl taw Google oedd yr unig wefan i adnabod gosodiad iaith cy mewn porwr gwe. Ond dw i newydd ymweld â gwefan y Weather Underground a ches i groeso yn Gymraeg, a theganau Cymraeg eu hiaith (gweler isod) i'w hychwanegu i'm gwefan. Dyw hi ddim yn berffaith, mae 'na lawer o bethau sydd heb eu cyfieithu, ond 'sai digon o bobl yn ei defnyddio, ac yn ysgrifennu atyn nhw i ddweud bod nhw'n defnyddio'r iaith Gymraeg, tybed byddan nhw'n gwella y gwasanaeth? Sut i newid y gosodiadau iaith ar eich porwr - mae'n gweithio gyda Internet Explorer 5+, ac Opera - dw i ddim yn gwybod am Netscape.
O'r adran gemau sâl
Cat-a-pult - paid â chleco os wyt ti'n garwr cathod.
Nid ebost yw e, ond 'courriel'
Erthygl am polisïau Québec ynglyn â defnydd Ffrangeg/Saesneg ar wefannau masnachol. via Carol Anne (mae hi'n linkeriffic™), yn y trafodaith Mefi hwn.)

26.12.01

Dolenni ieithyddol cyflym
Saesneg - iaith y byd
Mewn erthygl yn yr Economist dadlir peth cwbl naturiol yw safle Saesneg fel iaith byd-eang. Dw i erioed wedi gweld gwell enghraifft o ffrwynau dall hanesyddol ynglyn â goruchafiaieth ieithyddol. Dengys trafodaeth Metafilter bod llawer o bobl yn cytuno â honiadau'r erthygl, hyd yn oed os ydyn nhw'n meddwl bod hi'n drueni. Fe'm hatgoffwyd o darn gan Fishman:
It is in the very nature of mainstream life to be unknowingly provincial and self-centered (while ascribing such traits only to others, who are outside the mainstream), and, there, to interact primarily with its own members, or with former Xmen1 who have opted to become Ymen2 (or, at best, with self-styled Xmen-via-Yish) and, therefore, to be unfamiliar with or even totally ignorant of the Xmen-via-Xish pro-RLS views of and aspirations3. The first step along the long road to changing the views of Ymen (and of many, many Xmen too) is, therefore, an essentially permanent public information and education campaign...
1. Cymry, yn ein cydestun. 2. 'Prydeinwyr', Saesneg ei hiaith. 3. Ni wnaeth bodoliaeth Cymdeithas yr Iaith unrhyw argraff ar fy rhieni nes imi sôn amdani eleni - maen nhw'n byw yng Nghymru ers hanner canrif.

24.12.01

Lord of the Rings - adolygiad y BBC
Neis i weld adolygiad yn yr hen iaith, ond oedd angen cymaint o gamgymeriadau gyda'r cymeriadau? Yn ôl y BBC, arwr y stori yw Fredo, a'r dewin drwg yn Sauraman the White. Nid yw enwau'r actorion yn sâff, ychwaith, gyda Ian McEllen a Kate Blanchett. Ond dyma'r un gorau:Sean Bean yw Viggo Mortensen. Ydy eu gwragedd yn gwybod?
Cerdded ar liwiau
Pan o'n i'n byw yng Nghaerdydd ac yn cerdded i mewn i ganol y ddinas bob bore, o'n i'n arfer chwarae gêm William Burroughs o esgil dirnadol.

Pythefnos yn ôl, aethon ni i wasanaeth plygain ym Mhenygroes, Preseli. Dyma'r tro cynta i mi glywed y fath gerddoriaeth, a ches i fy swyno. Dyma mwy o enghraifftiau.
Dilyn cwcw'r mêl
Newydd ail-ddarganfod gweflog Raphael Carter: Honeyguide - casgliad cyfareddol o straeon am wyddoniaeth (yn enwedig bioleg a seryddiaeth) gyda llun digidol newydd bob wythnos gan Raphael. Ar hyn o bryd, arddurnir sgrîn fy nghyfrifiadur gan ei lun ‘cylionyn Mai gyda draen’. (Os dydy hi ddim yn rhy hwyr i'w ofyn, hoffwn Nikon Cool Pix 990 i ’Dolig, plîs Siôn Corn. Dw i wedi bod yn dda.) [via sylloge]

23.12.01

Pennawd yr wythnos?
Dw i'n ffan mawr o Newyddion Dyddiol Gwlad yr Iâ, papur newyddion ar-lein, un dudalen, Saesneg ei hiaith. Ddoe, oedd erthygl am yr effaith mae'r canolfannau siopau newydd yn cael ar y strydoedd siopau traddodiadol yn Reykjavík. Enw un o'r prif strydoedd yw Laugavegur, ac mae gyda nhw lun gyda'r capsiwn:
Not the nicest view of Laugavegur but the only picture we have.

Bendigedig.

22.12.01

Sut wyt ti'n ynganu '@'?
Yn ôl yr erthygl hon mae gan y Gymraeg rywbeth yn gyffredin â Ffrangeg, Eidaleg, Corëeg, Indoneseg ac Hebraeg: dyn ni gyd yn galw @ yn falwoden. Neu ydyn ni? Dw i erioed wedi defnyddio nick malwoden maesymorfa dot com wrth rhoi fy nghyfeiriad i rywun. Beth wyt ti'n dweud? A ddylen ni (gan ddilyn cyngor Molly, isod) ddefnyddio termau felly, hyd yn oed pan bydd angen eu hesbonio nhw, neu eu cyfieithu hyd yn oed, wrth siarad a Chymry eraill? [via nutlog, eto]

21.12.01

In cyberspace, everyone can hear you being stupid. Wps.
Mwy o'n hoff weflograig, Mollie Umbrellastand:
Welsh people speak welsh SPECIFICALLY to annoy non-welsh-speakers. You just KNOW that behind closed doors, they switch back to english, and probably even stop with the ludicrous accents (you know, those accents that make people from Gloucestershire sound intellectual). Here's a thought, welsh people: either speak JUST welsh, or speak JUST english. If your moribund language is THAT important to you, use it all the time.

Dw i wedi gadael neges yn ei llyfr gwesteion, ac o'n i'n mynd i ychwanegu ato ar ôl dod ar draws y perl bach uchod, ond wyt ti'n gwybod beth? Mae pwynt da 'da hi. Dylen ni ddefnyddio ein hiaith ein hunain, a dim ond ein hiaith ein hunain wrth delio â dallbleidwyr o'i math.

20.12.01

Epig Genedlaethol y Ffindir.
Neithiwr, ym mharti Nadolig CYD Llangrannog, oedd un o'r dysgwyr yn siarad Ffineg. Mae'n swnio fel iaith hyfryd. Dyma tudalen am y Kalevala, gyda llawer o ddolennau diddorol. [via nutlog]
Britney dan daear
Na, paid poeni, dydy hi ddim wedi marw. Ond falle dyw hi ddim mor boblogaidd yn Efrog Newydd ag oedd hi.

19.12.01

Mae'r bob iaith yr un peth...
Nid yn ôl Omniglot, gwefan am drefnau ysgrifennu, gan gynwys Cree, Byrmaneg a Chelt-Ibereg. [via metafilter]
Gêm bach caethiwus
Adlewyrchiadau. Symud y drychiau a chynnau'r goleuadau. Swnio yn hawdd? Dw i wedi nhrysu ar lefel 10. Pob lwc.

18.12.01

Llais yr Aelodaeth
Heddiw, fe lansiwyd Triban Coch, cylchgrawn newydd i aelodaeth Plaid Cymru. 'Sdim digon o amser 'da fi i'w darllen nawr, mae'r gwichiaid ar y tân. (Nage, nid rhyw fetaffor gwan yw hwwna, dan ni'n wir gael gwichiaid i swper heno.)
Chwerthin ar bennau twristiaid sychedig.
Erthygl doniol ond ysgolheigaidd ar iaith y dafarn:
One of the saddest sights of the British summer (or the funniest, depending on your sense of humour) is the group of thirsty tourists sitting at a table in a pub, patiently waiting for someone to come and take their order. In most cases, a friendly native will put them out of their misery by explaining rule number one, or they will figure it out for themselves, but in a busy pub it can be some time before the correct procedure becomes clear.
Research findings: In observation-studies, we timed first-time tourists to find out exactly how long it would take them to discover the no-waiter-service rule. The fastest time - just under two-and-a-half minutes - was achieved by a sharp-eyed American couple. The slowest – over 45 minutes – involved a group of six young Italians. This group did not, however, seem particularly concerned about the apparent lack of service, being engrossed in a lively debate about football. Sympathy should go to the French couple who marched out of the pub, complaining bitterly to each other about the poor service and British manners in general, after a 24-minute wait.
Fyddai hynny byth yn gweithio!
Peirianau symudiad diddiwedd.

17.12.01

Mewn twll yn y ddaear bu drigo...
Mae gan y New York Times archif Tolkien sy'n cynnwys yr arolygiad hwn o Fellowship gan W.H.Auden.
Dim ond roc a rol
Mae'r War Against Silence yn e-zine cerddoriaeth llawn o adolygiadau hirion. Mae Glenn mor frwdfrydedd am y ffurf mae'n heintus. Dw i newydd ei ffindio, ac mae'n dyddio nôl i Ionawr 1995 (yr oesoedd tywyll yn nhermau'r we), felly mae lot o waith cipio 'da fi i'w wneud. Dyma fe ar lais Cerys Matthews, mewn adolygiad International Velvet:
Cerys seems entirely comfortable, to me, only in passages, like the choruses of "International Velvet" and the distant two-part harmonies on "Don't Need the Sunshine", when it sounds like she's singing from some completely different hill than the one the microphone is on, letting the countryside absorb part of her enthusiasm for it, so that what reaches us is half the sound of her singing, attenuated to our tolerances, and half the feel of the ground, humming its fondness for her company.
Neu hwn, sy'n sôn am hunanladdiadau Richie James a Kurt Cobain mewn adolygiad o Everything Must Go:
The path from disgust with the world to suicide is lined with so many enticing anomalies that to traverse it you'd have to wear blinders so restrictive that it's a wonder you can walk. The mass of evil in the world doesn't cancel out the good. Maybe there are ten evil things for every good one, but the ratio isn't important. Yes, the world is too hideous a place to live in, but nobody lives in the whole world at once. We build walls towards the monsters, and we gather up whatever good we can find and shelter it as best we know how. Universal entropy and local order are not contradictory, they're integral parts of the same system. One friend can make a city of ten million strangers a welcoming place. One song can salvage a day of noise. One album can change a life, or save it. It's a painful irony that sometimes the authors of music with this power can't feel it, that sometimes, even as they cast a spell of destruction, they are unable to detach themselves from its origin long enough to run around to the other side and hear the hope that inheres in the very sound of it.
[via edau Metafilter - rodii fy mhutain coblynaidd]
Fiends [sic] Reunited
Dw i wedi ail-gysylltu â sawl hen ffrind trwy Friends Reunited a dwi'n edrych ymlaen at gwrdd â rhai ohonyn nhw dros yr Wyl. Ond mae'n beth rhyfedd iawn i weld enwau hen fwlïaid o ddyddiau ysgol. Ro'n i'n synny pa mor grac o'n i'n teimlo wrth weld un enw newydd yn enwedig. Tro diwetha welais i'r boi, o'n i'n trïal amddiffyn fy mhen rhag ei Doc Martins. Calonogol iawn i weld fod e wedi llwyddo dod â thri o blant i'r byd. Pob lwc iddynt. Ta beth, dydyn nhw ddim wedi clywed bod gwefan arbennig iddyn nhw, ble fydd neb yn cilchwerthin ar ei sgiliau teipio? (Dw i heb weld un neges o hen fwli sy'n defnyddio priflythrennau a llythrennau bychain, heb sôn am unrhyw atalnodiadau mwy heriol na'r atalnod llawn. Dylen nhw fod wedi dod i'r ysgol yn fwy cyson, falle?) Dw i'n gwybod bod hyn yn fychander, ond 'na ni. Ces i wefr euog wrth weld rhywun naeth fy mwlio i (pan o'n i'n saith neu wyth oed) yn cael ei gosb haeddiannol mewn ffrae tafarn ugain mlynedd yn ddiweddarach. Fyddwn i ddim yn dda fel Cristion, na fyddwn?
Gast yw cariad?
Newydd bennu fy nhraethawd diweddarach sef adolygiad y ffilm Amores Perros gan Alejandro González Iñárritu. Un o sêr y ffilm yw lleiddiad o Rottweiler o'r enw Cofi. Dw i wedi rhoi'r testun ar lein, felly cei di chwerthin ar ben fy Nghymraeg bosh, 'set ti moyn.

15.12.01

Post Metafilter gorau erioed?
Mewn un neges ar dudalen blaen MeFi mae tamin wedi rhoi cyflwyniad cyflawn at ffilmiau India. Bydda i'n brysur am wythnos gyda'r stwff 'ma.
Croesawu penderfyniad am ieithoedd bach Ewrop
Stori o'r BBC. Mae'n swnio fel newyddion da, ond yn anffodus, dw i wedi yfed gormod o J&B i ddeall yr erthygl. Ond beth sy wedi digwydd i Eurig Wyn? Mae'n edrych fel cymeriad mewn ffilm David Cronenberg:
cymeriad mewn ffilm David Cronenberg   Eurig Wyn ASE
Mae e'n edrych yn normal ar ei wefan. Rhaid i mi beidio yfed a blogio. Rhaid i mi beidio yfed a blogio. Rhaid i mi beidio yfed a blogio.
Croeso i'r Canolfan Ymwelwyr
CD newydd yn y post y bore 'ma gan Trawsfynydd Lo-fi Liberation Front. Y mae e, fel mae'n dweud ar y clawr, yn 'arbrofol, diwydianol, swnllyd, swn ffycd up digidol.' Ardderchog. Peth gorau dw i wedi ei glywed ers y fersiwn Cymraeg Kerosene ces i yn y post rhyw fis yn ôl.

14.12.01

Blog ffrwythlon dros ben
Mae gan fruitlog lu o ddolenni diddorol. Llawer o stwff am ieithoedd, pobl brodorol, celfyddydau anarferol a phethau digri. Gormod i'w ddarllen! Gormod i'w ddarllen!
Y rhyngrwyd a myth Babel
Yn ei araith i'r North American Association for the Study of Welsh Culture and History honai Geraint H. Jenkins:
Whenever I think of the Internet, I recall the line by Yeats: "A terrible beauty is born."  Far from being a liberating force, the Internet is an agent of cultural imperialism.  Technology serves its masters and those masters are English-speaking. [..] Cyberspace is synonymous with English and Anglo-Americanism: it's the very antithesis of linguistic diversity.
Wn i ddim faint o amser mae'r Athro wedi treulio yng ngofodseibar, ond tebyg iawn dyw e ddim wedi crwydro yn bell oddi wrth y llwybrau treuliedig rhwng Yahoo, Microsoft ac Amazon. Mae'n wir, wrth gwrs, taw Saesneg yw iaith cyfalafiaith rhwngwladol, ond falle fod e ddim yn gwybod bod 'na fwy i'r rhyngrwyd na gwerthu pethau, ac mae mwy nag un iaith ar gael ar y we:
At a conference on search engine strategies last April, Alta Vista was predicting that by next year less than half of the Web would be in English. English-language author David Graddol has predicted an even lower figure in due course, 40%. In parts of the world the local language is already dominant. According to the Japanese internet author Yoshi Mikami, 90% of Web pages in Japan are now in Japanese. [ffynnon]
Y prif reswm dros diffyg defnydd o'r Gymraeg ar y we, yw nid ydyn ni wedi mynd ati i greu gwe Gymraeg ei hiaith. (Mae gerainthjenkins.com ar gael, gyda llaw. Beth am greu gwefan eich hunain yn y Gymraeg, yn lle cwyno bod Bill Gates yn dinistrio'ch iaith?)
Does dim gair am hangover yn Gymraeg
yn ôl Myrddin ap Dafydd. Drueni bod peth yn gallu bodoli heb gair i’w ddisgrifio. Ond, weithiau, mae cael hangover yn dy atgoffa fod di wedi cael diwrnod/noson arbennig o dda, felly dydyn nhw ddim mor wael â hynny. Un o’r rhain yw hwn. (Ydy hangover yn wrywaidd neu yn fenwaidd? Gwrywaidd, mae’n debyg. Ond weithiau, gall cenedl gair fod yn rhyfedd iawn. Barf, er enghraifft.) Felly, mae hangover hwn (sydd bron wedi clirio erbyn hyn) yn f’atgoffa o’r amseroedd braf ces i ddoe. Dechreuais yfed amser cinio yn y Llew Coch, Aberteifi, gyda criw bach o’m dosbarth Pellach. Dyma tro cynta i fi mynd ma’s gyda grwp o stiwdents sy'n siarad Cymraeg heb cael eu gorfodi. Pan wnaeth un ohonyn nhw anghofio, a throi i Saesneg, oedd y lleill yn ei hatgoffa hi i ddefnyddio ei Chymraeg. Doedd dim byd i mi wneud ond mwynhau fy mheint Parch. Jâms. Gyda’r nos, gartre, a chyrraeddodd Eirlys a Barbara, ein ffrindiau o Awstralia sy’n aros yn Llangrannog dros y gaeaf ac yn dysgu’r iaith. Arhoson nhw i swper a choginiais i rywbeth Eidalegaidd. Gyda gwin addas, wrth gwrs. Aeth cyfarfod misol pwllgor lles Llangrannog yn dda iawn, a gorffenon ni erbyn 8.20, felly oedd digon o amser i fynd i'r Llong a chael tair neu phedair potel o’m hoff cwrw organig, Blodeuwedd cyn i Philippa gyrraedd i roi lifft i fi adre. I bennu’r noson, ces i nostalgia sesh gyda fy nghasgliad o hen singles, a thamaid bach o’r wisgi J&B ces i fel anrheg oddi wrth un o’r dosbarthiadau (yn yr Hitchhikers’ Guide to Learning Cymraeg, mae’n dweud taw’r ffordd gorau i blesio’ch tiwtor yw i siarad Cymraeg a’ch gilydd. Mae hyn yn hyfryd wrth gwrs (gweler uchod) ond mae ’na ffyrdd eraill i doddi calon eich tiwtor...). Erbyn hanner nos, o’n i’n dawnsio o gwmpas y gegin, a chanu fel Dusty Springfield farfog. Roedd y dosbarth y bore ’ma yn... ddiddorol. Gan lwc, pwnc y driliau oedd ‘gwneud coffi’.

12.12.01

Yuri enjoyed being a father. He was gregarious and loving.Bell uwchben y byd...
Yuri Gagarin: ei fywyd mewn lluniau. Hyfryd.
A'r wobr am sheepshagger yr wythnos...
I have to take it [trwydded briodas] to Newport to get it changed. Sounds like a fun day out, doesn't it? Newport, complete with Welsh people. Ugh.
Ydy pobl yn meddwl does neb yng Nghymru yn gallu defnyddio'r we? [via daypop]
Ystrydebau hiliol, unrhywun?
Yn y gêm chwarae rôl ar-lein Dark Age of Avalon mae gen ti ddewis o bedair hil o oes Arthur:
The people of Albion are a mostly homogenous [sic] lot - sturdy Britons, hulking Highlanders, graceful swift Saracens, and tall intelligent Avalonians make up the different races in the Realm.
Ydy sturdy'r un peth â swarthy? Ac ydy Avalonian yr un peth ag Aryan?
Mae'r Frenhines Cwl Cymru yn ôl!
Mae fersiwn cartwn Sali Mali wedi'i ryddhau ar fideo. O, ac mae 'na ryw gysylltiad â rhyw gantores neu'i gilydd. [via globalpopconspiracy]
Dw i ddim yn rif - gweflog rydd ydw i!
Mae blogdex yn edrych yn ddiddorol. Yn ôl y sôn, mae'r safle hwn yn #12513 yn y byd blogio. (Ond, #1 ydyn ni yn y byd blogio Cymraeg, cofia. Mae hyn yn golygu lot mwy i ni yma ym Mhlas y Morfa.)
Ceirog Geiriog
Mae wordfinder yn rhifo bob gair ar dy dudalen we, a'u rhestri yn ôl eu hamlder neu yn ôl yr wyddor (yr wyddor Saesneg, natch). Y geiriau mwya poblogaidd ar Morfablog (heb sôn am y geiriau bach fel ‘yn’ ac ‘i’) yw ‘iaith’, ‘Gymraeg’ a ‘Fishman’. Hmmm. [via Feral Living]

11.12.01

Fin nos, fan hyn...
cara wallia derelicta gan david jones
Cyfarfod da yn Aberaeron heno. Ni ddysgais i lawer am y sefyllfa tai yng Ngheredigion do'n i ddim yn gwybod o'r blaen, ond oedd hi'n braf i weld cymaint o bobl 'na yn erbyn cynlluniau drafft y cyngor sir, sy'n seiliedig ar y lol 'ma:
Mae gan Geredigion boblogaeth o ryw 71,000. Yn ôl tueddiadau’r gorffennol mae’n debyg y bydd gan y Sir boblogaeth rhwng 80,000 a 85,000 erbyn 2016. Oherwydd y cynnydd bydd angen mwy o gartrefi. Yn ôl y rhagamcanion o aelwydydd byddai angen tua 5,000 hyd 6,500 o gartrefi ychwanegol erbyn 2016. Yn ôl y galw a welwyd yn y gorffennol byddai angen darparu rhagor na hanner y cartrefi newydd hyn (2,500 – 3,500) yn ardal Aberystwyth.
A chlywais i newyddion da personol oddi wrth ffrind. Llongyfarchiadau M&P.
Those satisfactions are permanent. Erthygl ar fy hoff ffilm, Two Lane Blacktop, gan snarkout:
It's stiff and the symbolism is hammerlike, but some point the movie just gels; the stripped-down primer-colored '55 Chevy and the loaded '70 canary yellow GTO transcend being heavy-handed symbols for two sides of the American experience and become wholly appropriate heavy-handed symbols.

9.12.01

Dechreuwch bob sgwrs yn Gymraeg. Stori Teifi-Seid:
Lansiwyd prosiect newydd a chyffroes i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg gan Menter Iaith Ceredigion, Cered, yn Llambed.
Nod y prosect yw annog siaradwyr Gymraeg i ddefnyddo’r Gymraeg yn gyntaf yn eu bywyd bob dydd, a thrwy hynny datblygu eu hyder yn eu defnydd o’r iaith.
‘Yn ystod cyfnod y prosiect byddwn yn marchnata’r neges ‘Dechreuwch bob Sgwrs yn Gymraeg’, drwy gyfrwng arwyddion, sticeri ar ffenestri siopau, bathodynnau, bagiau a matiau cwrw,’ meddai swyddog datblygu Cered, Dilwyn Jones, ‘ac mae busnesau Llambed eisioes wedi dangos cefnogaeth eang i’r prosiect drwy gytuno i arddangos y nwyddau marchnata yma.’
Syniad da. Pam nad oes sôn amdano ar eu gwefan, tybed?
Mae pawb yn gyfarwydd â'r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol:
Erthygl 2
Y mae gan bawb hawl i'r holl hawliau a'r rhyddfreintiau a nodir yn y Datganiad hwn, heb unrhyw wahaniaeth o gwbl, yn arbennig unrhyw wahaniaeth hil, lliw, rhyw, iaith, crefydd, barn boliticaidd neu unrhyw farn arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, eiddo, geni neu safle arall.
Ond o't ti'n gwybod bod Datganiad Cyffredinol o Hawliau Ieithyddol i gael, hefyd? Dyma Joshua Fishman, yn 1991:
The relatively recent Universal Declarion of Linguistic Rights may be viewed as a prelimiminary attempt to support RLS [="reversing language shift"] and to reject anti-LS efforts but, thus far, it has only been adopted by a small number of academic bodies [...] Unlike ‘human rights’, which strike the Western and Westerized intellectuals as fostering wider participation in general societal benefits and interactions, ‘language rights’ still are widely interpreted as ‘regressive’ since they would, most probably, prolong the existance of ethnolinguistic differences.
Cofia'r dyfyniad yn Tynged yr Iaith gan y bardd ac arolygydd ysgolion o Saes, Matthew Arnold:
It must always be the desire of a Government to render its dominions, as far as possible, homogenous . . . Sooner or later, the difference of language between Wales and England will probably be effaced . . . an event which is socially and politically so desirable.
Braf i'w weld bod Cymuned am ddilyn awgrymiadau Fishman (yn bennaf yn ei lyfr Reversing Language Shift) - dyma un dadl na fydd yn cael ei ennill gan floeddio'n uwch na'r ochr arall. Mae ’na fwy ohonyn nhw, ond ni yw'r Xmen.
Ym mis Chwfror, cyhoeddir fersiwn ffilm newydd o'r Merchent of Venice - yn yr iaith Maori.

6.12.01

nunatinnit.net Mae nunatinnit.net yn wledd o storiau, lluniau a ffeiliau MP3 o Ynys Baffin. Mae Newyddion Nunatsiaq yn bapur newyddion Inuit. Mwynheais i'r stori bach hon am y fforiwr a ethnolegydd Lucien Turner, yn enwedig ei ddisgrifiad o "dominôs yr Inuit":
"The Inuit who come from the western end of Hudson Strait... have a game which they play with sets of pieces of ivory cut into irregular shapes, and marked on one face with spots arranged in different patterns," Turner wrote
"The number of pieces in a set varies from 60 to 148. The name of a set is Á ma zú a lát, and somewhat resembles our game of dominoes.
"The pieces are designated by pairs, having names such as ka míá tik (sled), kaiak (canoe), kalé sak (navel), á ma zut (many), a taú sik (1), má kok (2), ping a sut (3), si tá mút (4), and tá li mát (5). [...]
"The northern Eskimo stake the last article they possess on the issue of the game. Their wives are disposed of temporarily, and often are totally relinquished to the victor. I have heard of wives so disposed of, often sit down and win themselves back to their former owners."
[via kiplog]

5.12.01

Bron wedi bennu fy nhraethawd ar Gerallt Lloyd Owen. Dyw i ddim yn hapus gyda fe, ond 'sdim amser 'da fi i ail-ddechrau. Fel hyn o'n i'r tro cynta nes i gwrs coleg. Popeth yn funud ola, ddim digon o ddarllen cefndir, traethodau nid cweit mor dda a allen nhw fod. Och. Wrth edrych trwy rhestr ail-gyfeiriadau y weflog, mae'n debyg nid fi yw'r person ola i bennu ei draethawd. (Tip i'r person oedd yn chwilio am "Gerallt Lloyd Owen - Ei Bywyd": mae treiglad meddal ar ôl 'ei'. Croeso. A phob lwc.)
Os wyt ti'n ffan comics byddi di wrth dy modd gyda Bee - Shutterbug Follies gan Jason Little, Efrog Newydd. Yr unig problem yw, dyw y stori ddim wedi bennu eto: darllenais i drwy'r 37 tudalen sydd ar y wefan ac yn awr dw i'n ffaelu aros am rifyn 38. O'n i meddwl oedd yr enw yn gyfarwydd - Jason Lytle yw canwr gyda Grandaddy, un o'r grwpiau gorau i ddod o'r Amerig yn ddiweddar. Dyma cyfweliad gyda nhw a dyma tirwedd Grandaddy.

4.12.01

Pethau od yn strydoedd dinasoedd UDA.

3.12.01

Dolenni ar hap: posteri sgrinsidan o Efrog Newydd (dw i ddim yn nabod y bandiau, ond mae'r posteri yn arbennig) ; hwyl yn y swyddfa; gêm ar hap; cardiau celf i gyfnewid; ac erthygl am T.H.Powys, cyfoesoldeb a chanoloesoldeb (via wood s lot, ffynnon ardderchog am ddolenni i weflogau a chylchgrawnau diddorol). Reit, amser gwely.
Sylwad diddorol am y gair cydymdeithas ar glosses.net (yr unig flog arall yn y byd lle mae'r Gymraeg ar gael...)

29.11.01

Des i ar draws y difyniad canlynol mewn adolygiad gan Jan Morris o'r llyfr Letters from Wales:
Machynlleth, wretched town, hardly a person could speak English... Welsh seem a pleasant, intelligent race, but I should think awkward to live with... the language is past description.

Pwy a ddwedodd hynny, tybed, a phryd?

Ateb yn y blwch sgwrsio.

28.11.01

Adolygiad gynnar o Lord of the Rings. Mwy o adolygiadau. Dw i’n edrych ymlaen. Ydy hi’n amlwg?
Reswm arall dros dysgu'r iaith: siaradwyr Cymraeg yn ennill mwy.
A'r casgliad yw bod gweithwyr dwyieithog yn ennill mwy, rhwng 8% a 10% yn fwy ar gyfartaledd.

26.11.01

Mae 'na ffeirws newydd yn mynd o gwmpas, a dw i wedi ei ddal. Mae'n broblem os dych chi'n defnyddio Internet Explorer ac Outlook Express, felly dw i wedi troi yn ôl i Opera. Yr unig broblem nawr yw Blogger. Does dim cefnogaeth i Opera, a dyw rhan fwya o bethau handi sy'n gweithio gyda IE5 ddim yn gweithio gyda'r porydd 'ma. (Ac mae MorfaBlog yn edrych yn warthus - rhyw broblem gyda'r CSS, dw i'n meddwl.)

25.11.01

Rhwydwaith di-wifren i Gaerdydd? - yn ôl yr erthygl hon (o'r New Scientist) bydd ffordd newydd o gysylltu i'r we yn cael ei brofi yng Nghaerdydd yn 2002. Bydd y pobl lwcus yn gallu cysylltu ar 4Mb yr eiliad. Anblydihygoel. via kindall
Wilderness and the Hyperreal - erthygl yn y rhifyn diwethaf o'r Whole Earth Review.
Falle mod i’n dwp, ond pan welais i’r llun ’ma o gerddwyr Cymdeithas Edward Llwyd, y peth cyntaf i ddod i mhen oedd cerddoriath thema i Band of Brothers. Cerddwyr Cymdeithas Ed. Llwyd, Castell Allt-goch, 20 Ionawr 2001 Wedi meddwl, es i ar y taith 'na, ac mae'n bosib mod i yn y llun. Pa un ydw i, tybed?

24.11.01

Dyn ni'n disgwyl ffrindiau am swper heno, ac unwaith eto dw i'n coginio Bolenês Madarch a Chnau o'r llyfr hwn. Ac, unwaith eto, dw i'n blogio pan dylwn i fod yn y gegin.
Sut i wneud uwd perffaith. Ac unwaith wyt ti wedi cael dy frecwast, beth am yr erthygl hon gan yr un awdur yn y rhifyn newydd o'r Rhestr Ar Wahan: Darllen y Cynllun.
Orisinal - gemau bach 'Fflach'. Dw i wedi godro'r fuwch mewn 17 eiliad. Lot o hwyl.
Yr Eidal Fach Cymru - nage, nid Portmeirion, ond Corris.

23.11.01

gemau.com - gwefan newydd sy'n trafod gemau cyfrifiadurol trwy gyfrwng yr hen iaith. Wastad yn neis i weld mwy o gynnwys annibynnol Cymraeg ar y we. Beth yw to frag yn y Gymraeg 'te?
Enwog yn Korea? Sigmund Groven, canwr yr organ geg o Norwy, yn fwy o seren yn Seoul na Mariah Carey. Chwarae teg iddo fe.
"The harmonica has a melancholy sound that I think hits the Koreans in a special way, because of their tragic history of wars and occupation," Groven said.
National Assembly for Wales: Healthplanonline - credwch neu beidio, mae’r ddolen honna yn anelu at dudalen Gymraeg ei hiaith, er fod y llabed <title>, bob llabed <meta>, sawl llabed <alt> a hyd yn oed enw’r ffeil ei hunan yn uniaith Saesneg. Dw i'n hoff iawn o’r linc ‘Saesneg’ gyda’r testun <alt> sy’n dweud ‘Cymraeg’. Darllen heb ddarluniau? Tyff.
Ddoe, fe brynais Tai, Gwaith ac Iaith, argymhellion Cymuned i Arolwg y Cynulliad o'r Iaith Gymraeg. Wedyn, casglais i lyfr o'n i wedi ei archebu misoedd yn ôl o'r llyfrgell, Reversing Language Shift gan Joshua Shipman. Braf i weld, wrth ddarllen y peth gan Simon Brooks (Cymuned), ei fod e wedi darllen y peth gan Shipman.
Honna Fishman yr adferir iaith leifrifol trwy sefydlogi cymunedau ieithyddol; gan eu diffinio fel y cwlwm rhwng aelwyd, teulu a chymdogaeth. Oherwydd bod hyn yn dasg anodd, ceir tuedd weithiau gan ymgyrchwyr iaith i bwyso am fuddugoliaeth sy'n haws eu cyrraedd, megis darpariaeth yn yr iaith leiafrifol mewn llywodraeth, y cyfryngau ac ym maes statws cyhoeddus.
Pwysleisia Fishman na allai'r rhain fyth gymryd lle y gymuned ieithyddol naturiol.
O ymhwyso dadansoddiad Fishman i Gymru, gellir gweld mai hanes y mudiad iaith fu pwyso am fuddugoliaethau corfforaethol neu ‘symbolaidd’ megis arwyddion ffyrdd dwyieithog, S4C a Deddf Iaith Newydd, yn hytrach na gwarchod ac amddiffyn sail tirogaethol cymunedau naturiol Cymraeg.
O hyn ymlaen, bydd eisiau gwneud gwarchod y cymunedau naturiol Cymraeg sy'n weddill yn brif nod ein hymdrechion i adfer y Gymraeg os yw'r iaith i fyw.

A dyma difyniad o wynebddalen llyfr Fishman:

When one significant section of the community burns with the sense of injustice, the rest of the community cannot safely pretend that there is no reason for their discontent.

22.11.01

gof mewn ciltWn i ddim am y Cilt Cymreig, ond mae 'na rywbeth am Utilikilts™ sy'n apelio ataf.

21.11.01

Cartwn Salon, parodi cyfoesol o TinTin. via robot wisdom
Grwpiau pop Americanaidd gyda'r un enw â phentrefi Ceredigion: beula rhif un mewn cyfres...
Just enough Welsh to impress - cylflwyniad at yr hen iaith gan Lewis Malu Cachu:
If your host has accidentally used gravy powder instead of tea and you find yourself gagging in disgust, you might be asked Beth sy’n bod? / What’s the matter? You can always evade answering by saying O, dim byd / Oh, nothing. If you’re feeling cruel, though, try Mae’r te ma’n ofnadwy / This tea is awful.
Neis iawn.

20.11.01

Fersiwn Gymraeg o Harry Potter ar y gweill. Fel arfer fyddwn i ddim yn sôn am HP fan hyn. Dw i heb ddarllen, a heb ddiddordeb, mewn unrhyw iaith. Ond wrth darllen yr erthygl am Tolkien (Tollers, i ni), sylwais i fod 'na mugwumps yn llyfrau Rowlings. Oes cysylltiad i mugwumps Bill Burroughs, tybed?
Gweflogiau: hanes byr. Cyflwyniad da at hanes datblygiad y weflog fodern, oddi wrth un arall o'm hoff cyfranwyr Metafilter.
Diwrnod Heb Brynu - 24ain Tachwedd 2001 - cymryd rhan gan beidio cymryd rhan!
Erthygl ddiddorol (ac yn hir) am Tolkien yn y London Review of Books.
Nid Cawl yw Waeguk - gweflog gan un o'm hoff gyfranwyr Metafilter. Mae Stavros/Bosco yn byw yn Ne Korea, ac mae e'n sgwennu am ei wlad fabwysiedig gyda chymysgedd egnïol o hiwmor, casineb a Jack Daniels. Gwerth ei ddarllen, ond nid i'r gwangalon.

19.11.01

Mae Sir Gâr yn wneud yr un peth ’to.
Nos Sadwrn, adeiladais i dân yn y stafell ffrynt a setlais i lawr i wylio Derwyddion - Byd y Shaman ar S4C. Syndod mawr (not), oedd y rhaglen yn rwtsh arwynebol ar y cyfan, a ddysgais bron ddim byd diddorol ond y ffaith bod Dai the Drop yn gweithio fel rhyw fath o iachwr oes newydd y dyddiau hyn. Am well gyflwyniad at shamanyddion y byd modern, dyma rhestr o erthyglau am entheogens (nawr, dyna gair sy ddim yn ymddangos yng Ngeiriadur Bruce) o'r weflog abuddhas memes.

18.11.01

Ffordd y ffon - paid rhoi clec ar y dolen 'na oni bai bod lot o amser 'da ti i wastraffu. via usr/bin/girl

17.11.01

MorfaBlog: ots del yw’r del beth? Wrth bori trwy'r rhestr atgyfeiriadau, des i ar draws tyst bod rhywun wedi trïal cyfieithu MorfaBlog i'r Eideleg, heb lawer o lwyddiant. Dylen nhw fod wedi trïal cyfieithu y versione inglese, falle.
Faint sydd ynddo fe? Sawl pecyn bach o sos coch allwch chi roi mewn un botel blastic Heinz? Ac yn y blaen. via metafilter
Newydd cyrraedd adre ar ôl trip ardderchog i'r Gogledd. 'Sdim amser 'da fi sgwennu nawr, ond hoffwn ddweud 'helo' wrth Eileen, a diolch iddi hi am ddweud wrth rhestr postio Clwb Malu Cachu am y cwrs undydd.

16.11.01

Dyn ni'n bant i'r gogledd mewn sbel. Aroswn yn Mlaenau Ffestiniog heno (gobeithio bydd amser 'da ni i ymweld â siop lyfrau'r Hen Bost a chartref olaf John Cowper Powys). Dydd Sadwrn awn ni i gwrs un dydd ym Mlas Tan y Bwlch, cwrs Llafar Gwlad.

15.11.01

Dw i newydd ddod ar draws archifau fy hen flog Saesneg ei hiaith. Wedi ychwanegu y pedwar mis - Ionawr - Ebrill 2001 - i'r archif ar eich chwith (fy ne innau). Dechreuais i flogio ar Nos Galan 2000 - does dim bywyd 'da fi, nag oes?
Lluniau cefndiroedd i'ch cyfrifiadur. Dw i'n defnyddio hwn ar hyn o bryd.
Dyn ni gyd wedi adeiladu cestyll tywod. Mae rhai pobl yn gallu breuddwydio mewn tywod. via kindall
Ydyn ni’n cael hwyl eto? - dw i heb weld Zippy ers talwm. Wrth meddwl am Zippy, ro’n i’n tybio a oedd cysylltiad Cymreig rhywle ym myd afreal Bill Griffith (ar wahan â’i enw, wrth reswm). Wedyn, welais i strip heddiw yn y SF Gate - (’sdim paraddolen - copi fan hyn).
What's Welsh For Zen - lluniau gan Dave McKean i lyfr John Cale. Os dych chi'n lico stwff McKean, triwch onetwentyeight hefyd. via metafilter

14.11.01

Tynged yr Iaith - testun cyflawn i ddarlith hanesyddol Saunders Lewis. (Fformat pdf - angen darllenydd Acrobat. Neu mae fersiwn HTML hefyd)
Nid dim llai na chwyldroad yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru heddiw. Trwy ddulliau chwyldro yn unig mae llwyddo...
Diolch i Gareth Catchphrase am ddweud doedd fy nghyfeiriad e-bost (fan 'na ar eich chwith chi, fy ne innau) ddim yn gweithio. Ro'n i wedi camsillafu. Y twpsin. Mae'n iawn nawr, gobeithio. Dw i'n lico ebost, hint hint.
Neithiwr, ces i e-bost oddi wrth y ferch dlysaf yn yr ysgol; dwedodd hi I wish I was you. Doedd dim syniad ’da fi am beth oedd hi'n sôn. Neithiwr, yfais hanner potel o Jack Daniels a threuliais chwech awr gan chwarae NetHack, gêm Dungeons & Dragons o Oesoedd Tywyll y rhyngrwyd. Yn fuan, bydda i’n dri deg pump oed. Es i’r gwely, ac yn oriau man y bore darllenais i:
The world is charged with the grandeur of God.
It will flame out, like shining from shook foil;
It gathers to a greatness, like the ooze of oil
Crushed. Why do men then now not reck his rod?
Generations have trod, have trod, have trod;
And all is seared with trade; bleared, smeared with toil;
And wears man’s smudge and shares man’s smell: the soil
Is bare now, nor can foot feel, being shod. And for all this, nature is never spent;
There lives the dearest freshness deep down things;
And though the last lights off the black West went
Oh, morning, at the brown brink eastward, springs —
Because the Holy Ghost over the bent
World broods with warm breast and with ah! bright wings.
Gerald Manley Hopkins
Mae fy llygaid yn sych, bleared, smeared gan y sgrîn anobeithiol bach ’ma. Rhaid gweithio yn yr ardd y bore ’ma.

13.11.01

Does neb yn berffaith.

11.11.01

Fe welais i Croupier (1998) heno. Ffilm fendigedig. Dw i'n meddwl. Un o'r ffilmiau sy'n aros gyda chi am sbel. Beth yw'r ffilm orau wyt ti wedi'i gweld yn ddiweddar?
Gwersi mewn teipograffi - stwff ardderchog oddi wrth WebMonkey. via haddock
Mae Ken Kesey wedi mynd ar ei drip olaf. Pellach.
Dw i newydd brynu textad Metafilter. Dylwn i ddechrau ar y fersiwn Saesneg o'r wefan fach hon. (Ýpdêt: dw i wedi wneud ‘y fersiwn Saesneg’: MorfaBlog: Who Cares?. Amlieithrwydd ahoy!)
Hwn yw y Gododdin. Aneirin ae cant. Mae Gododdin wedi mynd nôl i’r Hen Ogledd. Ac mae Russell Goodway yn dangos bod ei grap e ar hanes cynnar Ynys Prydain yn dipyn bach yn gryfach na’r un Jack Straw*, ond nid llawer:
“Since the Gododdin were a tribe of South Scotland, I understand why Scotland should claim that Arthur was Scottish,” he said. “But I am bound to say that the case for a Welsh Arthur is stronger.”
Wel, Cymry oedd y Gododdin, Russ, felly wyt ti yn llygad dy le. ’Sdim angen ymddiheuro dros y ffaith. Yr oedd llythyr ddoe yn y Western Mail gan Lyn Jenkins, Gwbert, oedd yn wneud pwynt da iawn am duedd o gyfeirio at y Cymry fel y Celtiaid:
That land may now be called Scotland, but those people [Owain ab Urien et al] were indisputably Welsh — they could hardly be anything else with those names! Strathclyde or Ystrad Clud was Welsh speaking until about 1250 at least. The Welsh have a continuous history of [sic] this island since at least 600 BC. Why do so many historians attempt to write us out of the history of England and Scotland by changing our identity?
* Mewn erthygl yn Yr Observer yn diweddar, dwedodd Straw taw’r Eingl-Sacsoniaid oedd y first people in Britain. Sa i’n gallu ffindio’r erthygl ar wefan y Guardian, yn anffodus.

10.11.01

Mae ffidilwraig Siân Phillips yn neud gig yn Aberaeron ar 22ain mis Tachwedd, Gwesty'r Castell, dechrau am 7.30, mynediad £4.00. Yr unig stwff ganddi dw i wedi clywed hyd yn hyn yw'r trac ar y CD ffidil yng nghyfres FflachTRADD. Mae'r CD yn arddechog, fel bob un arall yn y cyfres.
Wrth edrych ar y dyddiad palindromig heddi, o'n i'n trïal meddwl o balindrom Cymraeg. Dw i'n anobeithiol am feddwl o bethau fel hyn, dim ond pethau twp fel Mae fy enw ydy W.N.Eyfeam ydw i'n gallu neud. Beth amdani?
Llawer o ymwelwyr, yn sydyn iawn. Fel arfer, daw ryw hanner dwsin o bobl y dydd. Roedd 45 ddoe. Rhywbeth i neud â Catchphrase, tybed? Wn i ddim, does neb wedi gadael neges. Paid bod yn swil, dweud dy ddweud. Wrth sôn am Catchphrase, braf i'w weld eu ‘hidiom y dydd’ i fy mhenblwydd:
February 19th
hel straeon.
- to gossip. (lit.) to collect stories.

9.11.01

Gwefan newydd Cass Meurig, sy'n canu'r ffidl a'r crwth gyda Fernhill a Pigyn Clust.
Dw i wedi newid y system trafod i blogback ar ôl cael problemmau gyda Reblogger. Ro’n i’n trïal rhoi ymateb i rywbeth oedd rhywun wedi sgwennu (helo Gareth, a diolch am dy sylwadau - sori bod nhw wedi cael eu dileu!) ond oedd y system yn crasho bob tro. Mae blogback yn edrych yn well, hefyd, ac yn fwy customizable. Gallwch ddweud eich dweud gan roi clec ar unrhyw linc gadael neges (i ddechrau trafodiaeth newydd) neu neges(euon) (i ymuno â sgwrs). Sa i'n credu bod hi’n bosib i roi dolenni HTML yn eich sylwadau ar hyn o bryd.
Ar fy ffordd yn ôl o’r Llong, gyda llond bola o Flodeuwedd, fe ddysgais fy ngherdd Cymraeg cyntaf o’r cof, ‘Cilmeri’ (o Gerddi’r Cylwilydd) gan Gerallt Lloyd Owen. Ie, yr un sy’n dechrau Fin nos, fan hyn, Lladwyd Llewelyn. Byth nid anghofiaf hyn. Erbyn i mi gyrraedd top bryn Morfa, oedd pob gair gyda fi ac o’n i mor hwylus a’r brân goesgoch, screchian y geiriau trwy’r coed. Byth nid anghofiaf hyn. Tybed, oes ’na berson arall yn y byd sy wedi yfed cymaint o Flodeuwedd â fi?
Rhwydwaith Genedlaethol Seiclio Sustrans - prosiect i ddod â gweithiau celf i Lon Las Cymru, rhwydwaith genedlaethol llwybrau beiciau Sustrans.
Dyma’r Newyddion - cyfres o fwletinau newyddion a chwestiynau ar y cynnwys oddi wrth Catchphrase. Perffaith i ddysgwyr sy newydd wneud y ferf amhersonol cryno (fel fy ngrwp dydd Iau sy'n cwrdd yn y Tabernacl).

7.11.01

Dydd Llun, bu farw Ken Hale, ieithydd a gweithredwr dros ieithoedd lleiafrifol.
"The loss of local languages and of the cultural systems which they express, has meant irretrievable loss of diverse and interesting intellectual wealth. Only with diversity can it be guaranteed that all avenues of human intellectual progress will be traveled."
"The Human Value of Local Languages" - Ken Hale
Prosiect Rosetta - cronfa data o 1000 o ieithoedd, gan gynwys y Gymraeg. Gall unrhyw lan-lwytho testunau i’r archif. Bant â chi, ’te.

6.11.01

Nawr 'te, mae hwn yn lot o hwyl.
A weloch cynhyrchiad newydd o ddrama Gwenlyn Parry, Y Twr, noson o'r blaen. Bendigedig.
Amser maith yn ôl, oedd rhyw sôn rhywle am greu Amgueddfa Ar-Lein Arwyddion ‘Cymraeg’, h.y. lluniau o arwyddion heol, neu arwyddion masnachu neu, hyd yn oed, arwyddion Eisteddfodol sy wedi cam-sillafu. Am wn i, ni ymddangosodd y fath peth felly fe af i ati i'w greu. Oes engreifftiau 'da chi? Cysylltwch â fi, os felly. Diolch i Harry Campbell am y ddau ola, uchod.

5.11.01

Wikipedia: Welsh language - gall unrhywun ychwanegu neu newid tudalennau Wikipedia - bydda i'n chwarae gyda'r dudalan hon nes ymlaen.
Cymraeg y Fynwent - geirfa i helpu helwyr achau. via rhestr postio clwbmalucachu

1.11.01

Croeso arbennig i bwy bynnag sy wedi'n ffeindio ni o Siapan.

30.10.01

::glosses.net:: - gweflog gan myfyriwr/wraig ieithoedd. So'r wefan yn llwytho i fi ar hyn o bryd, ond hoffwn i weld mwy o stwff fel hyn am y Mabinogi.
Heno, dw i'n ceisio darllen Gweith Gwen Ystrad gan Taliesin. Bob gair yn gyfrinach i fi, ond bydd y gwaith yn talu.
Gweleis wyr gwychyr yn llyud.
A gwedy boregat briwgic.
Sa i'n cofio os ydw i wedi blogio'r stori hon o'r blaen, ond mae'n debyg bod siarad Cymraeg yn helpu plant gyda mathemateg:
While ‘ten’, ‘twenty’ and ‘thirty’ in English tell us little about their relative value, the Welsh names do. ‘Deg’, ‘Dau Ddeg’ and ‘Tri deg’, indicate ‘ten’, ‘two-ten’ and ‘three-ten’, in the same way that ‘Tri deg dau’ (32) and ‘un deg tri’ (13) explain their values through their names. To learn the names of numbers in Welsh, you have to learn the numbers for one to ten and the rules for combining them.
Posibilrwydd arall, wrth gwrs, yw bod addysg dwyieithog yn helpu plant yn gyffredinol gan ddatblygu eu sgiliau deongliadol. Dw i ddim yn gwybod: beth wyt ti'n feddwl?

29.10.01

Ten New Songs gan Leonard CohenMae albym newydd 'da Leonard Cohen? Does neb yn dweud dim byd wrtha i.
Newydd ychwanegu bwlch chwilio Daypop (lawr ar waelod y dudalen) ar ôl ffindio'r ddau stori isod trwyddo fe.
Newyddion da i'r rhai ohonom sy'n breuddwydio am fynediad cyflym i'r we: £18.5 miliwn i hybu llydanfand yng Nghymru. Dyma'r datganiad i'r wasg o'r Cynulliad.
Erthygl o'r National Geographic am ddysgu Cymraeg yng Nghaerdydd:
Welsh is a guttural language, and for us it meant doing things with our uvulas we had never done before. “You need to drink lots of coffee,” Carole added encouragingly, “to get the spit going in your mouth.”

28.10.01

Darn bach yn Linesandsplines sy'n sôn am orthograffi ieithoedd brodorol America:
If I remember right, many writing systems were imposed on tribes by European missionaries, mostly in the nineteenth century. Bringhurst said that the mid-1800s were the heyday for devising new alphabets (novel sets of symbols, not new fonts) and so the Native American languages provided many opportunities for this sort of stuff.
Y Wennol - straeon ac adnoddau eraill ar gyfer dysgwyr. Diolch i Chris Castle am fy atgoffa am hyn.

26.10.01

Stori diddorol o'r BBC am ymdrechion cwmni teganau Lego i atal trychineb cysylltiadau cyhoeddus. Yn eu gêm uwch-dechnoleg newydd, Bionicle, mae Lego wedi dwyn enwau Polynesaidd (gan gynnwys Tohunga, sy'n golygu iachäwr brodorol) am eu harwyr robotaidd plastig. Maen nhw'n cael eu herio gan Maui Solomon, cyfreithwr sy'n arbenigo mewn hawliau eiddio deallusol ac hawliau a rhwymedigaethau pobl brodorol.
Cyfieithiadau o dermau y Rhwyd - oedd rhywun yn dweud wrtha i ddoe does dim sôn am ”gwefan“ yn y ail-argraffiad Geiriadur Yr Academi. Dyma rhestr gan Dafydd (fydd.org), ac eraill.
Llais Ogwan - Papur Bro Dyffryn Ogwen - ond ddim wedi cael ei ddiweddaru ers mis Hydref 2000. Oes 'na bapur bro ar lein ar hyn o bryd?

25.10.01

Seicedelia yn dy gwrw - daeth y llun 'ma o oriel "cwrw dan y microscop". Anhygoel. Fyddai i byth yn edrych yn fy ngwydr yn yr un ffordd 'to. via swishcottage
Iaith:Ysgolhaig yn tanio'r drafodaeth - stori BBC. Mwy o fanylion yma, yn erthygl Saesneg ei hiaith sy'n ychwanegu pethau fel “Less than 20% of the population in Wales speaks the language”. A beth mae hynny'n golygu yn y cyd-destun 'ma?
Newydd dod ar draws system trafodaeth arall sy'n edrych bach yn well na'r un dw i'n ei ddefnyddio, pan sylweddolais i dyw e ddim yn eich gadael chi rhoi dolenni yn eich sylwadau. Felly, er bod neb wedi defnyddio fe ers mis neu fwy, Reblogger amdani o hyd.
Êîðíñêèé ÿçûê - tudalen (yn Rwsieg) sy'n sôn am Gernyweg.

24.10.01

Dau o'r dysgwyr yn nosbarth Wlpan, Llangrannog yw Lizzie a Mick Shaw, Pant-gwyn, Tanygroes. Maen nhw'n aelodau Cambrian Organics, grwp newydd sy'n cynhyrchu a dosbarthu cig organig o Orllewin Cymru i'r byd a'r bettws.
Newydd ail-ddarganfod archifau MorfaBlog i fisoedd Ebrill, Mai a Mehefin eleni.
Llongyfarchiadau i Dave a Mollie a chroeso i'r byd Mara fach.
Dysgu Ieithoedd Brodorol - gwefan o Brifysgol Gogledd Arizona i'r rhai sy gyda diddordeb mewn ieithoedd brodorol. Llwyth o ddolenni diddorol ac erthyglau fel hyn sy'n sôn am diwylliant a chymuned Hopi:
...language instruction is a community effort; it cannot be left to the formal teachers alone. Hopi must be spoken in the homes, kivas, plazas and all other public places. Children must have a reason to speak it and everyone must be involved.
via rhestr postio ELL
Cyhoeddi gwirydd sillafu Microsoft yn Gymraeg - stori BBC. Dim ond gyda Office XP bydd hyn yn gweithio, mae'n debyg, ond mae'n can yn y cyfeiriad iawn tuag at normaleiddio'r iaith yn y byd gwybodaeth technoleg. Ond mae 'na rywbeth dw i ddim yn ei ddeall: O stori BBC:
"Mae'r gwirydd sillafu a chysylltnodydd yn sicrhau fod defnyddwyr PC ym mhob rhan o'r byd yn gallu gwirio'u Cymraeg yn rhad ac am ddim o hyn ymlaen, diolch i gydweithredu agos rhwng y Bwrdd, Canolfan Bedwyr a chwmni Microsoft," ychwanegodd.
O wefan Microsoft:
The estimated retail price for the Proofing Tools for Office XP CD is $79.95 US.
Ydw i'n colli rhywbeth fan hyn?

23.10.01

Gwefan Christopher Meredith, un o'm hoff nofelydd Eingl-Cymreig, sy'n cynnwys detholiad ac adolygiad o'i nofel Griffri. (A dyma grynodeb Cymraeg ei iaith o'r nofel.)

21.10.01

Apology
Yn anffodus nid oes copi Cymraeg o'r tudalennau hyn ar gael ar hyn o bryd. A fyddech cystal â defnyddio'r botwm English ar y porwr er mwyn mynd nôl i'r dudalen Saesneg.
Mynd nôl? Sa i wedi gweld y tudalen Saesneg a does dim lot o ddiddordeb 'da fi, dweud y gwir. Dych chi erioed wedi gweld tudalen "Apology" fel hyn sy'n ymddirheuro nid yw'r fersiwn Saesneg ar gael?
Cwm Treweryn, Hydref 21, 1965 cofia dreweryn Yr oedd cry’ Gymry ar “guard” Yn fflîd wrth enau’r fflodiard, I droi’n ôl y lladron hwn — Eryrod Cwm Tryweryn, Heb groeso na chinio chwaith, Na glorio’n eu bwnglerwaith. Alun Cilie

20.10.01

Erthygl dda am deipograffiaeth ar y we yn y rhifyn newydd A List Apart. Wrth sgwennu ar y flog ’ma, dw i’n teipio pethau fel “&acirc;” (i wneud â) bob dydd ond, fel arfer, dw i’n anghofio am y collnodau a dyfynodau cyrliog sy’n helpu wneud testun ar wefannau yn fwy darllenadwy. Ydyn nhw’n helpu? Ydy “hyn” yn edrych yn well na "hyn"? Ydy hi’n wir taw yn y manylion mae Duw yn byw ? Neu ydw i’n mynd bach yn rhy refrol? Ac yn fwy pwysig byth, fydda i’n cael llawer mwy o ymwelwyr yma trwy gor-ddefnyddio geiriau fel rhefrol a chontiau yn fy sylwadau? Gawn ni weld.
Celfyddyd cysyniadol yn sbwriel - swyddogol!
"I didn't think for a second that it was a work of art - it didn't look much like art to me. So I cleared it all into binbags and dumped it."
Geirdarddiad y Wyddeleg
the irish word for 'jellyfish', 'smugairle rón' [smug-er-le rone] literally translates to 'seal snot'.
Hyfryd. Ond, yn ôl Geiriadur Bruce, un o’r geiriau Cymraeg am jellyfish yw contiau môr. Weithiau, dw i ddim yn edrych ymlaen at fy mreiddwydion beunosol.
Meters a morphin - ddrama fer gan Betsan Wyn Williams.
Rhieni dros Addysg Gymraeg - newydd dod ar draws eu gwefan ac mae 'na llawer o stwff diddorol i'w ddarllen hefyd. Ond rhaid fod y peth gorau yw'r bys bach sy'n ymddangos uwchben y dewislen ar y dudalen flaen. Tro cynta welais i fe, o'n i'n meddwl oedd e'n dafod bach. Neis.

18.10.01

Tro nesa dw i'n mynd i Iwerddon, rhaid i mi ymweld â Tŷ Bwyta Dwyers, yn Waterford. Yn y cyfamser, dw i am ceisio rhai o'u ryseitiau. Ffindes i'r wefan trwy dolen i morfablog gan Caitriona, merch y teulu sy'n rhedeg y tŷ bwyta a cynllunydd gwe chwaethus iawn.

17.10.01

Mae Caterina wedi ail-gynllunio ei safle. Sa i wedi darllen caterina.net am sbel, ond mae ei hadolygiadau llyfrau yn wastad werth eu darllen. Braf i weld y fath brwdfrydedd dros lyfrau. (Ar yr un nod, cer am gip ar lyfrgell ar-lein Mark& - mae Mark yn hala ei lyfrau trwy'r bost at unrhywun sydd eu moyn: falle nid i Gymru, ond ti byth yn gwybod...)
Ces i ganlyniadau cyntaf o'r Brifysgol ddoe. Sgorais 20 allan o 20 ar ymarfer treigladau, a 18 o 20 ar droi brawddegau i'r iaith safonol. Paid â chwerthin yn y cefn; treuliais i lot o amser arnyn nhw - sori, arnynt. Dwedais i wrth fy mam ar y ffôn neithiwr. Gofynodd hi pam na ches i ganlyniadau mor dda tro nes i radd y tro cyntaf (yn Nhreforys, 1987-90). Un reswm posibl: oedd bywyd cymdeithasol 'da fi pan o'n i'n stiwdent ifanc. Nes i ddim ffeindio llyfrgell y Polytechnig tan mis Tachwedd. Ond oedd staff i gyd yn yr undeb yn fy nabod i. Reswm arall: y tro 'ma mae diddordeb go iawn yn y pwnc mod i'n ei astudio. Oedd rhai o'm gysiau yn y Poly yn ddigon diddorol, a rhai o'r athrawon yn arddechog, ond, ar y cyfan, dewisais i gyrsiau achos oedd fy ffrindiau yn eu wneud, neu achos do'n nhw ddim yn swnio yn rhy anodd. Tro 'ma, dw i'n trïal cael gafael ar bobeth sydd ar fy rhestr darllen a stwff ychwanegol hefyd. Swot merchetaidd, neu beth?

14.10.01

Annywyl, Rheinallt, Annwyl! - adolygiad (yn Saesneg) o Bukoski gan Rheinallt H Rowlands.

13.10.01

Rali bach yn Aberystwyth y bore 'ma. Edrych ymlaen at weld lluniau o Angharad Tomos a fi ar yr un protest. *yikes* Dw i ddim yn teimlo cweit yn gartrefol ar brotestiadau Cymdeithas yr Iaith, er mod i'n cytuno â'r galw am Ddeddf Eiddo. Wastad yn gweld pethau o tu mas ydw i, trial darllen gwefusau'r heddweision ("Hei, mae'r boi 'na'n stico posteri ar ffenestri Swyddfa'r Cyngor. Ddylen ni ei arestio neu rywbeth?") yn lle gwrando ar yr areithiau. Wedi'r protest, fe es i lyfrgell y Brifysgol i gael gafael ar erthyglau ambyti barddoniaeth Gerallt Lloyd Owen. Mae 'a cymaint o dwll rhwng y gweledigaeth sy 'da ni oddi wrth ein beirdd (ac ein cantorion, wrth gwrs) a beth sy'n digwydd ar y strydoedd. Nid ar bobl dafod y ddraig mae bai am hynny, wrth reswm - maen nhw'n neud llawer mwy na'r rhan fwya ohonon ni. Ach. Jyst teimlo bach yn isel. Dylwn ni ymweld â'r dysgwyr yn 1142.

12.10.01

Os diddordeb 'da chi mewn bod ar y teledu? Mae Cwmni Hon am wneud rhaglen am y wefan Clwb Malu Cachu ac maen nhw'n moyn dysgwraig (neu ddysgwr, maen nhw'n mynd yn ddesperet!) sy wedi defnyddio'r safle ac sy'n fodlon i ymddangos ar S4C Digidol. Byddan nhw'n ffilmio yn Llambed dydd Iau nesa. Os oes diddordeb, cysylltwch â Catrin Mears.

10.10.01

Papur Dyddiol Cymraeg ? Neges oddi wrth Mercator:
Ers dechrau mis Awst 2001 bu Canolfan Mercator ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth o dan oruchwyliaeth Ned Thomas yn gweithio ar gynllun ymchwil i weld sut orau y gellir sefydlu a chynnal papur newydd dyddiol Cymraeg. Cafwyd nawdd gan y Comisiwn Ewropeaidd, Awdurdod Datblygu Cymru a Phwyllgor Cymru Biwro yr Ieithoedd Llai. Ein bwriad yw paratoi cynllun ymarferol a gweld ei wireddu ond, i sicrhau hynny, mae'n rhaid ymgynghori'n eang a chydweithio tuag at y nod. Os ydych am fynegi barn am yr hyn a fyddech yn hoffu gweld mewn papur o'r fath mae'n bosib cwblhau holiadur y prosiect ar ein safle we.
Gweithiais y bore 'ma, symud coed tân i Rachel. Enillais 7.5 Teifi. Dw i am wneud gwaith ar wefan partner Rachel, sef Ravi. Mae Ravi'n canu'r kora (offeryn telynaidd o'r Affric) a bron pob offeryn arall yn y byd, mae'n debyg. Mae 'na luniau ar ei wefan o'i ymweliad â Brithdir Mawr, "llwyth colledig" y Preseli.

8.10.01

Mae gan Noah Grey gasgliad hyfryd o luniau cefndiroedd.
Mijnkopthee.nl, minstens... - weflog o'r Iseldiroedd. Ddim yn deall gair, ond mae hi'n bert iawn. View, Source.
Neithiwr, ar 1142, fe ddechreuais ddysgu Cymraeg i'r EFTiaid. Braf i weld cymaint o ddiddordeb yn yr hen iaith ymysg ein ffrindiau Americanaidd. (Ac os wyt ti wedi'n cyrraedd o gyfeiriad frykitty: croeso mawr i ti.)

6.10.01

Adolygiad Gorkys o'r New York Press
It’s a link between earthy, backward-looking folk and arty, self-conscious, "futuristic" music that basically owes its existence to the German avant-garde. And to think that it happened in Wales.
Pam mae hynny mor anodd i'w gredu? Ydyn nhw'n meddwl bod ni ddim wedi clywed o Faust a Can yng Nghymru fach?
Linklust - gwefan newydd, tipyn bach fel Metafilter, ond yn Ewrop.

4.10.01

Pam Fi, Duw? Mae John Owen wedi marw.

2.10.01

Claire yn y Cymuned o'r Guardian (12/9/01). diolch i maff, eto, am ei sganio

1.10.01

via maff

30.9.01

29.9.01

Ro'n i wedi anghofio am afon ceiriog.

27.9.01

Wyt ti'n teimlo'n nauseous?
i love the fact that the cash machines in england aren't bilingual like they are in wales. no more cymraeg for me, mate.
Mae llyfr gwestion gan Simon, gyda llaw.
Golygfeydd Iaith gan Bobl Brodorol a Lleiafrifol wedi'u casglu gan Terralingua. Gyda cyfraniadau oddi wrth pobl brodorol Gogledd America, Awstralia, Gogledd Ewrop a Chymru. Nid jyst yng Nghymru oedd y Welsh Not yn cael ei ddefnyddio.
Puteindra Diwylliannol yn Hawai'i.
While this propaganda is churned out to local residents, the commercialization of Hawaiian culture proceeds with calls for more sensitive marketing of our Native values and practices. After all, a prostitute is only as good as her income-producing talents. These talents, in Hawaiian terms, are the hula, our dance; our generosity, or aloha; the u'i or youthful beauty of our women and men; and the continuing allure of our lands and waters, that is, of our place, Hawai'i.
Swnio'n gyfarwydd?
Wedi bod yn siarad â'm ffrind Maff am normaleiddiad ieithyddol: syniad anodd iddo fe, fel Saes uniaith i'w ddeall. Wrth trafod y peth gyda fe (a chwarae teg iddo, faint o Saeson sydd gyda diddordeb yn y fath peth?) roedd rhaid i mi feddwl yn ddyfnach. Un peth sy'n holl bwysig, yw'r angen i weithio mewn cyd-destun rhyngwladol ac i beidio bod yn ynysol: does dim byd arbennig i'n sefyllfa yng Nghymru. Mae'r erthygl hon yn sôn am y ffordd mae'r we wedi datblygu fel ffenomen amlieithog. Mae 'na lot yn yr erthygl dw i ddim yn cytuno â fe, ond mae hyn yn taro tant:
Until a critical mass of internet penetration in a country builds up, and a corresponding mass of content exists in the local language, the motivation to switch from English-language sites will be limited to those for whom issues of identity outweigh issues of information.
Yma yng Nghymru, dyn ni'n gwastraffu egni ar gwyno bod Yahoo yn gwbl Saesneg neu bod angen diweddiad dot cym cyn i ni ddechrau creu'r we Gymraeg. Mae hyn yn warthus. Dych chi moyn pori'r we yn y Gymraeg? Llwytho Opera a'i phecyn ieithoedd Celtaidd. Dych chi moyn ymchwilio'r we yn y Gymraeg? Defnyddiwch Google Cymraeg. Dych chi mo'yn cynnwys, annibynnol, anfasnachol. Creuwch fe eich hunain! Mae 'na degau o filoedd o bobl yn defnyddio Blogger ond, am wn i, dim ond un person sy'n cadw gwe-flog Cymraeg ei hiaith. Y cwyn o'r sîn blogio'n Saesneg yw bod popeth yn rhy losgachol, gyda phawb yn cyplysu eu blogiau â blogiau eu ffrindiau a neb yn dweud unrhywbeth newydd. Rhaid bod y sîn blogio'n Gymraeg yr un mwya mastyrbaidd ar y we! </rhefru>
Disgrifiad o gwrs mewn Linguistic Diversity and Inequality yng Ngholeg Cymunedol Metropolitan, Omaha, Nebraska. Mae'r cwrs yn edrych yn wych, ond ddim yn debyg byddai'n bosib i'w wneud o fan hyn. Beth sy yn ddefnyddiol yw'r rhestrau adnoddau i gyd-fynd â'r cwrs. Mae tudalen yn cynnwys llyfryddiaeth, rhestr o gynodolion, a chasgliad o gysylltiadau gwe. Digon i'w ddarllen, 'te.
Dyma rhywbeth i gnoi cil drosto, sylwadau Cynog Dafis ar y gair cymuned:
Petai Raymond Williams yn sgrifennu yn y Gymraeg, nid wyf yn credu y byddai e wedi oedi'n hir gyda'r gair cymuned. Fel y gair cyfrifiadur, nid yw'r gair cymuned yn ymddangos o gwbl yng nghyfrol gyntaf Geiriadur Prifysgol Cymru. Nid oedd cyfrifiaduron yn bodoli ryw lawer yn y 50au pan gyhoeddwyd y rhannau o'r Geiriau sy'n ymdrin â geiriau yn dechrau gyda'r llythyren 'C'. Ond nid felly gymunedau! Y gwir yw mai dim ond yn ddiweddarach y teimlwyd fod angen yn y Gymraeg air oedd yn cyfleu'r gair Saesneg community yn ei ystyr fwyaf haniaethol, a mwyaf arwynebol hefyd efallai. Mae yna wers i ni Gymry dwyieithog yma. Beth ydyw'r gair cymuned mewn gwirionedd? Dim mwy na glòs prennaidd ar y gair Saesneg - enghraifft o'r perygl, wrth inni geisio trafod syniadau deallusol yn y Gymraeg, i'r iaith ddirywio'n ddim mwy nag adlewyrchiad gwan o'r Saesneg. A hynny am ein bod yn teimlo'n rhy aml fod angen union gyfatebiaeth rhwng cysyniad gwreiddiol yn Saesneg a chysyniad yn Gymraeg. Dyna cymuned i chi felly, gair heb hanes, gair heb fawr o rin.
Ar gael yn Saesneg, hefyd.
Newydd tanysgrifio i'r cylchgrawn Planet a derbynais rhifyn 148 y bore 'ma. Llawn o stwff da, fel arfer: cyfweliad â'r arlunydd tirlun o Sir Benfro, Linda Norris; detholiadau o ‘waith ar droed’ Peter Finch, Cardiff Mix; dwy erthygl ar ‘ddadl y dyfodol’, un gan Ned Thomas ar sensoriaeth gweidyddol yn Ein Cynulliad Ni, a'r lleill gan Mike Parker, Saes a gyd-ysgrifenodd The Rough Guide to Wales ac sy'n neud pwynt da iawn, gwerth ei gofio:
Perhaps now that the general election is out of the way, and politicians are off the short lead, such a debate can continue in a more calm and sober manner. I'm not, however, optimistic about that, given the glaring limitations in media analysis both in Wales and beyond. The supreme irony here is that, being English, I have a much greater freedom to say these things than have Welsh politicians and commentators. While I could only be seen as a small-time ‘traitor’ to my own, the spectre of racism hangs over people like Seimon Glyn who are watching their culture haemorrhage and die. That, in itself, says much about how loaded the dice are, and in whose favour.

26.9.01

Ydy pobl sy'n siarad Saesneg yn fwy debyg i ddiodde o asthma? Neu ydy'r Torygraph jyst yn desperet am newyddion? Dw i lico'r syniad bod siarad Cymraeg yn gallu bod yn amddiffyniad rhag diffyg anadl, ond dyw hi ddim yn swnio'n debyg. [via fark]
Mae'r Onion yn ôl, ac yn well nag erioed. Perffaith.

25.9.01

Ymateb i Argyfwng ein Pobl Daeth y canlyn o erthygl gan Gwyn Edwards yn Y Faner Newydd, Hydref 2001. Geiriau un o Henaduriaid yr Hopi ydyn nhw. (Pwyslais fel yn yr erthygl wreiddiol.)Rydych chi i gyd wedi bod yn dweud wrth y bobl mai dyma'r Unfed Awr ar Ddeg, nawr rhaid i chi fynd yn ôl a dweud wrth y bobl mai dyma'r Awr. Ac mae yna bethau i'w hystyried.
Ble rydych chi'n byw? Beth ydych chi'n ei wneud? Beth yw eich perthynas ag eraill? A ydych yn y berthynas iawn? Ble mae eich dwr? Byddwch yn garfarwydd â'ch gardd. Mae'n amser i lefaru eich Gwirionedd. Crewch eich cymuned. Byddwch yn dda i'ch gilydd.
A pheidiwch ag edrych i'r tu allan i chi'n hunan am yr arweinydd. Gall hwn fod yn amser da! Mae yna afon nawr sy'n llifo'n gyflym iawn. Mae hi mor fawr ac mor gyflym fel bod rhai yn ofni. Fe fyddan nhw'n ceisio dal eu gafael ar y lan. Fe fyddan nhw'n teimlo eu bod yn cael eu rhwygo ac y byddan nhw'n dioddef yn enbyd. Boed i chi wybod fod i'r afon gyrchfan. Dywed yr Henaduriaid fod yn rhaid i ni ollwng gafael ar y glannau, ymwthio i ganol yr afon, cadw ein llygaid ar agor a'n pennau uwchlaw'r dwr. A dywedaf wrthych am edrych i weld pwy sydd yno gyda chi a llawenhau. Ar yr adeg yma mewn hanes rhaid i ni beidio â chynryd dim yn bersonol, yn arbennig ni'n hunain. Oherwydd y funud y gwnawn ni hynny bydd ein twf ysbrydol a'n taith yn dod i ben. Mae amser y blaidd unig wedi dod i ben. Ymglasglwch at eich gilydd! Alltudiwch y gair ‘ymdrech’ o'ch meddwl a'ch geirfa. Rhaid i bopeth rydyn ni'n ei wneud nawr gael ei wneud mewn modd cysegredig ac yn llawen. Ni yw'r rhai rydyn ni wedi bod yn aros amdanyn nhw.
Oli Olwen, stori i blant gan Angharad Tomos.
Erthygl ddiddorol am fywyd a meddwl Antonio Gramsci. Dw i heb ddarllen Gramsci, dim ond enw yw e mewn llyfr Gwyn Alf Williams. Edrych ymlaen at ddarllen mwy o'i waith.

24.9.01

Ymchwiliad trefol. Un o'm hobiau llai call pan o'n i'n byw yng Nghaerddydd oedd dringo dihangfeydd tân swyddfeydd canol y ddinas a cheisio cyrraedd y to. (Fel arfer, ar ôl noson yn nhafarnau ein prifddinas). 'Sdim byd well 'na eistedd ar ben rhyw swyddfa cyfreithydd a gwylio'r traffig a'r bobl feddw yn y stryd islaw.
Chwilio am gymdeithas Wga-Bwga ar y we...? Ers dros blwyddyn, dw i wedi bod yn aelod o'r "weflog gymunedol" MetaFilter. Os ydy hi'n bosib i greu cymuned ar y we, MeFi yw'r esiampl orau sy 'da ni, am wn i. Dyma'r sylwadau un aelod ar pam mae cymunedau ar-lein yn bwysig. Mae gan MetaFilter dros 11,000 o aelodau, gyda falle 10% ohonyn nhw yn postio'u sylwadau'n gyson (dydw i ddim un o'r cyfranwyr mwya cyson - fel dwedodd y bardd, dw i'n sgwennu Saesneg fel iaith farw...). Fel arfer mae 'na rhyw 20-30 o bynciau newydd i'w trafod bob dydd. Mae pethau wedi mynd bach yn wallgo ers digwyddiadau yn Efrog Newydd a DC, gyda llawer o aelodau newydd, a bron bob cadwyn trafodaeth newydd yn sôn am yr ymosodiadau bu neu'r rhai sy'n dod. Ond, fel arfer mae 'na beth wmbredd o bynciau i'w trafod, gyda man dechrau bob un yn ddolen i rywbeth diddorol rhywle ar y we. Fel cymuned go iawn, gallwch chi ddod ar draws bob math o berson a phob math o farn. Mae rhan fwya o'r aelodau'n dod o Ogledd America, ond mae 'na ddigon o bobl Ewrop, Asia a lleoedd eraill i atal yr Iancs rhag mynd yn rhy hunan-obsesiynol. A nage, nid fi yw'r unig Cymro. Mae goleddf "rhydfrydig" (yn yr ystyr Americanaidd o'r gair) ar y safle, ond mae 'na hefyd geidwadwyr sy'n cymryd rhan yn gyson. Mae croeso i bawb a'i farn, ond dydy'r cymuned ddim yn diodde pobl sy'n treillio (trolling? - pobl sy'n dweud pethau cas dim ond i wylltio pobl eraill) neu bobl sy anwybyddu llinellau mynegi'r cymuned, a gafodd eu creu gan berchen y cymuned, Matt Haughie. Pam ydw i'n sôn cymaint am MetaFilter, sydd, wedi'r cyfan, gwefan Americanaidd, Saesneg ei hiaith? Achos mod i'n meddwl am greu MeFiCymru, gan ddefnyddio'r côd "ffynnon agored" sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Fy syniad yw cael seiat trafodaeth Cymraeg ei hiaith ble y gallwn ni "rannu, cyfoethogi a'n dysgu ein gilydd". "Ond mae seiadau trafodaeth 'da ni'n barod, y twpsin", dw i'n eich clywed chi'n dweud yn syn. Oes, ond ar hyn o bryd dim ond un (am wn i) sy'n cael ei defnyddio'n gyson, sef Seiat y Cynganeddwyr. Mae Negesfwrdd y Cymry Cwl yn beth eitha newydd, ond erbyn hyn mae rhan fwya o'r cadwynau trafodaeth wedi bod yn araf iawn i ddatblygu ac mae nifer o hybysebion arni hi'n cynyddu bob wythnos. Hefyd, mae 'na leoedd fel Cylch Trafod Cymuned, ond mae llinell blaid mewn lleodd felly'n gallu troi'n gylch hudol sy'n cadw'r anghyfarwydd ma's. Mae sawl rhestr e-bostio 'da ni wrth gwrs, ond dim byd (eto, am wn i) sy'n uniaith Cymraeg neu sy'n trafod unrhywbeth ond y Gymraeg. Mae Usenet yn wlad y sbamwyr a'r treillwyr erbyn hyn, ondyfe? Dydw i ddim yn debyg i wneud unrhywbeth ymarferol yn fuan. Ond unwaith bydd y côd ar gael, bydda i'n dechrau chwarae gyda fe ac ymchwilio'r posibiliadau. Os oes awgrymiadau 'da chi, defnyddiwch y blwch trafod isod neu